Rheolwr Agored Cymru yn cipio Gwobr Clodfawr y Diwydiant

Postiwyd ar gan admin

English | Cymraeg

Agored Cymru - Jo Creeden-resized-image

Jo Creeden, Rheolwr Rheoleiddio a Chymwysterau yw enillydd Cyfraniad Eithriadol y Flwyddyn yng Ngwobrau cenedlaethol FAB 2018.

Mae cydweithwyr Jo yn ei disgrifio hi fel “y glud sy’n ein dal ni at ein gilydd” ac fel rhywun sy’n “allweddol ac yn ganolog i’r sefydliad”. Dros y blynyddoedd mae wedi ad-drefnu’r holl brosesau ar gyfer cydymffurfiaeth reoleiddiol yn llwyr, wedi hyfforddi’r rheolwyr newydd eraill, wedi cefnogi 250 o ganolfannau a mwy gan gynnig achrediad y corff, ar yr un pryd â gwarchod integriti dros 400 o gymwysterau. Mae wedi chwarae rhan amlwg hefyd yn y gweithgor rheoleiddio allanol yng Nghymru.

Dywed Kevern Kerswell, Prif Weithredwr Agored Cymru: “Rydw i wrth fy modd bod Jo Creeden wedi ennill, mae’n dyst i’w gwaith caled a’i phenderfyniad. Mae hi wedi arwain drwy enghraifft, ac mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth am ei hagwedd ragorol at waith a’r ynni anferthol a ddaw hi i’w gwaith bob dydd. Wedi’i gyfuno gydag ethos y tîm, mae hi’n dangos nodweddion arweinyddiaeth eithriadol ac mae hi’n gallu trosi cysyniadau lefel uchel yn atebion ymarferol y gall staff eu deall a’u gweithredu”.

Dywedodd Jo: “Rydw i wrth fy modd ac yn freintiedig i ennill y wobr hon. Rydw i’n arbennig o ffodus i weithio gyda thîm sy’n rhannu ymrwymiad cryf at ddysgwyr a chanolfannau drwy Gymru ac sydd yn agored i syniadau newydd a ffyrdd newydd o weithio er mwyn dangos ymarfer gorau.

“Tra fy mod yn ffynnu ar heriau newydd a datblygu syniadau newydd; mae’n hanfodol cydnabod bod angen tîm i symud syniadau newydd er mwyn iddyn nhw ddwyn ffrwyth. Rydw i’n ystyried bod y gydnabyddiaeth hon yn un i’w rhannu gyda’r tîm syfrdanol, sydd wedi mabwysiadu syniadau a dulliau newydd ac wedi gweithio ochr yn ochr â mi er mwyn creu’r hud!”

Roedd Agored Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori arall hefyd, Cydweithrediad y Flwyddyn ac Arloesedd y Flwyddyn.

Mae Gwobrau FAB, sy’n awr yn eu pedwaredd flwyddyn, yn cydnabod y cyfraniadau a wnaed gan sefydliadau dyfarnu a’u gweithwyr tuag at addysg a sgiliau yn y DU yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Newyddion Agored Cymru

More News Articles

  —