Technoleg Newydd – Sgiliau Newydd

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Yr wythnos ddiwethaf bu llond ystafell gynadledda o arweinwyr busnes a sefydliadau sy’n angerddol dros ddyfodol sgiliau yn Ne-orllewin Cymru yn Stadiwm Swansea.com ar gyfer lansiad swyddogol Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau 2022-2025.

Edward Morgan, Chair of the Board speaking at lectern.

Edward Morgan, Chair of Regional Learning and Skills Partnership South West Wales

Thema’r diwrnod oedd “Technoleg Newydd – Sgiliau Newydd” sef thema briodol o ystyried y newidiadau y mae pob busnes ac unigolyn yn eu profi ar hyn o bryd yn y ffordd rydym yn gweithio, yn byw ac yn mwynhau ein hamser hamdden.

Lansiwyd y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau yn swyddogol gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething AS, gan gydnabod y cydweithio a’r cydgynhyrchu a oedd wedi digwydd wrth greu’r cynllun uchelgeisiol ar gyfer y rhanbarth.

Prif nod y Cynllun yw pennu’r blaenoriaethau ym maes cyflogaeth a sgiliau dros y tymor byr, canolig a hir er mwyn datblygu’r potensial economaidd a chymdeithasol ar gyfer economi ranbarthol De-orllewin Cymru. Yn awr, bydd yn helpu i lywio penderfyniadau Llywodraeth Cymru ar gyllid ar gyfer addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.

Dechreuwyd y diwrnod gyda chyflwyniadau ar Sero Net a’r Economi Gylchol, gan rannu enghreifftiau rhagorol o arferion gorau ar waith.

Llwyddodd y siaradwyr i ennyn brwdfrydedd y gynulleidfa gyda negeseuon allweddol ar sut y bydd newid yn effeithio ar bob agwedd ar fusnesau ac unigolion ledled y rhanbarth a’r angen i ni addasu er mwyn cyrraedd y targedau sero net.

Uwchsgilio ar gyfer Dyfodol Gweithgynhyrchu Digidol oedd testun MADE Cymru a chyflwynodd Tony Miles o Batri brosiect newydd cyffrous sydd wedi sicrhau cyllid gan y rhaglen Sgiliau a Thalentau er mwyn edrych ar dechnoleg batris a dulliau o storio ynni.

Ar ôl bore’n llawn lleisiau dylanwadol o fyd diwydiant a gyflwynodd fewnwelediad, arbenigedd, a gwybodaeth ar brif bynciau’r rhanbarth roedd cyfle i fynd i weithdai. Roedd y gweithdai rhyngweithiol yn cynnwys sesiynau holi ac ateb gyda phaneli arbenigol ar:

  • Canllaw i recriwtio a chyflogi prentisiaid
  • Cyfleoedd ar gyfer Cyllido Sgiliau’r Dyfodol trwy raglen Sgiliau a Thalentau y Fargen Ddinesig
  • Cyngor ar – Sut i lwyddo i ennill contract ar dendr

Yn ystod y prynhawn gwelodd y cynadleddwyr drostynt eu hunain sut mae Realitu Rhithwir a Thechnoleg Estynedig yn chwyldroi gofal iechyd. Dangoswyd sut y bydd dulliau addysgu yn newid gan ddefnyddio technoleg newydd.

Daeth y dydd i ben ar nodyn uchel gyda chipolwg ar y ffordd y mae Bluestone Resorts yn arwain y ffordd o ran recriwtio yn y rhanbarth.

Dywedodd Jane Lewis, Rheolwr RLSP “Bu’r digwyddiad yn llwyddiant mawr ac roedd awyrgylch gwych trwy gydol y dydd. Roedd yn hyfryd gweld cymaint o fusnesau yn y digwyddiad a gobeithio bod y pynciau a drafodwyd wedi sbarduno nifer o syniadau arloesol ar gyfer ymgorffori technoleg newydd yn eu ffyrdd newydd o weithio!”

Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-Orllewin Cymru
yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —