Chwilio am Gadeirydd
Arwain llais y sector preifat ac ysgogi newid yn y dirwedd sgiliau

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Ydych chi’n cael anhawster recriwtio staff?

Ydych chi’n teimlo bod yr hyfforddiant sydd ar gael yn diwallu anghenion eich busnes?

Mae Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol De-orllewin Cymru yn chwilio am Gadeirydd.

Logo

Mae Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol De-orllewin Cymru eisoes yn gweithio gydag arweinwyr busnes ledled y rhanbarth ac rydym yn chwilio am Gadeirydd i arwain llais y sector preifat ac ysgogi newid yn y dirwedd sgiliau.

Rydym yn chwilio am arweinydd busnes brwd o’r sector preifat a fydd yn llais i’r diwydiant. Bydd yn arwain y Bwrdd, sy’n cynnwys arweinwyr busnes o bob un o’n sectorau blaenoriaeth. Y nod yw dylanwadu ar newid yn arlwy addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith; defnyddio gwybodaeth allweddol am anghenion sgiliau yn y dyfodol i ddylanwadu ar gwricwlwm yr ysgolion a chefnogi ysgolion; a chydweithio â Chadeiryddion y tair Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol arall i ddylanwadu ar y ffordd mae Llywodraeth Cymru’n dyrannu cyllid ar gyfer sgiliau yn y rhanbarth.

Rôl y Bartneriaeth yw:

  • Gwella gwaith casglu a rhannu data a gwybodaeth rhanbarthol am gyflogaeth a sgiliau.
  • Canfod anghenion busnesau a gweithlu’r rhanbarth yn awr ac i’r dyfodol.
  • Cyhoeddi Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau ac adroddiadau eraill penodol i’r sector pan fydd angen.
  • Sicrhau bod y seilwaith dysgu a sgiliau’n diwallu anghenion economaidd a chymdeithasol y rhanbarth.
  • Arwain y gwaith o gyflenwi’r rhaglen Sgiliau a Thalentau ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Beth rydym yn chwilio amdano mewn Cadeirydd:

  • Gwybodaeth a phrofiad mewn unrhyw sector perthnasol (Deunyddiau Uwch, Gweithgynhyrchu, Ynni, Adeiladu, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Hamdden a Thwristiaeth, Rheoli Bwyd a Thir, Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol neu’r Diwydiannau Creadigol).
  • Profiad cadarn yn y sector preifat.
  • Arweinydd cryf sy’n credu mewn gweithio mewn partneriaeth.
  • Dealltwriaeth o’r amgylchedd strategol ehangach.
  • Gallu cyfleu negeseuon cymhleth i wahanol gynulleidfaoedd yn cynnwys Llywodraeth Cymru.
  • Profiad o gadeirio cyfarfodydd a gweithio mewn partneriaethau amrywiol ar lefel uchel yn cynnwys gwahanol bartneriaethau allanol.
  • Gwaith gwirfoddol yw hwn gydag ymrwymiad o tua 12 diwrnod y flwyddyn.

Y Broses Ddewis

  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 28 Gorffennaf 2023
  • Panel yn cyfarfod ac yn penderfynu: 6 Medi 2023

Os hoffech wybod rhagor neu ymgeisio, anfonwch eich CV neu cysylltwch â Rheolwr y Bartneriaeth Ranbarthol: jelewis@carmarthenshire.gov.uk

Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol ar gyfer de-orllewin Cymru

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —