Ôl-osod – Cadw Contractau’n Lleol
Cynhaliodd Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-Orllewin Cymru ddigwyddiad ym Mharc y Scarlets yn ddiweddar ar gyfer y sector ôl-osod. Roedd yno dorf o dros 100 o weithwyr proffesiynol o’r diwydiant tai, contractwyr adeiladu a rheolwyr cadwyni cyflenwi.
Roedd yn achlysur hanfodol i bobl sydd ar flaen y gad yn y mudiad ôl-osod, gan ysgogi newid er gwell yn y sector tai.
Prif bwnc y drafodaeth oedd prinder sgiliau yn y diwydiant a sut i ganfod arian er mwyn cau’r bylchau.
Agorwyd y digwyddiad gan Ben Burggraaf, Prif Swyddog Gweithredol Diwydiant Sero Net Cymru, a sonidd am rymuso busnesau i greu dyfodol gwyrddach.
Cyfeiriodd Steve Knight a Phil Mason, ar ran MCS a TrustMark, at arwyddocâd yr achrediadau hyn, sy’n hanfodol er mwyn cynnal safonau’r diwydiant.
Ymhlith y siaradwyr eraill roedd Oonagh Gavigan, Rheolwr Prosiect HAPS ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a siaradodd am y syniad o ‘Gartrefi fel Gorsafoedd Pŵer’ (HAPS) a’r weledigaeth ar gyfer tai yn y dyfodol yn ne-orllewin Cymru. Cyflwynodd Kassie Williams, Rheolwr Partneriaethau Cynaliadwy gyda Robert Price, astudiaeth achos ar y cyd-ymdrechion i gyrraedd y targed sero net. Bu Malcolm Davies, Uwch-reolwr Rhaglen Datgarboneiddio Tai Llywodraeth Cymru, yn trafod cyfleoedd a heriau yn y sector tai. Soniodd Alec Thomas, Arweinydd Cadwyni Cyflenwi HAPS, am gyfleoedd i dendro ar gyfer contractau sydd i ddod. Cyflwynodd Dafydd Guto Carrod, Cynghorydd Cadwyni Cyflenwi gyda Busnes Cymru, strategaethau ar gyfer sicrhau contractau.
Daeth y diwrnod i ben â chyflwyniad gan Jane Lewis, Rheolwr Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-Orllewin Cymru. Soniodd am bwysigrwydd cael gweithlu â’r sgiliau iawn i ymateb i’r cyfleoedd a gaiff eu creu dros y 10-15 mlynedd nesaf.
Meddai Jane: “Roedd y digwyddiad yn llwyddiant. Daeth cwmnïau adeiladu, cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol at ei gilydd i ddangos yr holl gyfleoedd caffael sydd ar gael i gwmnïau sydd â’r sgiliau i osod technoleg glyfar mewn cartrefi hen a newydd ledled y rhanbarth.
“Mae’r Bartneriaeth yn awyddus i gefnogi arweinwyr busnes i uwchsgilio staff lle bo angen er mwyn sicrhau y gallant dendro am y contractau amrywiol sydd ar gael yn y rhanbarth.”
Cafwyd ymateb hynod gadarnhaol i’r digwyddiad ac roedd y rhai a fu yno yn awyddus i roi’r wybodaeth a’r strategaethau a drafodwyd ar waith.
Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-Orllewin Cymru
More News Articles
« Pwysigrwydd rhoi’r Gymraeg ar waith yn eich busnes — Gyrru i Lwyddo: Taith Arwen Rees »