Sgiliau’r Dyfodol ar gyfer Gweithlu’r Dyfodol
Diwrnod Sgiliau’r Dyfodol ar gyfer Gweithlu’r Dyfodol ym mis Mehefin oedd digwyddiad mwyaf llwyddiannus y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol hyd yma. Roedd 200 o bobl ifanc, 180 o oedolion a dros 30 o arddangoswyr i gyd o dan yr un to yn Stadiwm Swansea.com, yn cael cip ar yr holl bethau cyffrous sy’n digwydd yn y de-orllewin.
Yn ystod y dydd, gallai ymwelwyr blymio i mewn i ddimensiwn newydd o brofiad digidol a rhyngweithiol a rennir, gan wthio ffiniau technolegau a phrofiadau a mynychu gweithdai arloesol. Roedd cyfle i fusnesau ddarganfod mwy am gyfleoedd busnes posibl trwy holl brosiectau newydd y rhanbarth.
Yn ystod sesiwn y bore cafodd y bobl ifanc sgwrs ysgogol gan ferch leol, Sam Toombs, Arweinydd BT Cymru a Lloegr. Canolbwynt ei sgwrs oedd ‘Os gallaf i, gallwch chi’, cyflwyniad difyr yn tynnu sylw at yr holl gyfleoedd cyffrous sydd ar gyfer cenhedlaeth nesaf y rhanbarth hwn.
Yn y bore cafodd y cynrychiolwyr a’r arddangoswyr ddewis. Roedd yna ddau weithdy diddorol – un ar y Môr Celtaidd a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau, wedi’i hwyluso ar y cyd gan Blue Gem Wind a Floventous, a’r llall ar bwysigrwydd Sero Net yn edrych ar Gynllun Gweithredu Sero Net Llywodraeth Cymru gyda sylwadau gan NetRet.
Daeth cyffro mawr i’r ardal arddangos pan gafodd bobl ifanc a’r oedolion gyfle i brofi dros 30 o arddangosiadau rhyngweithiol, yn cynnwys BT a’u sgrin amgylchol, Global Drone Training ag arddangosiadau drôns byw, Academii a llawer o arddangosiadau rhith-realiti a roboteg.
Yn ystod y prynhawn cafwyd cyfres newydd o weithdai; ‘Let talk GenZ’, gweithdy’n sôn am nodweddion Cenhedlaeth Z, eu cymhellion, eu dyheadau, a sut i’w denu, ennyn eu diddordeb a’u cadw fel eich gweithwyr i’r dyfodol.
Neges allweddol y gweithdy hwn oedd ei bod yn bwysig gwybod bod Cenhedlaeth Z yn ymuno â’r gweithlu gyda set unigryw o sgiliau, gwerthoedd, a disgwyliadau. Maent yn garfan amrywiol, parod i gydweithio, pragmatig ac entrepreneuraidd sy’n poeni am faterion cymdeithasol a dilysrwydd. Y gweithdy arall oedd un ar arloesi mewn gweithgynhyrchu ac effaith 5G.
Dywedodd Jane Lewis, Rheolwr y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol:
“Nod Sgiliau’r Dyfodol ar gyfer Gweithlu’r Dyfodol oedd rhoi gwybod i fusnesau a myfyrwyr ifanc am y cyfleoedd a ddaw i’r rhanbarth yn sgil Technoleg ac Ynni Gwyrdd newydd.
Roedd amrywiaeth eang o fusnesau’n bresennol ac yn arddangos yn y digwyddiad gan arwain at lawer o drafodaethau y gobeithiwn y byddant yn troi’n gyfleoedd busnes yn fuan. Roedd yn gyffrous gweld 200 o fyfyrwyr o ysgolion y rhanbarth yno a phleser oedd gweld y bobl ifanc yn rhyngweithio â’r busnesau ac yn rhoi cynnig ar yr holl dechnoleg newydd yn yr ardal arddangos.
Mae’r Bartneriaeth yn ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran yn y digwyddiad, ac edrychwn ymlaen at drefnu cyfarfod tebyg arall yn y dyfodol.”
Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-Orllewin Cymru
More News Articles
« Grym helpu eraill: stori Rebecca — Cymwysterau Cymru: ymgeisiwch i fod yn arbenigwr pwnc »