Shane sy’n “batrwm o brentis” yn barod am her gyda Tata Steel

Postiwyd ar gan NTfW Admin

English | Cymraeg

Shane Ash - bob amser yn ei herio’i hunan

Shane Ash – bob amser yn ei herio’i hunan

Mae Shane Ash, sy’n brentis peirianneg, yn defnyddio’i hyfforddiant a’i sgiliau i arbed amser ac arian i’w gyflogwr, Tata Steel.

Mae Shane, 26 oed, sy’n dod o Risga, eisoes wedi rhoi ei fys ar newidiadau a arbedod dros £22,000 i’r cwmni wrth reoli prosiect mawr i wneud a gosod car trosglwyddo coiliau. Mae’n aml yn gweithio goramser er mwyn sicrhau bod prosiectau’n cael eu cwblhau yn brydlon.

Ar hyn o bryd, mae wrthi’n dylunio robot tynnu amhurdebau er mwyn cyflymu’r gwaith ar linell galfaneiddio gwaith dur Llan-wern a’i wneud yn ddiogelach. Sylwodd ar botensial y robot yn ystod lleoliad gwaith yn yr Iseldiroedd. Y bwriad yw bod braich robotig yn tynnu amhurdebau o sinc tawdd yn ystod y broses galfaneiddio.

Mae Shane wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Mae Shane yn hollol benderfynol o fod yn beiriannydd siartredig. Mae wedi cwblhau Prentisiaeth mewn Gweithgynhyrchu Peirianyddol (Cynnal a Chadw Peirianyddol) ac HNC ac HND mewn Peirianneg Fecanyddol, mae’n gweithio ar Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Peirianneg Fecanyddol ac mae wedi cofrestru ar gwrs gradd BSc mewn Peirianneg Fecanyddol.

Ymhlith ei gymwysterau eraill mae Esblygiad Proses yn y Diwydiant Dur, Lefel 4 a Rheoli’n Ddiogel IOSH. Bydd yn gwneud y radd trwy Brifysgol De Cymru, lle’r enillodd Shane ei HND fel rhan o raglen Prentisiaethau Uwch Coleg Pen-y-bont, wedi’i gyflenwi mewn partneriaeth â Choleg Gwent.

Ac yntau’n llysgennad gwaith dur Llan-wern dros Magnet, cymdeithas Tata Steel yn Ewrop ar gyfer pobl ifanc broffesiynol, enillodd Shane wobr Prentis Mecanyddol y Flwyddyn Tata Steel (Llan-wern) am berfformiad eithriadol a gwobr Prentis Peirianyddol y Flwyddyn Coleg Gwent, y ddwy yn 2016.

“Mae fy mhrentisiaeth wedi fy helpu i ddatblygu fel person fwy nag y gallwn erioed fod wedi’i obeithio,” meddai Shane. “Rwy bob amser yn awyddus i symud ymlaen a dysgu bod gystal ag y gallaf ac rwy bob amser yn fy herio fy hunan er mwyn cael cymaint o brofiad ag y bo modd.”

Roedd Jon Matthews, rheolwr peirianneg canolog Tata Steel yn Llan-wern, yn llawn canmoliaeth i agwedd Shane sy’n “batrwm i eraill”. “Alla i ddim canmol digon ar Shane – bydd ganddo ran allweddol i’w chwarae wrth i ddoniau’r cwmni ddatblygu,” meddai.

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Shane a phawb arall sydd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr dysgu a hyfforddeion.”

More News Articles

  —