Meithrinfa’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg a phrentisiaethau dwyieithog

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae meithrinfa ddydd lwyddiannus yng Nghaerdydd yn frwd o blaid rhoi cyfleoedd a chefnogaeth i’r staff, y plant a’r rhieni i ddefnyddio’r Gymraeg.

Silwli Childcare setting

Sophie Lewis, un o reolwyr Meithrinfa Si-Lwli, gyda rhai o’r plant, Aneira, Fflur a Macsen.

Enillodd meithrinfa Si-Lwli, yn yr Eglwys Newydd, wobr Meithrinfa’r Flwyddyn yng Nghymru yn 2018. Mae yno 21 o staff yn gofalu am 105 o blant rhwng chwe mis a phedair oed. Gan fod cymaint o alw am lefydd yn y feithrinfa, mae’n rhaid i’r rhieni ymuno â rhestr aros hir.

Yn ogystal â hyrwyddo’r iaith Gymraeg, mae’r feithrinfa’n frwd iawn dros ddatblygu staff medrus. Mae o leiaf hanner y gweithlu wedi gwneud prentisiaethau, yn amrywio o lefel 2 i lefel 5.

Ar hyn o bryd, mae un aelod o’r staff yn gweithio tuag at Brentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Ymarfer Proffesionol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, ac mae tri aelod yn gweithio tuag at y cymhwyster Craidd, Prentisiaeth Sylfaen, Lefel 2.

Mae’r prentisiaethau City & Guilds yn cael eu darparu’n ddwyieithog gan y darparwr hyfforddiant Educ8 Training, o Gaerffili, ac roedd eu hasesydd Rhian Weeks yn llawn canmoliaeth i’r feithrinfa am ei hymrwymiad i brentisiaethau a’r Gymraeg.

“Mae Si-Lwli yn gyflogwr da iawn sy’n rhoi’r cyfle i’w staff ddysgu yn yr iaith sy’n gwneud iddyn nhw deimlo fwyaf cyfforddus,” meddai Rhian. “Yn fy marn i, mae’n bwysig iawn bod prentisiaid yn cael cyfle i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd mae’n golygu nad oes raid iddyn nhw newid eu terminoleg a bod modd cyfleu eu harferion gorau.”

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn cymeradwyo Si-Lwli am hyrwyddo dwyieithrwydd yn y gweithle.

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.

A hwythau wedi gwneud Prentisiaethau Uwch yn ddwyieithog, mae’r rheolwyr Sophie Lewis a Kimberley Hellyar mewn sefyllfa dda i gynghori eu cydweithwyr am gyfleoedd dysgu seiliedig ar waith.

“Mae’r ffaith fod staff yn fodlon gwneud prentisiaeth yn dangos i ni bod ganddyn nhw ymroddiad i ddatblygu gyrfa yn gweithio gyda phlant,” meddai Sophie. “Maen nhw’n dysgu llawer wrth weithio ond mae prentisiaeth yn hwb enfawr i’w gwybodaeth drwyadl a’u hyder.

“Mae’n hawdd i Kimberley a minnau annog pobl eraill i wneud prentisiaeth achos mae gennym ni brofiad personol o hynny. Mae’n wych eu bod yn cael cyfle i ddysgu’n ddwyieithog.”

Mae tua chwarter plant y feithrinfa’n dod o gartrefi Saesneg a dywedodd Sophie fod Si-Lwli yn paratoi adnoddau i rieni i’w helpu i siarad Cymraeg.

“Mae rhai rhieni’n gweld y Gymraeg yn iaith anodd i’w dysgu, ond rŷn ni’n ceisio’u helpu nhw trwy eu cefnogi mewn ffordd ymarferol,” meddai. “Rŷn ni bob amser yn annog y plant a’r rhieni i roi cynnig arni a does dim ots os ydyn nhw’n gwneud camgymeriadau.

“Mae’n dda cael plant i siarad Cymraeg o ddechrau eu haddysg. Trwy siarad Cymraeg, bydd y plant yn gallu manteisio ar y cyfleoedd gorau sydd ar gael iddyn nhw.

“Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn nodwedd ddymunol wrth ymgeisio am lawer o swyddi. Yn sicr, fyddwn i ddim lle rydw i heddiw heb y Gymraeg.

Dywedodd Dr Dafydd Trystan, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae tynnu sylw at gyflogwyr llwyddiannus sy’n ymwneud â phrentisiaethau yn ffordd ardderchog o ddangos i fusnesau ac unigolion bod cefnogi prentisiaethau dwyieithog yn bosibl ac yn fuddiol.

“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i gyflogwyr a’u gweithwyr ddatblygu eu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella rhagolygon eu busnes a’u cyfleoedd ym myd gwaith.”

Dywedodd Ryan Evans, o’r NTfW: “Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog a gall hynny fod o gymorth mawr i gyflogwyr, yn enwedig wrth ddelio â chwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg.

“Gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith. Mae hefyd yn gaffaeliad i’r cyflogwr.

“Mae Si-Lwli yn esiampl ardderchog ym maes prentisiaethau, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru neu ffoniwch 0800 028 4844.

More News Articles

  —