Sophie’n mynd ati mewn steil i drin gwallt

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Sophie Hendy of Tommy's Hair Company, Llandudno

Sophie Hendy o Tommy’s Hair Company, Llandudno

Mae Sophie Hendy, sy’n brentis trin gwallt, eisoes wedi profi llwyddiant yn ei gyrfa ac mewn cystadlaethau sgiliau.

Yn awr, mae’r ferch ddawnus 21 oed o Landudno wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. Bydd yn cystadlu i fod yn Brentis Sylfaen y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Mae Sophie’n gweithio i Tommy’s Hair Company yn Llandudno ac mae’n brentis trin gwallt gydag ISA Training o Ben-y-bont ar Ogwr. Ar ôl dilyn Prentisiaethau Sylfaen mewn Trin Gwallt a Gwaith Barbwr, mae bron â chwblhau Prentisiaeth mewn Trin Gwallt ac mae’n gobeithio symud ymlaen i wneud Prentisiaeth Uwch.

Mae wedi rhagori mewn cystadlaethau sgiliau, gan gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth drin gwallt WorldSkills UK y llynedd, lle’r enillodd Wobr Goffa Sue Bleasdale am waith tîm, empathi a charedigrwydd at eraill.

Eleni, enillodd wobr aur yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, enillodd rownd ranbarthol WorldSkills UK yn Belfast ac mae wedi cyrraedd rownd derfynol y Skills Show ym mis Tachwedd.

Er mwyn gallu ymroi i berffeithio ei sgiliau, mae Sophie wedi troi llofft sbar yn ei chartref yn salon ymarfer a bu’n gwneud taith gron wyth awr yn rheolaidd i gael sesiynau hyfforddi gyda mentor.

Meddai: “Gan fy mod wedi gwneud cymhwyster mewn trin gwallt a gwaith barbwr, roeddwn i mewn sefyllfa wych i gystadlu yn WorldSkills UK a chyrraedd y rownd derfynol, sef uchafbwynt rhagoriaeth yn fy mhroffesiwn i.”

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Sophie ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —