Stella sy’n brentis gwaith coed yn gwrthod gadael i ganlyniadau arholiadau ei diffinio

Postiwyd ar gan admin

English | Cymraeg

Stella Vasiliou, yn saernïo gyrfa fel saer.

Stella Vasiliou, yn saernïo gyrfa fel saer.

Mae merch ifanc o’r de wedi dangos nad oes raid llwyddo mewn arholiadau ysgol er mwyn serennu yn eich gyrfa.

Mae Stella Vasiliou, 19 oed, o’r Barri, yn saernïo gyrfa addawol fel saer gyda Chyngor Bro Morgannwg ar ôl rhoi cynnig ar lwybrau dysgu eraill.

Yn awr, cafodd ei hymdrechion eu cydnabod ac mae Stella wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Ddysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1) yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Pan adawodd yr ysgol â chymwysterau mewn Coginio a Chelf 3D, cafodd Stella ei hannog i astudio celf a dylunio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ond, ar ôl astudio am flwyddyn, penderfynodd nad hwnnw oedd y cwrs iddi hi.

Trwy’r darparwr hyfforddiant ACT Limited, darganfu nifer o yrfaoedd posibl nad oedd hi’n gwybod amdanynt cynt a phenderfynu mynd i faes adeiladu gan ei bod wrth ei bodd yn helpu ei thad, oedd yn drydanwr, yn ystod gwyliau’r ysgol.

Roedd Stella’n benderfynol o lwyddo mewn sector llawn dynion ac fe gwblhaodd Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn adeiladu mewn dim ond saith mis. Gan iddi wneud argraff mor dda ar leoliad gwaith gyda Chyngor Bro Morgannwg, cafodd gynnig Prentisiaeth mewn Gwaith Coed, wedi’i gyflenwi gan Goleg Caerdydd a’r Fro.

“Mae Stella’n ferch ifanc dalentog sydd wedi dod yn aelod gwerthfawr o’r tîm,” meddai ei rheolwr, Glyn Davies. “Mae’n barod i ddysgu, yn frwd, yn brydlon, yn ymroddedig ac mae wedi dod â rhywbeth arbennig i’r tîm â’i bwrdfrydedd a’i hegni.”

Meddai Stella: “Rwy wedi gweithio’n eithriadol o galed i gyrraedd y man lle rydw i. Do, fe es i rownd y ffordd hir i gyrraedd yma ond fyddwn i ddim yn newid hynny. Erbyn hyn rydw i wedi dod o hyd i rywbeth rwy’n ei fwynhau ac rwy’n ei wneud yn dda a hoffwn i brofi i bobl eraill sy’n gadael yr ysgol nad graddau yw popeth. Gallwch chi fod yn llwyddiannus mewn ffyrdd eraill.”

Dywedodd Jayne McGill-Harris, uwch reolwr marchnata a chysylltiadau cyhoeddus ACT Limited, bod Stella yn “ysbrydoliaeth” sy’n ddoeth iawn am ei hoedran.

Wrth longyfarch Stella ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”

Darllenwch fwy am y rhai sydd yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru

More News Articles

  —