Cydweithio ac ysbrydoli prentisiaethau i hybu twf economaidd

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae sefydliad sy’n cynrychioli darparwyr annibynnol dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru wedi addunedu i gydweithio i lunio a chyflenwi cymwysterau galwedigaethol ysbrydoledig a fydd yn fuddiol i ddysgwyr a chyflogwyr ac yn hybu twf economaidd.

Speakers in Principality Stadium

Cyfarwyddwr strategol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru Lisa Mytton (blaen) gyda’r cynllun strategol am y tair blynedd nesaf. Mae’n cael ei gwylio (o’r chwith) gan Rhian Edwards, dirprwy gyfarwyddwr addysg bellach a phrentisiaethau, Llywodraeth Cymru, Paul Evans, cyfarwyddwr prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, Hayden Llewellyn, prif weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg, a James Owen, cyfarwyddwr dros dro y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.

Wrth lansio’i gynllun strategol ar gyfer y tair blynedd nesaf yn Stadiwm Principality, Caerdydd ddydd Mawrth (Mawrth 7), cyflwynodd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) bum blaenoriaeth strategol. Cynhaliwyd derbyniad amser cinio i Aelodau’r Senedd yn gynharach yn y dydd.

Wrth wraidd y cynllun, ‘Datblygu gweithlu’r dyfodol yng Nghymru’, mae cenhadaeth NTFW i sicrhau yr un parch i ddysgu galwedigaethol ag i ddysgu academaidd.

Yn ogystal, mae’r NTFW yn galw am gydraddoldeb wrth ariannu pob math o ddysgu ôl-16 yng Nghymru er mwyn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu seiliedig ar waith. Mae’r cynllun yn herio Llywodraeth Cymru i wneud y system ariannu’n deg ac yn dryloyw.

“Y llynedd, rhoddwyd cynnydd o 7.1% i’r holl ddarparwyr ôl-16 ac eithrio’r sector dysgu seiliedig ar waith,” dywed y cynllun strategol. “Mae hyn yn ymddangos yn groes i’r nod o gydraddoldeb ar draws yr holl sectorau ôl-16, sef un o egwyddorion cychwynnol y System Gynllunio ac Ariannu Genedlaethol ôl-16.

“Byddai system ariannu deg yn cydnabod y cynnydd mewn costau, fel codiadau cyflog, codiadau pensiwn a chost cyflwyno’r Cyflog Byw Cenedlaethol, pob un yn gostau y bu angen i’r sector eu hysgwyddo, a chofio mai dim ond cynnydd bychan a gafwyd mewn 10 mlynedd.”

Mae pwysleisio’r angen am gyfraddau ariannu teg a thryloyw ar gyfer yr holl raglenni prentisiaethau gan adlewyrchu gwir gost eu darparu yn un o bum blaenoriaeth yr NTFW.

Y lleill yw:

  • cydweithio â Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar eu polisïau a’u meddylfryd at y dyfodol, gan sicrhau cydraddoldeb ar gyfer darparwyr a dysgwyr dysgu seiliedig ar waith.
  • cynrychioli ei aelodau mewn trafodaethau gyda rhanddeiliaid ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig gan herio, llywio a llunio polisïau ar sgiliau a phrentisiaethau.
  • dylanwadu ar broses sefydlu Comisiwn newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY) a helpu i’w lunio gan adeiladu ar gryfderau’r sector dysgu seiliedig ar waith er mwyn wynebu’r heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaen.
  • cydweithio â phartneriaid i feithrin gallu a phroffesiynoli’r gweithlu prentisiaethau dysgu seiliedig ar waith.

Yn ogystal, bydd yr NTFW yn dal i gydweithio’n agos â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynyddu nifer y cymwysterau a gyflenwir trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd John Nash, cadeirydd yr NTFW, bod angen i Lywodraeth Cymru gydweithio’n agos â’i phartneriaid dros y tair blynedd nesaf er mwyn wynebu’r heriau economaidd, ymateb i’r blaenoriaethau rhanbarthol ym maes sgiliau a helpu i sefydlu CADY.

“Er mwyn gwireddu gweledigaeth yr NTfW o ddatblygu gweithlu ar gyfer y dyfodol yng Nghymru, mae’n rhaid i ni ddal ati i ddylanwadu ar bolisïau Llywodraeth Cymru ym maes sgiliau a phrentisiaethau i sicrhau cydraddoldeb o ran cyllid a pharch i ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith a phrentisiaid,” pwysleisiodd.

“Bydd ein pwyslais ar broffesiynoli’r gweithlu dysgu seiliedig ar waith yn allweddol hefyd er mwyn cyrraedd targed uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o 125,000 o brentisiaid o bob oed erbyn 2027.”

Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTFW: “Mae’n hanfodol yn awr, fwy nag erioed, bod pobl yn cael cyfle i feithrin sgiliau yn y gweithle, gyda chyfleoedd gwaith go iawn, a bod gweithlu medrus ar gael i sefydliadau.

“Rydym yn awyddus i adeiladu ar y cynnydd sylweddol a gafwyd yn narpariaeth prentisiaethau er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn dal i gael effaith wirioneddol. Trwy ein haelodau, mae miloedd o brentisiaid ledled Cymru’n gwireddu eu potensial.”

Datgelodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu bod y targed o greu 125,000 o brentisiaethau yn nhymor presennol y Senedd yn cael ei ohirio am flwyddyn.

“O’r blaen, roedd arian o’r Undeb Ewropeaidd yn cynnal tua 5,000 o brentisiaethau yng Nghymru bob blwyddyn,” meddai. “Heb y buddsoddiad hwnnw ac yn wyneb y cynnydd gwirioneddol ac anochel mewn costau, rwyf wedi buddsoddi £36 miliwn yn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf mewn prentisiaethau o ansawdd da, i bobl o bob oed. Profwyd bod hyn yn helpu i ddatgloi enillion uwch mewn gyrfaoedd sydd hyd yn oed yn well.

“Mae hynny’n un o’n prif flaenoriaethau er gwaethaf yr argyfwng economaidd sy’n ein hwynebu. Fodd bynnag, hyd yn oed ar ôl torri cyllidebau mewn mannau eraill yn fy adran i roi hwb i’r buddsoddiad hwn, mae’r bwlch ariannu a chostau uwch yn golygu bod angen imi ohirio’r targed o greu 125,000 o brentisiaethau am flwyddyn. Mae hynny’n golygu na fyddwn yn ei gyflawni yn nhymor y Senedd hon.

meddai Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi“Rwy’n benderfynol, serch hynny, o gyflwyno rhaglen sy’n canolbwyntio ar gydraddoldeb a chanlyniadau. Mae angen i ni ddarparu prentisiaethau a fydd yn cynyddu cynhyrchiant, yn creu swyddi o safon uchel ac yn ymateb i anghenion sgiliau’r dyfodol, fel cynyddu’r ddarpariaeth yn y sector sero net a’r sector digidol.”

Canmolodd Mr Gething gyfraniad sylweddol aelodau’r NTFW i’r agenda sgiliau drwy ddarparu prentisiaethau hyblyg o ansawdd da a’r rhaglen Twf Swyddi Cymru+.

“Fel rhwydwaith o ddarparwyr annibynnol, gwn eich bod wedi bod wrthi’n ddi-baid yn ymdrechu i wella rhagolygon pobl gan wneud Cymru’n lle gwell i wneud busnes ac yn lle gwell ar gyfer pobl mewn busnes,” meddai.

“Rydych wedi gweld yr angen i weithio’n strategol er mwyn darparu rhaglen brentisiaethau hyblyg ac ymatebol sy’n rhoi blaenoriaeth i ansawdd da. Mae’ch perthynas â chyflogwyr wedi bod yn allweddol i’r llwyddiant hwnnw. Rwy’n ymfalchïo’n fawr yn yr hyn rydym wedi’i gyflawni gyda’n gilydd.”

Yn ogystal, roedd Rhian Edwards, dirprwy gyfarwyddwr addysg bellach a phrentisiaethau, Llywodraeth Cymru, yn sôn am brentisiaethau, roedd James Owen, cyfarwyddwr dros dro CADY, yn siarad am y sefydliad newydd, Hayden Llewellyn, prif weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg, yn sôn am broffesiynoli’r gweithlu a Paul Evans, cyfarwyddwr prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, yn canolbwyntio ar lwyddiant ‘Tîm Cymru’.

Cynllun Strategol NTFW 2023 – 2026

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —