Trawsnewidiad Digidol Dysgu Seiliedig ar Waith
Wrth i ni agosáu at ddiwedd blwyddyn, rydym yn aml yn edrych yn ôl gan fyfyrio ar yr hyn a fu a meddwl tybed beth a ddaw nesaf. Aeth fy myfyrdodau â mi yn ôl i 2008, pan wnaethom ni gynnal arolwg e-ddysgu Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW).
Bryd hynny, dim ond 16% o ddarparwyr DSW oedd ag unrhyw fath o strategaeth ddigidol, ychydig iawn roedd dros 50% o’r rheolwyr yn ei ddeall am y sgiliau roedd ar staff eu hangen ar gyfer e-ddysgu, dim ond traean o’r darparwyr oedd yn rhoi unrhyw fath o gyfle i ddysgwyr ddefnyddio technoleg i gofnodi tystiolaeth a doedd dysgu cyfunol heb hyd yn oed ei ystyried – sefyllfa sy’n hollol ddieithr i ni heddiw, yn bennaf o ganlyniad i gydweithredu a rhannu gweledigaeth.
Ymlaen â ni wedyn i 2019, pan aeth darparwyr DSW ati, ar y cyd â Jisc, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill, i helpu i lunio ac yna gofleidio fframwaith Digidol 2030 a, wedyn, y safonau dysgu ac addysgu digidol.
Gweledigaeth Digidol 2030
Bydd darparwyr dysgu ôl-16 yn integreiddio technoleg ddigidol i’w gwaith yn ddi-dor; ac yn annog arloesi wrth ddefnyddio dulliau cynhwysol, hygyrch a dwyieithog i wella profiad y dysgwr. Ar sail ymwybyddiaeth o’r sgiliau digidol y mae eu hangen i gefnogi economi Cymru, bydd darparwyr yn sicrhau bod dysgwyr a staff yn datblygu’r galluoedd a’r hyder digidol y bydd arnynt eu hangen er mwyn llwyddo mewn bywyd bob-dydd ac mewn gwaith.
Mae Jisc yn dal i gydweithio â’r sector i’w helpu i roi Digidol 2030 ar waith ac i fesur y cynnydd at wireddu ei weledigaeth a chyrraedd ei nodau, gan ddefnyddio fersiwn wedi’i haddasu o wasanaeth Digital Experience Insights gan Jisc. Yn 2021, cymerodd dros 1000 o ddysgwyr DSW a 200 o staff ran yn yr arolwg, gan helpu i bennu meysydd i’w gwella a’u blaenoriaethu.
Rhai uchafbwyntiau
- Rhoddodd 83% o ddysgwyr sgôr uchel i ansawdd yr addysgu a’r dysgu digidol ar eu cwrs.
- Mae 81% o ddysgwyr yn rhoi sgôr uchel i ddarpariaeth ddigidol eu darparwr dysgu
- Mae gan ddwy ran o dair o ddysgwyr fynediad at ddeunyddiau cwrs ar-lein a 58% at adnoddau hyfforddi sgiliau ar-lein pryd bynnag y bo angen.
- Rhoddodd tri chwarter y dysgwyr sgôr uchel i ansawdd y dulliau cyflwyno ar eu cyrsiau o ran diwallu eu hanghenion wrth gwblhau eu cwrs, gyda 69% yn rhoi sgôr uchel i’r dulliau cyflwyno fel rhai oedd yn diwallu anghenion cyflogwyr presennol neu ddarpar gyflogwyr.
- Mae 83% o’r staff addysgu yn cael eu symbylu i ddefnyddio technoleg i gefnogi addysgu ond dim ond 57% sy’n hyderus wrth ddefnyddio offer digidol “yn yr ystafell ddosbarth”.
- Mae’r ganran sy’n rhoi sgôr gadarnhaol i welliant parhaus profiad y dysgwr a phrosesau busnes trwy ddefnydd effeithiol ac arloesol o dechnoleg ddigidol wedi mwy na dyblu, o 30% yn 2019 i 65% yn 2021.
- Yn yr un modd, mae’r sgôr ar gyfer staff ac uwch-reolwyr sy’n deall manteision technoleg ddigidol wedi codi o 29% i 62%.
- Mae’r sgôr ar gyfer staff sydd â galluoedd a hyder mewn dulliau digidol wedi codi o 37% yn 2019 i 59% yn 2021.
Gwella dysgu digidol
Er bod llawer i’w ddathlu yn y ffigurau hyn, nid yw’r sefyllfa’n fêl i gyd. Er enghraifft, mae’r twf sydyn yng ngalluoedd a hyder staff mewn dulliau digidol yn rhywbeth i’w groesawu. Fodd bynnag, mae’r un dystiolaeth yn dangos bod 41% o staff yn dal i deimlo nad oes ganddynt allu na hyder mewn dulliau digidol.
Yn 2022, mae Llywodraeth Cymru’n ariannu Jisc i gynnig amryw o gyfleoedd datblygu strategol a phroffesiynol ar gyfer arweinwyr ac ymarferwyr DSW yn cynnwys:
- cynnal y cwrs addysgeg ddigidol o’r enw ‘Crafted Teaching, Active Learning’ eto
- cwrs pwrpasol ar gyfer Arweinwyr Digidol yng Nghymru
- llunio rhaglen newydd ‘dylunio dysgu’
- cydweithio â chynrychiolwyr o’r sector i greu adnoddau llythrennedd digidol
- adolygiadau o waith cyflenwi digidol, gan arwain at gynllun gweithredu gan y gwahanol sefydliadau i fynd i’r afael â blaenoriaethau digidol a bennwyd
Credaf fod “amserau digidol” hyd yn oed fwy cyffrous o flaen y sector ac edrychwn ymlaen at gydweithio ar y daith ddigidol.
Alyson Nicholson, Pennaeth Jisc Cymru
E-bost: Alyson.Nicholson@Jisc.ac.uk
More News Articles
« Mae enwebiadau wedi agor ar gyfer Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2022. — Newyddion gan Gyngor y Gweithlu Addysg »