Gwobr genedlaethol i ofalwraig o’r gogledd a newidiodd yrfa er mwyn gwneud gwahaniaeth

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae newid gyrfa i fod yn arweinydd tîm gofal cartref wedi talu ar ei ganfed i Boglárka-Tunde Incze a fu’n llwyddiannus yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2022.

Boglárka-Tunde sitting by lake near her work

Boglárka-Tunde Incze, Prentis Sylfaen y Flwyddyn.

Boglárka, sy’n dod yn wreiddiol o Dransylfania ond sy’n byw yn Llanrug ger Caernarfon erbyn hyn, a enwyd yn Brentis Sylfaen y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo rithwir.

Roedd y gwobrau eleni’n tynnu sylw at y rhyfeddodau a gyflawnwyd gan gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith mewn cyfnod anodd.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r noddwr pennaf, Openreach.

Roedd Boglárka yn hapus iawn o fod wedi ennill y wobr ac meddai: “Mae ennill y wobr hon yn golygu llawer i mi. Mae’n dangos nad oes ots o ble rydych chi’n dod; os gweithiwch yn galed, gallwch chi lwyddo.

“Mae prentisiaethau wedi rhoi ail gyfle i mi – cyfle i ddatblygu gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol oherwydd fe ddechreuais i o ddim.

“Dwi’n awyddus i barhau â’m taith ddysgu wrth i mi anelu at fod yn asesydd. Bydd hynny’n golygu y gallaf i wneud gwahaniaeth i bobl debyg i mi sydd eisiau dod i wybod ac i ddeall mwy am weithio mewn gofal.”

Mae prentisiaethau eisoes wedi helpu Boglárka i wneud gwahaniaeth i fywydau’r bobl y mae hi’n gofalu amdanynt ac yn gweithio gyda nhw.

Mae’n byw yng Nghymru gyda’i gŵr a’u dau blentyn ers chwe blynedd ac, i ddechrau, roedd yn defnyddio’i gradd Baglor mewn Cyfrifiadureg i weithio i gwmnïau rhyngwladol.

Er mwyn ennill mwy o arian i helpu i brynu cartref i’r teulu yng Nghymru, cymerodd swydd ychwanegol fel gofalwr rhan amser, gan gefnogi pobl yn eu cartrefi. Roedd yn mwynhau’r gwaith gymaint nes iddi newid gyrfa yn ystod y pandemig.

Erbyn hyn, mae wedi cwblhau Prentisiaethau Lefel 2 a 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydag Itec Skills and Employment ac mae’n awyddus i gymhwyso fel asesydd.

Mae Boglárka, sy’n dysgu Cymraeg, wedi bod yn gynorthwyydd gofal iechyd gyda Marie Curie ers dros flwyddyn gan gynnig gofal a chefnogaeth i gleifion sydd â salwch angheuol ac mae wedi cwblau cyfres o gyrsiau i gynyddu ei sgiliau.

Mae hefyd yn gweithio rhan amser i Gofal Bro Cyf lle mae wedi rhoi cyngor gwerthfawr i helpu’r cwmni i gyflwyno model gofal newydd, gwell i gleientiaid.

Llongyfarchwyd Boglárka a holl enillwyr y gwobrau a’r rhai a gyrhaeddodd y rhestrau byrion gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething. “Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol i wneud Cymru’n beiriant i greu twf cynaliadwy, cynhwysol ac i roi’r cychwyn gorau posibl ym myd gwaith i bob person ifanc,” meddai.

“Rwyf i o’r farn bod prentisiaethau’n hanfodol i’r weledigaeth hon a dyna pam yr ydyn ni’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf yn darparu ein rhaglen brentisiaethau. Rwy’n benderfynol o wneud ein gorau glas fel llywodraeth i helpu i sicrhau’r manteision economaidd hirdymor y mae ein pobl ifanc yn eu haeddu.

“Er mai gwlad fach ydyn ni, mae gennym uchelgeisiau mawr a’n nod yw meithrin diwylliant lle mai recriwtio prentis yw’r norm i gyflogwyr.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —