Gwobr genedlaethol i Jayne ar ôl i brentisiaeth newid ei bywyd

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae Jayne Williams wedi ennill gwobr genedlaethol oherwydd ei brwdfrydedd dros ddysgu a datblygu sy’n golygu mai ati hi mae’r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd (HMCTS) yn troi i hyrwyddo prentisiaethau.

Enwyd Jayne, 58, o Gasnewydd, yn Brentis Uwch y Flwyddyn yn seremoni rithwir Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022.

Jayne stood on stairway in office

Jayne Williams, a enwyd yn Brentis Uwch y Flwyddyn.

Diolch i’w thaith ddysgu lwyddiannus, mae wedi cael eu dyrchafu o fod yn glerc llys i fod yn swyddog cyflenwi dysgu y Gwasanaeth ledled y Deyrnas Unedig. Mae’n dilyn yn ôl traed ei diweddar fam-gu a basiodd ei Lefel ‘O’ gyntaf yn 65 oed.

Roedd Jayne wedi gwirioni â’r wobr ac meddai: “Mae’n deimlad gwefreiddiol. Rwy mor falch fy mod wedi manteisio ar y cyfle i wneud prentisiaeth. Rwy’n difaru na wnes i hynny pan o’n i’n iau.

“Mae wedi newid fy mywyd yn llwyr. Rwy’n fwy hyderus yn fy mywyd personol a fy ngwaith ac mae’r brentisiaeth wedi agor llawer o ddrysau i mi. Mae wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod i’n dda yn fy ngwaith ac rwy’n awyddus i ysbrydoli pobl eraill i wneud prentisiaeth er mwyn cyrraedd eu llawn botensial.

“Os gallaf i wneud prentisiaeth yn fy oedran i, gall unrhyw un wneud hynny.”

Roedd y gwobrau eleni’n tynnu sylw at y rhyfeddodau a gyflawnwyd gan gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith mewn cyfnod anodd.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r noddwr pennaf, Openreach.

Mae’r Gwasanaeth yn troi at Jayne yn aml – y cyntaf o’u gweithwyr i gwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Cyngor ac Arweiniad, gan y darparwr hyfforddiant ACT.

Yn awr, mae’n awyddus i wneud cymhwyster gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu neu Brentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Dysgu a Datblygu.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a hithau’n cwblhau ei Phrentisiaeth Uwch, fe helpodd i hyfforddi 690 o gydweithwyr y Gwasanaeth drwy weithdai ar-lein ac mae wedi cael cynnig nifer o wahanol swyddi o fewn y Gwasanaeth.

Fel rhan o’i Phrentisiaeth Uwch, mwynhaodd secondiad chwe mis mewn prosiect hyfforddi a hwyluso oedd yn cael ei dreialu. Bu hwnnw mor llwyddiannus nes i’r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd gyflogi swyddog parhaol cymorth dysgu.

Llongyfarchwyd Jayne a holl enillwyr eraill y gwobrau a’r rhai a gyrhaeddodd y rhestrau byrion gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething. “Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol i wneud Cymru’n beiriant i greu twf cynaliadwy, cynhwysol ac i roi’r cychwyn gorau posibl ym myd gwaith i bob person ifanc,” meddai.

“Rwyf i o’r farn bod prentisiaethau’n hanfodol i’r weledigaeth hon a dyna pam yr ydyn ni’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf yn darparu ein rhaglen brentisiaethau. Rwy’n benderfynol o wneud ein gorau glas fel llywodraeth i helpu i sicrhau’r manteision economaidd hirdymor y mae ein pobl ifanc yn eu haeddu.

“Er mai gwlad fach ydyn ni, mae gennym uchelgeisiau mawr a’n nod yw meithrin diwylliant lle mai recriwtio prentis yw’r norm i gyflogwyr.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —