Gwobr genedlaethol i gwmni o Gymru sy’n enwog am ei brentisiaid medrus

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae cwmni gweithgynhyrchu o Gymru sydd ag enw da yn rhyngwladol oherwydd sgiliau eithriadol ei brentisiaid wedi ennill gwobr genedlaethol o fri.

Employer and apprentices at work

Cydlynydd prentisiaid FSG Tool and Die, Steve Cope, a phrentisiaid.

Enwyd FSG Tool and Die, o Lantrisant, yn Gyflogwr Canolig y Flwyddyn yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022, oedd yn tynnu sylw at y rhyfeddodau a gyflawnwyd gan gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith mewn cyfnod anodd.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r noddwr pennaf, Openreach.

Roedd Steve Cope, arweinydd rhagoriaeth ddarbodus/weithredol FSG Tool and Die a’r cydlynydd prentisiaid wrth ei fodd â’r wobr. Mae ef ei hunan yn gynnyrch rhaglen brentisiaethau y cwmni.

“Mae pawb ohonon ni’n falch iawn o’n prentisiaid ac mae’r wobr hon yn cydnabod ein holl waith caled,” meddai. “Bu prentisiaethau’n rhan ganolog o’n cwmni ers dros 60 blynedd a daeth ein rhaglen brentisiaethau’n ffon fesur i lawer o gwmnïau yn y diwydiant.

“Mae ein prentisiaid ni’n cyfrannu’n fawr at ein llwyddiant. Gan fod eu gwaith o safon mor uchel, mae’n help i gynnal ein henw da ac mae gennym hanes o gadw staff am flynyddoedd, a hyd yn oed am oes.”

Mae prentisiaid sy’n gweithio i FSG Tool and Die yn rhagori mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol – yn cynnwys Prentis Peirianneg y Flwyddyn yng Nghymru, WorldSkills UK a Chystadleuaeth Sgiliau Cymru – ac maent wedi helpu i wella proses weithgynhyrchu’r cwmni.

Mae dros 90 yn gweithio i’r cwmni, yn cynnwys 12 o brentisiaid sy’n gweithio tuag at brentisiaethau hyd at lefel gradd mewn Peirianneg Fecanyddol, a gyflenwir gan y darparwr hyfforddiant TSW Training a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Abertawe.

Mae’r cwmni’n cynnig datrysiadau ym meysydd datblygu a pheirianneg i gwsmeriaid ledled y byd ac yn allforio dros hanner ei gynhyrchion.

Bu prentisiaid yn helpu i symleiddio proses weithgynhyrchu’r cwmni, gan wella effeithlonrwydd o chwech y cant. Yn ogystal, maent wedi dyfeisio batris llai ar gyfer ceir trydan ar gais cwsmer ac maent yn treialu deunyddiau gweithgynhyrchu cynaliadwy ar gyfer dyfodol gwyrddach.

Ers iddo sefydlu ei raglen brentisiaethau yn 1969, mae FSG Tool and Die yn cymryd pum prentis bob blwyddyn ac mae rhai ohonynt wedi symud ymlaen i dîm yr uwch-arweinwyr.

Llongyfarchwyd FSG Tool and Die a holl enillwyr eraill y gwobrau a’r rhai a gyrhaeddodd y rhestrau byrion gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething. “Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol i wneud Cymru’n beiriant i greu twf cynaliadwy, cynhwysol ac i roi’r cychwyn gorau posibl ym myd gwaith i bob person ifanc,” meddai.

“Rwyf i o’r farn bod prentisiaethau’n hanfodol i’r weledigaeth hon a dyna pam yr ydyn ni’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf yn darparu ein rhaglen brentisiaethau. Rwy’n benderfynol o wneud ein gorau glas fel llywodraeth i helpu i sicrhau’r manteision economaidd hirdymor y mae ein pobl ifanc yn eu haeddu.

“Er mai gwlad fach ydyn ni, mae gennym uchelgeisiau mawr a’n nod yw meithrin diwylliant lle mai recriwtio prentis yw’r norm i gyflogwyr.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i:
llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —