Cwmni bwyd yn ennill gwobr o bwys am ei ymrwymiad i brentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Daeth llwyddiant i’r cwmni bwyd rhyngwladol, Kepak Group, sy’n cyflogi dros 800 o bobl ar ei safle cynhyrchu cig ym Merthyr Tudful, yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022.

Keepak Staff and Apprentices standing by office desk

Henry Lawson, cigydd dan hyfforddiant yn y Kepak Group, a’r rheolwr adnoddau dynol, Hayley Price (blaen) gyda Jordan Jones, cigydd dan hyfforddiant; Geraint Jones, rheolwr derbyn; Malwina Caentano, cydlynydd hyfforddiant; a rheolwr y neuadd tynnu esgyrn o gig eidion, David Bennett.

Dyfarnwyd gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn i’r cwmni sy’n datblygu gweithlu medrus trwy greu ei hyfforddwyr mewnol ei hunan er mwyn meithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr.

Mae gan y Kepak Group gynlluniau uchelgeisiol i gael tua 100 o weithwyr i wneud prentisiaeth ar y tro, yn cynnwys staff newydd a staff presennol sy’n symud i swyddi newydd neu’n symud ymlaen i’r lefel nesaf.

Dywedodd Jeremy Jones, rheolwr gweithrediadau adnoddau dynol Kepak Group yn y Deyrnas Unedig: “Mae ennill y wobr yn deimlad gwych – mae’n dangos i ni ein bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir.

“Rydyn ni wrthi’n barod yn trafod gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian sut y gallwn gynyddu amrediad a nifer ein prentisiaethau. Rydyn ni’n meithrin diwylliant o ddysgu a gweithlu medrus trwy gynnig cyfleoedd i’n gweithwyr ddatblygu eu gyrfaoedd er mwyn iddyn nhw a’u teuluoedd gael dyfodol disglair.

“Mae’r rheolwr cyffredinol, Chris Jones, yn haeddu ei ganmol yn fawr am fentro mewn ffydd a buddsoddi yn y fframwaith dysgu. Erbyn hyn, rydyn ni’n gweithio tuag at ein huchelgais o sicrhau mai ni yw’r cyflogwr y mae pobl yr ardal yn ei ddewis gyntaf.”

Roedd Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni’n tynnu sylw at y rhyfeddodau a gyflawnwyd gan gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith mewn cyfnod anodd.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r noddwr pennaf, Openreach.

Mae’r Kepak Group yn buddsoddi yn ei ddoniau a’i gyfleusterau ei hunan fel rhan o strategaeth dysgu a datblygu egnïol, sy’n cynnwys sgiliau, prentisiaethau, cynllunio olyniaeth a datblygu rheolwyr.

Mewn dim ond 18 mis, mae trosiant staff wedi gostwng 15% ac mae’r prentisiaid cyntaf eisoes yn symud i fyny i swyddi uwch. Mae’r prentisiaethau wedi arwain at well perfformiad ac elw mewn adrannau lle mae prentisiaid yn dysgu eu crefft.

Ar hyn o bryd, mae 46 o weithwyr yn dilyn prentisiaethau a gyflenwir gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian. Yn eu plith mae Sgiliau’r Diwydiant Cig a Dofednod (Lefelau 2 a 3), Sgiliau’r Diwydiant Bwyd (Lefelau 2 a 3), Arwain Tîm Bwyd (Lefel 2), Rheoli Bwyd (Lefel 3), Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd (Lefel 4), a Rheolaeth (Lefel 4 a 5).

Dywedodd Chris Jones, pennaeth uned fusnes bwyd a diod Cwmni Hyfforddiant Cambrian: “Dylid defnyddio Kepak fel patrwm o sut i fynd ati i hyfforddi prentisiaid er mwyn cadw gweithlu am oes.”

Llongyfarchwyd y Kepak Group a holl enillwyr eraill y gwobrau a’r rhai a gyrhaeddodd y rhestrau byrion gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething. “Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol i wneud Cymru’n beiriant i greu twf cynaliadwy, cynhwysol ac i roi’r cychwyn gorau posibl ym myd gwaith i bob person ifanc,” meddai.

“Rwyf i o’r farn bod prentisiaethau’n hanfodol i’r weledigaeth hon a dyna pam yr ydyn ni’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf yn darparu ein rhaglen brentisiaethau. Rwy’n benderfynol o wneud ein gorau glas fel llywodraeth i helpu i sicrhau’r manteision economaidd hirdymor y mae ein pobl ifanc yn eu haeddu.

“Er mai gwlad fach ydyn ni, mae gennym uchelgeisiau mawr a’n nod yw meithrin diwylliant lle mai recriwtio prentis yw’r norm i gyflogwyr.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —