Bwrdd iechyd yn ennill gwobr o fri am brentisiaeth arloesol

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae bwrdd iechyd o Gymru sydd wedi datblygu rhaglen brentisiaethau flaengar er mwyn cynhyrchu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol arbenigol wedi ennill gwobr genedlaethol o fri.

Butchers at work

Rhian Lewis, partner busnes dysgu a datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar gyfer cymwysterau, gyda phrentisiaid labordy, Gerrard Fletcher, Sian Yearsley a Kirsty Griffiths.

Cyflwynodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg y rhaglen er mwyn wynebu’r heriau a ddaw gan fod poblogaeth Cymru’n heneiddio ac arweiniodd hynny at ei enwi’n Facro-gyflogwr y Flwyddyn yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022.

Gyda 553 o staff wedi manteisio ar gymhwyster prentisiaeth, a 215 yn gweithio mewn swyddi parhaol ar hyn o bryd, mae’r rhaglen yn dwyn ffrwyth.

Roedd Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni’n cydnabod y rhyfeddodau a gyflawnwyd gan gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith mewn cyfnod anodd.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r noddwr pennaf, Openreach.

Eglurodd Rhian Lewis, partner busnes dysgu a datblygu’r Bwrdd ar gyfer cymwysterau: “Mae’r wobr hon yn rhoi sêl bendith ar y ffordd y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gwneud ein llwybrau dysgu gymaint yn haws i’n pobl ni, ac mae’n bleidlais enfawr o ddiolch am y gwaith rwy’n ei wneud. Mae pawb wedi cyffroi yn lân.

“Y rheswm rydw i mor frwd dros brentisiaethau yw eu bod yn gwneud y fath wahaniaeth i fywydau pobl. Mae’n wych gweld pobl yn cymhwyso ac yn mynd ymlaen i gyflawni cymaint mwy yn eu gyrfa.”
Mae gan y Bwrdd 15,000 o staff, sy’n ei wneud yn gyflogwr o bwys yn ne Cymru. Mae’n darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, ysbyty ac iechyd meddwl i 450,000 o bobl sy’n byw ym mwrdeistrefi Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Ar ôl canfod y bydd un o bob pedwar o bobl Cymru’n 65 oed neu drosodd erbyn 2036, datblygodd y Bwrdd ei strategaeth bedair blynedd yn ôl i ymgorffori dysgu seiliedig ar waith er mwyn ehangu ei gyfleoedd recriwtio.

Ymhlith ei brentisiaethau niferus, lansiodd y Bwrdd y Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Gwyddor Gofal Iechyd (HCS) y llynedd mewn partneriaeth â’r darparwr hyfforddiant, Educ8 Training.

Dyma’r brentisiaeth gyntaf o’i math yng Nghymru ac mae’n pontio’r bwlch oedd yn dilyn cymhwyster Lefel 3 ym maes iechyd gan alluogi’r dysgwr i fynd i wneud gradd a dod yn wyddonydd cofrestredig.

Mae’r cymhwyster Lefel 4 yn helpu dysgwyr i gael swyddi cynorthwyol ym maes awdioleg, gwyddor gwaed a pheirianneg glinigol, i enwi dim ond rhai. Er bod y rhaglen yn rhedeg ledled Cymru, caiff ei harwain gan dîm Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Cynigir prentisiaethau mewn partneriaeth â Talk Training ac ACT Training hefyd, ond mae’r Bwrdd yn cydweithio ag Educ8 i ddatblygu prentisiaethau pwrpasol sy’n berthnasol i’r bwrdd iechyd ac i’r unigolyn.

Llongyfarchwyd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a holl enillwyr eraill y gwobrau a’r rhai a gyrhaeddodd y rhestrau byrion gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething. “Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol i wneud Cymru’n beiriant i greu twf cynaliadwy, cynhwysol ac i roi’r cychwyn gorau posibl ym myd gwaith i bob person ifanc,” meddai.

“Rwyf i o’r farn bod prentisiaethau’n hanfodol i’r weledigaeth hon a dyna pam yr ydyn ni’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf yn darparu ein rhaglen brentisiaethau. Rwy’n benderfynol o wneud ein gorau glas fel llywodraeth i helpu i sicrhau’r manteision economaidd hirdymor y mae ein pobl ifanc yn eu haeddu.

“Er mai gwlad fach ydyn ni, mae gennym uchelgeisiau mawr a’n nod yw meithrin diwylliant lle mai recriwtio prentis yw’r norm i gyflogwyr.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —