Chrystalla yn disgleirio gan ennill gwobr Doniau’r Dyfodol
Roedd Chrystalla Moreton, prentis peirianneg a alwyd yn “seren ddisglair” gan ei chyflogwr, yn sicr yn disgleirio yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022.
Uchelgais Chrystalla, 20, o’r Tyllgoed, Caerdydd, yw bod yn batrwm i ferched yn y diwydiant dur a hi oedd enillydd gwobr Doniau’r Dyfodol.
Mae’n gweithio i’r cwmni cynhyrchu dur cyfnerthedig Celsa Steel UK lle mae’n gwneud Prentisiaeth Peirianneg Fecanyddol mewn Gwasanaethau Cynhyrchu a gyflenwir gan y darparwr hyfforddiant TSW.
Bu’n rhaid i Chrystalla newid ei chynllun gwreiddiol i ymuno â’r Fyddin yn dilyn trychineb deuluol a effeithiodd ar ei hiechyd meddwl. Mae’n benderfynol o wneud iawn am yr amser a gollwyd, chwifio’r faner dros beirianwyr benywaidd a pharhau i gefnogi ei theulu.
Ac mae’n awyddus i ddangos i eraill sy’n mynd trwy gyfnod anodd yn eu bywyd bod yna olau ar ben draw’r twnnel.
“Rwy’n teimlo’n freintiedig ac yn ddiolchgar ar ôl ennill y wobr. Mae’n gam arall i’r cyfeiriad cywir tuag at gyflawni fy uchelgeisiau,” meddai. “Mae pobl yn dod ar draws rhwystrau yn eu bywyd ac rydw i’n awyddus i ddangos y gallwch chi eu goresgyn nhw.
“Ar ôl cyfnod isel yn fy mywyd, mae’r wobr hon yn drawsnewidiad enfawr. Rwy am lwyddo trwy fod y gorau y gallaf fod yn y sector a dangos i ferched y gallan nhw wneud cystal â dynion.
“Gwneud y brentisiaeth yw’r penderfyniad gorau rydw i wedi’i wneud. Mae wedi rhoi cyfle i fi ddysgu ac ennill cyflog ar yr un pryd a chyflawni rhywbeth ar y diwedd.”
Roedd Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni’n cydnabod y rhyfeddodau a gyflawnwyd gan gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith mewn cyfnod anodd.
Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r noddwr pennaf.
Llwyddodd Chrystalla i greu argraff o’r dechrau’n deg ar Celsa Steel, sy’n cyflogi 70 o brentisiaid. Dywedodd rheolwr talent y cwmni, Richard Davey, wrth y seremoni wobrwyo rithwir fod safon gwaith a brwdfrydedd Chrystalla’n heintus a bod disgwyl iddi fod yn fentor prentisiaid yn y dyfodol.
Ar ôl cael ei hysbrydoli gan degan Pinscreen o 1987, mae hi wedi codi’r syniad o ailddyfeisio a chyfrifiaduro gwely fflat magnet yn Celsa Steel fel y gellir cludo bariau metel o wahanol siapiau a meintiau yn fwy effeithlon a llwyddiannus.
Llongyfarchwyd Chrystalla a holl enillwyr eraill y gwobrau a’r rhai a gyrhaeddodd y rhestrau byrion gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething. “Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol i wneud Cymru’n beiriant i greu twf cynaliadwy, cynhwysol ac i roi’r cychwyn gorau posibl ym myd gwaith i bob person ifanc,” meddai.
“Rwyf i o’r farn bod prentisiaethau’n hanfodol i’r weledigaeth hon a dyna pam yr ydyn ni’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf yn darparu ein rhaglen brentisiaethau. Rwy’n benderfynol o wneud ein gorau glas fel llywodraeth i helpu i sicrhau’r manteision economaidd hirdymor y mae ein pobl ifanc yn eu haeddu.
“Er mai gwlad fach ydyn ni, mae gennym uchelgeisiau mawr a’n nod yw meithrin diwylliant lle mai recriwtio prentis yw’r norm i gyflogwyr.”
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.
More News Articles
« Gwobr genedlaethol i gwmni o Gymru sy’n enwog am ei brentisiaid medrus — Angelina’n Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith oherwydd ei gwaith arloesol »