{"id":12073,"date":"2026-02-09T14:08:04","date_gmt":"2026-02-09T14:08:04","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?page_id=12073"},"modified":"2026-02-19T19:48:45","modified_gmt":"2026-02-19T19:48:45","slug":"proffiliaur-cyflwynwyr-2026","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/proffiliaur-cyflwynwyr-2026\/","title":{"rendered":"Proffiliau\u2019r Cyflwynwyr 2026"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/presenter-profiles-2026\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/proffiliaur-cyflwynwyr-2026\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"team\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/pp-lhallett.jpg\" alt=\"Leanne Hallett\" \/><\/p>\n<h4 id=\"\">Leanne Hallett<\/h4>\n<h5>Uwch Reolwr Cymwysterau, Cymwysterau Cymru<\/h5>\n<p>Mae Leanne yn dod \u00e2 chyfoeth o brofiad i&#8217;w r\u00f4l fel Uwch Reolwr Cymwysterau o fewn y gyfarwyddiaeth Polisi a Diwygio Cymwysterau, ar \u00f4l treulio 14 mlynedd yn addysgu mewn Addysg Bellach yn flaenorol. Mae Leanne yn gyfrifol am oruchwylio Cymwysterau Galwedigaethol \u00d4l-16 ac yn gweithio i sicrhau bod y cymwysterau hyn yn diwallu anghenion dysgwyr a&#8217;r dirwedd addysgol ehangach. Mae Leanne yn cydweithio \u00e2 Chyrff Dyfarnu, Addysg Bellach, a darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith i sicrhau cynnig cymwysterau galwedigaethol \u00d4l-16 cadarn i Gymru.<\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/proffiliaur-cyflwynwyr-2026\">Yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"team\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/pp-dseabrook.jpg\" alt=\"Dean Seabrook\" \/><\/p>\n<h4 id=\"\">Dean Seabrook<\/h4>\n<h5>Uwch Reolwr Cymwysterau, Cymwysterau Cymru<\/h5>\n<p>Mae Dean yn aelod o&#8217;r gyfarwyddiaeth Polisi a Diwygio Cymwysterau, ac ers iddo ymuno \u00e2 Chymwysterau Cymru mae wedi gweithio ar ddatblygu a gweithredu cymwysterau galwedigaethol a chyffredinol newydd mewn technoleg ddigidol ac mewn adeiladu a&#8217;r amgylchedd adeiledig. Mae Dean bellach yn arwain ein prosiect Moderneiddio Asesu, gan gefnogi cyflwyniad asesiadau digidol o fewn cymwysterau cenedlaethol newydd, a chan archwilio&#8217;r cyfleoedd y mae technolegau digidol newydd a rhai sy&#8217;n dod i&#8217;r amlwg yn eu cynnig ar gyfer gwella asesiadau yn y dyfodol. <\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/proffiliaur-cyflwynwyr-2026\">Yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"team\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/pp-jnottingham.jpg\" alt=\"Jon Nottingham\" \/><\/p>\n<h4 id=\"jon-nottingham\">Jon Nottingham<\/h4>\n<h5>Anogwr Gwydnwch Oedolion Ifanc, Resilient Futures Coach<\/h5>\n<p>Jon yw sylfaenydd Resilient Futures Coach, ac mae ganddo dros 10 mlynedd o brofiad ym meysydd addysg, llesiant ac annog. Mae Resilient Futures Coach yn cydweithio \u00e2 darparwyr addysg a gweithleoedd i gyflwyno gweithdai, rhaglenni annog, a hyfforddiant i ymarferwyr a rheolwyr. Mae&#8217;n cefnogi oedolion ifanc i feithrin gwydnwch, hyder, deallusrwydd emosiynol ac arferion effeithiol, i&#8217;w gwneud yn haws pontio o addysg i waith, a gwella ymgysylltiad, llesiant a pherfformiad yn y byd go iawn.<\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/proffiliaur-cyflwynwyr-2026\">Yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"team\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/pp-afield.jpg\" alt=\"Amie Field\" \/><\/p>\n<h4 id=\"amie-field\">Amie Field<\/h4>\n<h5>Cyfarwyddwr Dros Dro Cyflenwi Gwasanaethu, Gyrfa Cymru<\/h5>\n<p>Mae gwaith Amie yn cynnwys sbarduno gwasanaethau Gyrfa Cymru ym maes cyfarwyddyd gyrfaoedd, ymgysylltu \u00e2 chyflogwyr a chefnogi&#8217;r cwricwlwm. Bu&#8217;n gweithio yn Gyrfa Cymru ers bron i 20 mlynedd. A hithau&#8217;n Gyfarwyddwr, mae Amie wedi ymrwymo&#8217;n fawr i genhadaeth y sefydliad ac mae&#8217;n gwerthfawrogi&#8217;r cyfle i lunio gwasanaethau Gyrfa Cymru er budd y cwsmeriaid. <\/p>\n<p>Amie sy&#8217;n gyfrifol am Wasanaethau i Bobl Ifanc, Gwasanaethau i Randdeiliaid a Cymru&#8217;n Gweithio, ac mae&#8217;n arwain ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant hefyd.<\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/proffiliaur-cyflwynwyr-2026\">Yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"team\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/pp-ejones.jpg\" alt=\"Emily Jones\" \/><\/p>\n<h4 id=\"emily-jones\">Emily Jones<\/h4>\n<h5>Pennaeth Dros Dro Gwasanaethu i Bobl Ifanc, Gyrfa Cymru<\/h5>\n<p>Emily sy&#8217;n gyfrifol am gyflenwi gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd am yrfaoedd i bobl ifanc sydd mewn addysg a rhai sy&#8217;n cael eu haddysgu y tu allan i&#8217;r system ysgolion. Ymunodd Emily \u00e2 th\u00eem rheoli Gyrfa Cymru yn 2018 fel rhan o lansiad Cymru&#8217;n Gweithio. Ar \u00f4l hynny, bu&#8217;n arwain y t\u00eem Mewnwelediad Busnes, gan gryfhau data, mewnwelediad a threfniadau adrodd y sefydliad. Yn 2025, aeth Emily yn \u00f4l i faes gwasanaethu cwsmeriaid fel Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau i Bobl Ifanc.<\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/proffiliaur-cyflwynwyr-2026\">Yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"team\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/pp-mtownsend.jpg\" alt=\"Matt Townsend\" \/><\/p>\n<h4 id=\"smatt-townsend\">Matt Townsend<\/h4>\n<h5>Uwch-arbenigwr AI, Jisc<\/h5>\n<p>Mae gan Matt Townsend dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector Addysg Uwch fel arbenigwr TG, academydd a dadansoddwr busnes. Mae&#8217;n cynghori&#8217;r sector addysg drydyddol ar bob peth sy&#8217;n ymwneud \u00e2 deallusrwydd artiffisial (AI) yn Jisc. Mae&#8217;n canolbwyntio&#8217;n neilltuol ar effaith AI ar ymchwil a gwasanaethau proffesiynol, gan helpu sefydliadau i fabwysiadu AI mewn ffordd strategol a chyfrifol. Mae&#8217;n edrych ar y sefyllfa ar draws gwahanol sectorau sy&#8217;n cynnwys technoleg, addysgu a gweithrediadau.<\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/proffiliaur-cyflwynwyr-2026\">Yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"team\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/pp-lwinstone.jpg\" alt=\"Lisa Winstone\" \/><\/p>\n<h4 id=\"lisa-winstone\">Lisa Winstone<\/h4>\n<h5>Prif Weithredwr, Cyngor y Gweithlu Addysg<\/h5>\n<p>Lisa sy&#8217;n gyfrifol am arwain CGA a rhoi cyfeiriad strategol iddo. Ymunodd \u00e2 CGA yn 2018 ar \u00f4l cyfnod fel Pennaeth Cynllunio a Dadansoddi Ariannol yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n&nbsp;<\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/proffiliaur-cyflwynwyr-2026\">Yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"team\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/pp-dbrowne.jpg\" alt=\"David Browne\" \/><\/p>\n<h4 id=\"david-browne\">David Browne<\/h4>\n<h5>Cyfarwyddwr Rheoleiddio, Cyngor y Gweithlu Addysg<\/h5>\n<p>David sy&#8217;n gyfrifol am waith CGA ym meysydd addasrwydd i ymarfer, cofrestru a data. Ymunodd \u00e2&#8217;r Cyngor ym mis Tachwedd 2020 ar \u00f4l bod yn uwch-swyddog gydag undeb llafur i athrawon.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n&nbsp;<\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/proffiliaur-cyflwynwyr-2026\">Yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"team\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/pp-mevans.jpg\" alt=\"Mark Evans\" \/><\/p>\n<h4 id=\"mark-evans\">Mark Evans<\/h4>\n<h5>HMI, Estyn<\/h5>\n<p>Bu Mark yn Arolygydd gydag Estyn ers bron i 20 mlynedd ac mae ganddo brofiad sylweddol fel arolygydd yn y sector \u00f4l-16 yn ogystal \u00e2 mewn addysg orfodol. Cyn ymuno ag Estyn cafodd Mark brofiad helaeth yn y sector \u00f4l-16 yn cynnwys swyddi arwain ac uwch-reoli. Roedd hyn yn cynnwys gwaith rheoli a sicrhau ansawdd ym maes dysgu seiliedig ar waith. Mae Mark yn athro cymwysedig gydag arbenigedd penodol yn y sectorau peirianneg ac adeiladu. Roedd hyn yn cynnwys gwaith rheoli a sicrhau ansawdd ym maes dysgu seiliedig ar waith. Mae Mark yn athro cymwysedig gydag arbenigedd penodol yn y sectorau peirianneg ac adeiladu.<\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/proffiliaur-cyflwynwyr-2026\">Yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"team\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/pp-mwilliams.jpg\" alt=\"Matt Williams\" \/><\/p>\n<h4 id=\"matt-williams\">Matt Williams<\/h4>\n<h5>HMI, Estyn<\/h5>\n<p>Mae Matt wedi bod yn Arolygydd yn nh\u00eem \u00f4l-16 Estyn ers 2023 ac ef yw&#8217;r swyddog arweiniol ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith a Phrentisiaethau. Cyn ymuno ag Estyn, roedd yn uwch-arweinydd yn y sector addysg bellach, gyda phrofiad helaeth o gyflenwi contractau mawr ar gyfer prentisiaethau ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Yn ogystal, bu Matt yn uwch-reolwr prentisiaethau yn Uned Polisi Prentisiaethau Llywodraeth Cymru ac yn aelod o fwrdd NTFW. <\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/proffiliaur-cyflwynwyr-2026\">Yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"team\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/pp-lhughes-new.jpg\" alt=\"Leigh Hughes\" \/><\/p>\n<h4 id=\"leigh-hughes\">Leigh Hughes<\/h4>\n<h5>Cadeirydd, Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd<\/h5>\n<p>Bu Leigh yn Gadeirydd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ers 2018 a bu&#8217;n cynghori Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyflogadwyedd a sgiliau ar draws pob sector. Yn ddiweddar, bu Leigh yn gadeirydd Cyngor y CITB yng Nghymru, ac mae&#8217;n gryf o blaid Prentisiaethau a&#8217;u gwerth i&#8217;r unigolyn a&#8217;r cwmni.<br \/>\nMae wedi gweithio yn y diwydiant adeiladu ers dros 35 mlynedd ledled y DU ar lefel y Bwrdd mewn sawl sefydliad ac ef yw perchennog a Rheolwr Gyfarwyddwr Felicitas Consultancy, sy&#8217;n cynnig strategaethau ym meysydd Rheoli Prosiectau, Rheolaeth Strategol, Twf Busnes a Datgarboneiddio.<\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/proffiliaur-cyflwynwyr-2026\">Yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"team\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/pp-cmorrisroberts.jpg\" alt=\"Cath Morris-Roberts\" \/><\/p>\n<h4 id=\"cath-morris-roberts\">Cath Morris-Roberts<\/h4>\n<h5>Uwch Swyddog Cyflwyno Sgiliau, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru<\/h5>\n<p>Cath Morris-Roberts yw Uwch Swyddog Cyflenwi Sgiliau Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru. Mae&#8217;n cydweithio&#8217;n agos \u00e2 chyflogwyr a rhanddeiliaid i gasglu gwybodaeth am heriau ym maes sgiliau yn awr ac i&#8217;r dyfodol ac i ganfod ffyrdd o ddatblygu&#8217;r gweithlu a diwallu anghenion y farchnad lafur ranbarthol. Mae gan Cath dros 15 mlynedd o brofiad ym maes sgiliau a phrentisiaethau, ac mae&#8217;n arbenigo mewn canfod cyfleoedd dysgu a datblygu ar gyfer cyflogwyr er mwyn cryfhau&#8217;r gweithlu a hybu twf economaidd yn y rhanbarth. <\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/proffiliaur-cyflwynwyr-2026\">Yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"team\" src=\"\/images\/pp-jane-lewis-2.jpg\" alt=\"Jane Lewis\"><\/p>\n<h4 id=\"jane-lewis\">Jane Lewis<\/h4>\n<h5>Rheolwr Partneriaethau Rhanbarthol, Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol \u2013 De-orllewin Cymru<\/h5>\n<p>Jane yw&#8217;r Rheolwr Partneriaethau Rhanbarthol ym Mhartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-orllewin Cymru ac mae&#8217;n arwain y prosiect Ymyriadau Sgiliau a Thalentau o dan Fargen Ddinesig Bae Abertawe. <\/p>\n<p>Mae Jane yn gyfarwyddwr ar fentrau sy&#8217;n cynnwys ymgysylltu, ymgynghori a chydlynu \u00e2 phartneriaid, darparwyr, cyflogwyr a buddiolwyr rhanbarthol a thrawsffiniol. Mae ei hymdrechion yn hybu datblygiad economi ranbarthol gynaliadwy trwy feithrin sgiliau hyblyg.  Mae&#8217;r dystiolaeth a gesglir yn cyfrannu at argymhellion a gyflwynir i Lywodraeth Cymru fel rhan o&#8217;r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau blynyddol.<\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/proffiliaur-cyflwynwyr-2026\">Yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Leanne Hallett Uwch Reolwr Cymwysterau, Cymwysterau Cymru Mae Leanne yn dod \u00e2 chyfoeth o brofiad i&#8217;w r\u00f4l fel Uwch Reolwr Cymwysterau o fewn y gyfarwyddiaeth Polisi a Diwygio Cymwysterau, ar \u00f4l treulio 14 mlynedd yn addysgu mewn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/proffiliaur-cyflwynwyr-2026\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"conference-page.php","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-12073","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/12073","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12073"}],"version-history":[{"count":32,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/12073\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12205,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/12073\/revisions\/12205"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12073"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}