{"id":623,"date":"2011-09-02T00:21:25","date_gmt":"2011-09-02T00:21:25","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/"},"modified":"2017-05-15T14:15:16","modified_gmt":"2017-05-15T14:15:16","slug":"dosbarthiadaur-gwobrau","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/digwyddiadau\/apprenticeships-awards-cymru\/dosbarthiadaur-gwobrau\/","title":{"rendered":"Dosbarthiadau&#8217;r Gwobrau a Ffurflenni Cais"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/apprenticeships-awards\/awards-categories\/\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/apprenticeships-awards-cymru\/dosbarthiadaur-gwobrau\/\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2017 yn gwobrwyo unigolion, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Cyflogadwyedd a Brentisiaethau ledled Cymru.<\/p>\n<p>Ariannir cystadleuaeth Gwobrau Prentisiaethau Cymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) a\u2019i threfnu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru  (NTfW).<\/p>\n<p>Bydd y Gwobrau hyn yn dathlu ac yn arddangos llwyddiant y rhai sydd wedi rhagori ar ddisgwyliadau gan ddangos agwedd ddeinamig at hyfforddiant. Byddant hefyd wedi dangos brwdfrydedd a menter, dyfeisgarwch a chreadigrwydd, dealltwriaeth o bwysigrwydd gwella sgiliau er budd economi Cymru ac ymrwymiad i wneud hynny.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Gwobrau\u2019n gyfle i unigolion a sefydliadau gael eu cydnabod a\u2019u gwobrwyo am eu hymroddiad, eu gwaith caled a\u2019u llwyddiant yn rhaglenni Cyflogadwyedd a Brentisiaethau Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Bydd y rhai sy\u2019n cyrraedd rownd derfynol dosbarthiadau\u2019r dysgwyr yn cael tri thocyn VIP yr un i\u2019r Seremoni Wobrwyo fawreddog a gynhelir yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar nos Wener 20 Hydref 2017. Yn ogystal, bydd y rhai yn rownd derfynol y dysgwyr yn cael aros mewn gwesty (un ystafell ddwbl a brecwast) ar noson y gwobrau.  Bydd y rhai sy\u2019n cyrraedd rownd derfynol dosbarthiadau\u2019r Cyflogwyr a\u2019r Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith yn cael dau docyn VIP yr un, a bydd yr enillwyr i gyd yn cael tlws wedi\u2019i gynllunio\u2019n arbennig yn y Noson Wobrwyo.<\/p>\n<h2>Y Gwobrau<\/h2>\n<p>Bydd Gwobrau Prentisiaethau Cymru\u2019n cydnabod llwyddiant unigolion, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith mewn 11 dosbarth gwahanol.<\/p>\n<p><strong>Dysgwr &#8211; Cyflogadwyedd<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Dysgwr y Flwyddyn \u2013 Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu)<\/li>\n<li>Dysgwr y Flwyddyn \u2013 Hyfforddeiaethau (Lefel 1)<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Dysgwr &#8211; Prentisiaethau<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Prentis Sylfaen y Flwyddyn<\/li>\n<li>Prentis y Flwyddyn<\/li>\n<li>Prentis Uwch y Flwyddyn<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Cyflogwr &#8211; Prentisiaethau<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Cyflogwr Bach y Flwyddyn (1-49)<\/li>\n<li>Cyflogwr Canolig y Flwyddyn (50-249)<\/li>\n<li>Cyflogwr Mawr y Flwyddyn (250-4999)<\/li>\n<li>Macro-gyflogwr y Flwyddyn (5000+)<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith<\/li>\n<li>Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019r gwobrau yn y dosbarthiadau uchod, mae\u2019r Beirniaid yn cadw\u2019r hawl i roi Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig y Beirniaid gyda\u2019r nod o gydnabod rhagoriaeth mewn unrhyw agwedd ar gyflenwi rhaglenni Cyflogadwyedd a Brentisiaethau nad yw\u2019n dod yn uniongyrchol o dan Feini Prawf y Gwobrau.<\/p>\n<h4>Sylwch:<\/h4>\n<p>Fel rhan o\u2019r broses feirniadu, bydd yn ofynnol i bawb sy\u2019n cyrraedd rownd derfynol dosbarthiadau\u2019r Cyflogwyr a\u2019r Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith gymryd rhan mewn ymweliad dilysu rhwng 31 Gorffennaf a 25 Awst 2017, fel y gall aelodau o\u2019r Panel Beirniaid Allanol gadarnhau\u2019r dystiolaeth a gyflwynwyd fel rhan o\u2019r cais.<\/p>\n<p><strong>Ni chodir t\u00e2l am gymryd rhan yn y Gwobrau. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 12 o\u2019r gloch ganol dydd, Amser Haf Prydain (BST), ddydd Gwener 23 Mehefin 2017.<\/strong><\/p>\n<p>Nid oes llawer o reolau ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2017. Dim ond y rhain:<\/p>\n<ul>\n<li>Rhaid cyflwyno pob ffurflen gais erbyn 12 o\u2019r gloch, hanner dydd, Amser Haf Prydain (BST) ar 23 Mehefin 2017. Sylwch: Caiff y ffurflenni cais eu tynnu oddi ar lein yn awtomatig ar yr amser uchod a bydd unrhyw ddolenni a anfonwyd atoch cyn hynny yn stopio gweithio.<\/li>\n<li>Dim ond un ffurflen gais y cewch ei hanfon ar gyfer pob ymgeisydd; ni fydd unrhyw geisiadau dilynol a anfonir ar gyfer yr ymgeisydd hwnnw yn cael eu derbyn.<\/li>\n<li>Bydd angen i\u2019r rhai sy\u2019n cyrraedd y rownd derfynol sicrhau eu bod ar gael at ddibenion cyhoeddusrwydd (ffotograffau, ffilmio a datblygu astudiaethau achos) rhwng 11 a 22 Medi 2017.<\/li>\n<li>Bydd angen i\u2019r rhai sy&#8217;n cyrraedd y rownd derfynol sicrhau eu bod yn gallu dod i&#8217;r Seremoni Wobrwyo ar noson 20 Hydref 2017 yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd.  Os bydd amgylchiadau annisgwyl yn codi, gellir anfon cynrychiolydd yn lle\u2019r cystadleuydd.<\/li>\n<li>Mae penderfyniad y Beirniaid yn derfynol ac ni fyddant yn cymryd rhan mewn gohebiaeth na thrafodaethau.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Bydd y rhai sy\u2019n cyrraedd y rownd derfynol yn cael gwybod trwy ebost a ff\u00f4n erbyn 28 Gorffennaf 2017 fan bellaf.<\/p>\n<ul id=\"file-downloads\">\n<h4 style=\"font-size: 1.2em;\">Dosbarthiadau&#8217;r Gwobrau a Ffurflenni Cais<\/h4>\n<p>Cliciwch ar y dolenni isod i gael gwybod rhagor am y gwahanol ddosbarthiadau ac i lenwi&#8217;r ffurflen gais ar-lein.<\/p>\n<p><strong><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/apprenticeships-awards-cymru\/awards-categories\/dysgwr-hyfforddeiaethau\/\">Dysgwr &#8211; Hyfforddeiaethau<\/a><\/strong><\/p>\n<p><strong><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/apprenticeships-awards-cymru\/awards-categories\/dysgwr-prentisiaethau\/\">Dysgwr \u2013 Prentisiaethau<\/a><\/strong><\/p>\n<p><strong><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/apprenticeships-awards-cymru\/awards-categories\/prentisiaethau-cyflogwr\/\">Prentisiaethau \u2013 Cyflogwr<\/a><\/strong><\/p>\n<p><strong><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/apprenticeships-awards-cymru\/awards-categories\/ymarferydd-dsw\">Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith<\/a><\/strong><\/p>\n<\/ul>\n<p><strong>Cwestiynau a gyfer y gwahanol ddosbarthiadau<\/strong><br \/>\n<strong><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/03\/AAC-2017-Questions.zip\">Cliciwch yma<\/a><\/strong> i lawrlwytho&#8217;r cwestiynau ar gyfer y gwahanol ddosbarthiadau ond cofiwch ei bod yn rhaid cyflwyno&#8217;r ffurflenni cais gan ddefnyddio&#8217;r broses ar-lein.<\/p>\n<p><strong>Manylion cysylltu i gael gwybod rhagor:<\/strong><br \/>\nEbost: <a href=\"mailto:gwobrau@ntfw.org\">gwobrau@ntfw.org<\/a><br \/>\nFf\u00f4n: 029 2049 5861<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2017 yn gwobrwyo unigolion, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Cyflogadwyedd a Brentisiaethau ledled Cymru. Ariannir cystadleuaeth Gwobrau Prentisiaethau Cymru gan Lywodraeth Cymru gyda &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/digwyddiadau\/apprenticeships-awards-cymru\/dosbarthiadaur-gwobrau\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":619,"menu_order":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","template":"apprenticeships-page.php","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-623","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/623","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=623"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/623\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/619"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=623"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}