{"id":636,"date":"2011-09-04T15:22:08","date_gmt":"2011-09-04T15:22:08","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/"},"modified":"2016-08-24T14:49:21","modified_gmt":"2016-08-24T14:49:21","slug":"proffiliaur-cyflwynwyr","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/digwyddiadau\/apprenticeships-awards-cymru\/proffiliaur-cyflwynwyr\/","title":{"rendered":"Gwobrau Proffiliau&#8217;r Cyflwynwyr"},"content":{"rendered":"<p><img decoding=\"async\" class=\"team\" src=\"\/images\/pp-wynne-evans.jpg\" alt=\"Wynne Evans Portrait\" \/><\/p>\n<h4 id=\"wevans\">Wynne Evans<\/h4>\n<h5>Tenor Cymreig<\/h5>\n<p>Mae Wynne Evans yn un o denoriaid amlycaf Prydain sydd wedi canu yn y prif rannau gyda phob un o&#8217;r tai opera a\u2019r cerddorfeydd enwocaf, yn cynnwys y T\u0177 Opera Brenhinol, Covent Garden, Opera Cenedlaethol Cymru ac Opera Cenedlaethol Lloegr.<\/p>\n<p>Mae ganddo brofiad eang o ganu mewn cyngherddau a gwneud datganiadau gan gydweithio \u00e2 rhai o brif gerddorfeydd Prydain yn cynnwys y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Cerddorfa Symffoni y BBC, Cerddorfa Gyngerdd y BBC a Cherddorfa Symffoni Llundain.<\/p>\n<p>Yn 2009, daeth Wynne yn wyneb a llais ymgyrch hysbysebu gwerth miliynau o bunnau ar gyfer un o brif wefannau cymharu prisiau Prydain, GoCompare.com, gan chwarae rhan y cymeriad dramatig Gio Compario. Aeth ymlaen i wneud dwsinau o hysbysebion ar gyfer GoCompare.com ar y teledu a\u2019r radio ac mae&#8217;r ymgyrch hon yn un o\u2019r rhai mwyaf llwyddiannus erioed.  Ar \u00f4l i Wynne arwyddo cytundeb i wneud chwe albwm gyda Warner Bros, aeth ei albwm cyntaf \u2018A Song In My Heart\u2019 yn syth i rif un yn y Siartiau Clasurol ac aros yno am saith wythnos.<\/p>\n<p>Mae Wynne yn cyflwyno rhaglen ddyddiol ar BBC Radio Wales ac yn cyflwyno rhaglenni a chyfresi yn aml ar gyfer BBC1 Wales, BBC2 Wales ac S4C. Mae\u2019n siaradwr ar \u00f4l cinio difyr a naturiol ddigri ac mae galw mawr amdano.<\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/apprenticeships-awards-cymru\/proffiliaur-cyflwynwyr\">Yn \u00f4l i\u2019r brig\u00bb<\/a><\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"team\" src=\"\/images\/pp-sarah-john.jpg\" alt=\"Sarah John Portrait\" \/><\/p>\n<h4 id=\"sjohn\">Sarah John<\/h4>\n<h5>Cadeirydd Dros Dro, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru<\/h5>\n<p>Yn ogystal \u00e2 bod yn Gadeirydd Dros Dro, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac yn Gadeirydd Rhanbarth De-ddwyrain Cymru, NTfW, mae Sarah yn Gyfarwyddwr Acorn Learning Solutions sy\u2019n rhan o gr\u0175p Acorn o Gasnewydd.<\/p>\n<p>Bu Sarah yn gweithio ym maes Dysgu Seiliedig ar Waith ers dros 20 mlynedd. Bu mewn gwahanol swyddi yn y maes, gan ddod i gysylltiad \u00e2 nifer o asiantaethau\/rhanddeiliaid yn cynnwys Canolfannau Gwaith, Swyddfeydd Gyrfaoedd, Cynghorau Sgiliau Sector, sefydliadau cyflogwyr, adrannau o Lywodraeth Cymru, cyrff dyfarnu, ysgolion, Sefydliadau Addysg Uwch a Sefydliadau Addysg Bellach gan gefnogi rhaglenni prentisiaethau rhwng Lefel 1 a Lefel 5. Acorn yw\u2019r unig Ddarparwr Annibynnol sydd o dan ryddfraint i Sefydliad Addysg Uwch i gyflenwi Gradd Sylfaen.<\/p>\n<p>Mae prif ddyletswyddau Sarah gydag Acorn yn ymwneud \u00e2 chyllid, cyflenwi gweithredol, rheoli ceisiadau a datblygu cynlluniau dysgu arloesol ar gyfer cyflogwyr a dysgwyr, yn gysylltiedig \u00e2 blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Aelod o Fwrdd LSkIP (Partneriaeth Dysgu, Medrau ac Arloesi De-ddwyrain Cymru)<br \/>\nCynrychiolydd NTfW ar Fforwm Cydweithio Prifysgol Morgannwg<br \/>\nAelod o Fwrdd NTfW fel Cadeirydd Rhanbarth y De-ddwyrain<\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/apprenticeships-awards-cymru\/proffiliaur-cyflwynwyr\">Yn \u00f4l i\u2019r brig\u00bb<\/a><\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"team\" src=\"\/images\/pp-julie-james.jpg\" alt=\"Julie James AM Portrait\" \/><\/p>\n<h4 id=\"jjames\">Julie James AM<\/h4>\n<h5>Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth<\/h5>\n<p>Ganed Julie James yn Abertawe ond treuliodd gryn dipyn o\u2019i hieuenctid yn teithio o gwmpas y byd gyda\u2019i theulu. Dechreuodd ar ei gyrfa yn Llundain ond symudodd yn \u00f4l i Abertawe gyda\u2019i g\u0175r i fagu eu tri phlentyn ac i fod yn nes at ei theulu. Mae Julie yn hollol ymrwymedig i faterion gwyrdd, yn frwd o blaid materion yn ymwneud \u00e2\u2019r amgylchedd ac wrth ei bodd hefyd yn nofio ac yn sg\u00efo. <\/p>\n<p>Hyd nes iddi gael ei hethol yn Aelod Cynulliad Gorllewin Abertawe roedd Julie yn gyfreithwraig amgylcheddol a chyfansoddiadol flaenllaw. Cyn hynny, roedd yn brif weithredwr cynorthwyol Cyngor Abertawe. Treuliodd y rhan fwyaf o\u2019i gyrfa fel cyfreithwraig ym maes llywodraeth leol gan weithio fel cyfreithwraig bolisi gyda Bwrdeistref Llundain Camden cyn dychwelyd i Abertawe i weithio i Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg ac yna Dinas a Sir Abertawe. <\/p>\n<p>Ers iddi gael ei hethol mae Julie wedi bod yn aelod o\u2019r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y Pwyllgor Menter a Busnes a Phwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Gr\u0175p Gorchwyl a Gorffen Caffael y Pwyllgor Menter a Busnes, cyhoeddodd.<\/p>\n<p>Julie Adroddiad y Pwyllgor sef \u2018Influencing the Modernisation of EU Procurement Policy\u2019. Julie hefyd yw Cadeirydd Gr\u0175p Gorchwyl a Gorffen Polisi Pysgodfeydd Cyffredin Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd. <\/p>\n<p>Penodwyd Julie James yn Ddirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg ym mis Medi 2014. Ym mis Mai 2016, penodwyd Julie yn Weinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth.<\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/apprenticeships-awards-cymru\/proffiliaur-cyflwynwyr\">Yn \u00f4l i\u2019r brig\u00bb<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wynne Evans Tenor Cymreig Mae Wynne Evans yn un o denoriaid amlycaf Prydain sydd wedi canu yn y prif rannau gyda phob un o&#8217;r tai opera a\u2019r cerddorfeydd enwocaf, yn cynnwys y T\u0177 Opera Brenhinol, Covent Garden, Opera Cenedlaethol Cymru &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/digwyddiadau\/apprenticeships-awards-cymru\/proffiliaur-cyflwynwyr\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"parent":619,"menu_order":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","template":"apprenticeships-page.php","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-636","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/636","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=636"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/636\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/619"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=636"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}