{"id":10124,"date":"2023-12-19T19:08:14","date_gmt":"2023-12-19T19:08:14","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10124"},"modified":"2023-12-19T19:09:07","modified_gmt":"2023-12-19T19:09:07","slug":"apps-cuts-dec-23","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/apps-cuts-dec-23\/","title":{"rendered":"Pwysau&#8217;n cynyddu ar Lywodraeth Cymru ar \u00f4l cyhoeddi toriadau i brentisiaethau"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/apps-cuts-dec-23\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/apps-cuts-dec-23\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae Llywodraeth Cymru o dan bwysau enfawr i warchod y cyllid ar gyfer prentisiaethau ar \u00f4l y cyhoeddiad yn y gyllideb ddrafft heddiw am doriadau sylweddol a allai arwain at ryw 10,000 yn llai o brentisiaid. <\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/1_Apprenticeships-scaled-e1607938393928.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/1_Apprenticeships-scaled-e1607938393928.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"alignleft size-full wp-image-13045\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae cynrychiolwyr cyflogwyr, yn cynnwys Ffederasiwn y Busnesau Bach a&#8217;r CBI, wedi llofnodi llythyr agored at y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn amlinellu eu pryderon dwys ynghylch y toriadau arfaethedig o 24.2% &#8211; sy\u2019n cyfateb i \u00a335 miliwn &#8211; i brentisiaethau yn 2024-25.  <\/p>\n<p>Maent yn gofyn pam nad yw\u2019r holl arian y maent yn ei dalu tuag at yr ardoll brentisiaethau yn cael ei fuddsoddi mewn prentisiaid, a honnir bod dros \u00a380m yn cael ei wario mewn mannau eraill.<\/p>\n<p>Mae\u2019r toriadau y bwriedir eu gwneud yn gyfuniad o ostyngiad o 3.65% yn y gyllideb brentisiaethau a cholli cyllid blaenorol o&#8217;r Undeb Ewropeaidd, a oedd ar gael cyn dyddiau&#8217;r ardoll brentisiaethau.  Mae cyflogwyr yn talu 0.5% o gyfanswm eu bil cyflog blynyddol tuag at yr ardoll. <\/p>\n<p>Mae\u2019r toriadau hyn yn ychwanegol at yr \u00a317.5m a dorrwyd yn ddiweddar o gyllid prentisiaethau gan Lywodraeth Cymru. <\/p>\n<p>Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), sy\u2019n cynrychioli darparwyr hyfforddiant, yn ymuno \u00e2 chyflogwyr i alw am adolygiad brys gan Lywodraeth Cymru cyn i&#8217;r toriadau wneud niwed parhaol i\u2019w raglen brentisiaethau flaenllaw. <\/p>\n<p><strong>Maent yn mynnu cael gwybod:<\/strong><br \/>\n<strong><\/p>\n<ul>\n<li>A ydi cyflogwyr yn cael gwerth eu harian o dalu\u2019r ardoll brentisiaethau, yr amcangyfrifir ei bod yn werth \u00a3190m y flwyddyn i Lywodraeth Cymru?<\/li>\n<li>Beth sydd wedi digwydd i addewid Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, ym mis Mawrth eleni, am \u00a336m ychwanegol i wneud iawn am golli cyllid Ewropeaidd ar gyfer prentisiaethau?<\/li>\n<\/ul>\n<p><\/strong><\/p>\n<p>Mae ymchwil manwl a wnaed gan ddarparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith, sy&#8217;n cyflenwi prentisiaethau yng Nghymru, wedi datgelu bod cyflogwyr sy&#8217;n talu&#8217;r ardoll ar eu colled o dros \u00a380m y flwyddyn. <\/p>\n<p>Mae&#8217;r NTFW yn rhybuddio bod y toriadau&#8217;n bygwth cannoedd o swyddi yn y sector dysgu seiliedig ar waith.  Maent yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddarparu\u2019r cyllid pontio angenrheidiol \u2013 i gymryd lle&#8217;r arian o\u2019r Undeb Ewropeaidd a gollwyd yn dilyn Brexit \u2013 er budd dysgwyr, gwaith datblygu sgiliau, cynhyrchiant a thwf busnes yng Nghymru.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/03.09.19-mh-App-Awards-Aspire-6-e1568379755363.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/03.09.19-mh-App-Awards-Aspire-6-e1568379755363.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"alignleft size-full wp-image-11743\" \/><\/a><\/p>\n<p>\u201cEr gwaethaf negeseuon gwahanol gan Lywodraeth Cymru, mae\u2019r galw am brentisiaethau&#8217;n dal yn gryf ymhlith dysgwyr a chyflogwyr, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried y toriadau arfaethedig a allai gael canlyniadau trychinebus i Gymru,\u201d <strong>meddai Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTFW. <\/strong><\/p>\n<p>\u201cYn ogystal \u00e2&#8217;r cwestiwn a ydi taliadau\u2019r ardoll yn rhoi gwerth am arian, mae pryder cynyddol hefyd y bydd y toriadau\u2019n effeithio ar y sectorau lle mae\u2019r angen mwyaf am weithlu medrus, yn cynnwys y sector iechyd a gofal cymdeithasol.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r rhwydwaith wedi cael gwybod y bydd cynnydd yng nghyllideb prentisiaethau gradd.  Ond mae\u2019r data\u2019n dangos bod prentisiaethau gradd yn recriwtio llai o ddysgwyr o ardaloedd difreintiedig na phrentisiaethau go iawn. <\/p>\n<p>\u201cUnwaith eto, bydd y bobl sydd wedi ymddieithrio fwyaf a&#8217;r rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas yn cael eu taro gan doriadau enfawr.<\/p>\n<p>&#8220;Mae rhai&#8217;n holi sut y gallai\u2019r gweinidog flaenoriaethu sgiliau a phobl ifanc yn ei ddatganiad cenhadaeth ar yr economi yn ddiweddar ac yntau&#8217;n paratoi i dorri cyllideb prentisiaethau ar yr un pryd.   Fel holl aelodau&#8217;r NTFW, mae cyflogwyr o&#8217;r farn bod ei ddatganiad yn gwrth-ddweud realiti&#8217;r sefyllfa a hoffent wybod beth yw ei flaenoriaethau newydd.<\/p>\n<p>\u201cMae sgiliau ac addysg bellach yn sylfaenol i\u2019n hadferiad economaidd. Dyma\u2019r amser i fuddsoddi yn ein dysgwyr a\u2019n gweithwyr.\u201d<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/apps-cuts-dec-23#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Llywodraeth Cymru o dan bwysau enfawr i warchod y cyllid ar gyfer prentisiaethau ar \u00f4l y cyhoeddiad yn y gyllideb ddrafft heddiw am doriadau sylweddol a allai arwain at ryw 10,000 yn llai o brentisiaid. Mae &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/apps-cuts-dec-23\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-10124","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10124","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10124"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10124\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10127,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10124\/revisions\/10127"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10124"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10124"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10124"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}