{"id":10181,"date":"2024-01-11T03:48:09","date_gmt":"2024-01-11T03:48:09","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10181"},"modified":"2024-01-11T03:55:54","modified_gmt":"2024-01-11T03:55:54","slug":"chelsea-fethney-aac24","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/chelsea-fethney-aac24\/","title":{"rendered":"Cyrraedd y rhestr fer drwy oresgyn rhwystrau sylweddol i wireddu ei breuddwyd trin gwallt"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/chelsea-fethney-aac24\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/chelsea-fethney-aac24\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae Chelsea Fethney wedi gwrthod gadael i heriau mawr iawn yn ei bywyd ei hatal rhag gwireddu ei breuddwyd o ddod yn aelod cymwysedig o staff salon trin gwallt yn Abertawe.<\/p>\n<div id=\"attachment_17005\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/11.12.23-mh-ACC24-Chelsea-Fethney-19-scaled-e1704944509141.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17005\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/11.12.23-mh-ACC24-Chelsea-Fethney-19-scaled-e1704944509141.jpg\" alt=\"Chelsea Fethney in the salon.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-17005\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-17005\" class=\"wp-caption-text\">Mae Chelsea Fethney wedi goresgyn heriau i gyflawni ei breuddwyd.<\/p><\/div>\n<p>Mae&#8217;r ferch 20 oed wedi cwblhau ei Phrentisiaeth Sylfaen mewn Trin Gwallt er iddi fod hefyd yn cefnogi ei mam a&#8217;i brawd drwy gyfnodau anodd iawn ers oedran ifanc.<\/p>\n<p>I goroni&#8217;r cwbl, mae Chelsea nawr wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 fel un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghategori Prentis Sylfaen y Flwyddyn.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, ac maent yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Prif noddwr yw EAL.<\/p>\n<p>Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae&#8217;r gwobrau&#8217;n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>Byddai&#8217;n hawdd iddi fod wedi hel esgusodion, ond mae Chelsea benderfynol wedi defnyddio ei phrofiadau teuluol anodd i&#8217;w hysbrydoli i gael gyrfa lewyrchus.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">&#8220;Rwyf wedi gweld fy nheulu yn cael trafferth dod o hyd i waith heb unrhyw gymwysterau. Mae hynny wastad wedi fy ngwthio i wneud yn well gyda fy ngyrfa fy hun,&#8221; meddai Chelsea, a wnaeth ei hyfforddiant drwy WBTA ym Mhort Talbot, un o bartneriaid cwmni Hyfforddiant Cambrian.<\/p>\n<p>&#8220;Mae cwblhau fy Lefel 2 wedi rhoi&#8217;r hyder i mi fynd ymlaen i wneud Lefel 3 ac fe wnes i gwblhau cwrs estyn gwallt hefyd.&#8221;<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Er gwaethaf ei bywyd cartref heriol, ni fethodd Chelsea un diwrnod o&#8217;i hyfforddiant ar y daith i ennill cymhwyster. Mae mor frwd dros ei swydd steilydd llawn amser yn Aspire Art of Hair fel ei bod wedi ysgwyddo amrywiaeth o dasgau eraill gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol y salon, marchnata a chysylltu \u00e2 chleientiaid.<\/p>\n<p>Mae hi wedi dod yn weithiwr gwerthfawr iawn ac mae bellach yn bwriadu datblygu rhagor o sgiliau trwy ymgymryd \u00e2 chyrsiau newydd.<\/p>\n<p>&#8220;Ers ymuno \u00e2&#8217;r salon, mae Chelsea wedi ffynnu a rhagori fel prentis,&#8221; meddai Jessica Powell, perchennog y salon. &#8220;Mae ei gallu i ddysgu ac addasu wedi dangos ei bod nid yn unig yn gallu trin gwallt yn wych, ond hefyd ei bod hi\u2019n aelod allweddol o\u2019n staff sydd wedi mynd o nerth i nerth wrth ennill rhagor o gleientiaid yn sgil ei hawydd cynyddol i wella&#8217;i hun.<\/p>\n<p>&#8220;Mae hi&#8217;n drefnus, yn broffesiynol ac yn wastad yn sicrhau bod gan y salon yr wybodaeth ddiweddaraf o ran ffasiynau allweddol. Byddwn yn falch iawn pe gallai ennill y wobr hon a derbyn y gydnabyddiaeth y mae&#8217;n ei haeddu gymaint.&#8221;<\/p>\n<p><strong>Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Chelsea a&#8217;r holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol. <\/strong><br \/>\n&#8220;Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o&#8217;n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a&#8217;u hymrwymiad i feithrin eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy&#8217;n dymuno pob lwc i bob un o&#8217;r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol &#8211; ar gyfer y gwobrau a&#8217;u hymdrechion yn y dyfodol.&#8221;<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">lyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffoniwch 03000 6 03000<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Chelsea Fethney wedi gwrthod gadael i heriau mawr iawn yn ei bywyd ei hatal rhag gwireddu ei breuddwyd o ddod yn aelod cymwysedig o staff salon trin gwallt yn Abertawe. Mae&#8217;r ferch 20 oed wedi cwblhau &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/chelsea-fethney-aac24\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-10181","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10181","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10181"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10181\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10186,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10181\/revisions\/10186"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10181"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10181"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10181"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}