{"id":10184,"date":"2024-01-11T03:55:09","date_gmt":"2024-01-11T03:55:09","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10184"},"modified":"2024-01-11T03:55:09","modified_gmt":"2024-01-11T03:55:09","slug":"gwynfor-jones-aac24","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gwynfor-jones-aac24\/","title":{"rendered":"Prentisiaeth Gwynfor wedi arwain at rownd derfynol y gwobrau wrth iddo gyflawni &#8220;rhywbeth amhosibl&#8221;"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/gwynfor-jones-aac24\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gwynfor-jones-aac24\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Roedd Gwynfor Jones yn ei chael hi&#8217;n anodd canolbwyntio yn yr ysgol ac roedd yn ofni y byddai&#8217;r unigrwydd cymdeithasol yn ystod pandemig Covid yn llesteirio ei ddatblygiad fel oedolyn, ond mae&#8217;n rhoi\u2019r clod i ddysgu seiliedig ar waith am ei alluogi i gyflawni &#8220;rhywbeth amhosibl&#8221;.<\/p>\n<div id=\"attachment_17006\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/17.11.23-mh-ACC24-Gwynfor-Jones-20-scaled-e1704944442810.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17006\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/17.11.23-mh-ACC24-Gwynfor-Jones-20-scaled-e1704944442810.jpg\" alt=\"Gwynfor Jones, in the forest with chain saw.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-17006\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-17006\" class=\"wp-caption-text\">Gwynfor Jones, sydd yn rownd derfynol Prentisiaeth Sylfaen y Flwyddyn.<\/p><\/div>\n<p>Mae&#8217;r g\u0175r ifanc 18 oed o Dreherbert wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Cadwraeth Amgylcheddol gyda Croeso i&#8217;n Coedwig, partneriaeth gymunedol yn y Rhondda Fawr Uchaf sy&#8217;n cysylltu trigolion \u00e2 natur.<\/p>\n<p>Mae Gwynfor nawr wedi cael ei roi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 fel un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghategori Prentis Sylfaen y Flwyddyn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwobrau, sy&#8217;n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Prif noddwr yw EAL.<\/p>\n<p>Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae&#8217;r gwobrau&#8217;n tynnu sylw at gyflawniadau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>Roedd Gwynfor wedi gwirfoddoli gyda Croeso i&#8217;n Coedwig ers ei fod yn 13 oed, ac fe wnaethant gymryd Gwynfor o dan eu hadain ar \u00f4l iddo gwblhau ei arholiadau TGAU ac nid yw wedi edrych yn \u00f4l ers hynny, gan helpu gyda nifer o brosiectau amgylcheddol a gwneud gwahaniaeth go iawn.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">&#8220;Roedd fy hyder i&#8217;n isel yn yr ysgol gan nad oeddwn i&#8217;n gweld fy hun fel &#8216;plentyn clyfar&#8217; a doedd gen i ddim sgiliau defnyddiol,&#8221; meddai Gwynfor. &#8220;Ond ers dechrau fy mhrentisiaeth, mae fy hunan-barch a fy hyder wedi datblygu y tu hwnt i beth y gallwn fod wedi&#8217;i ddychmygu.<\/p>\n<p>&#8220;Roeddwn hefyd yn ofni yn ystod Covid fy mod i wedi colli fy sgiliau cymdeithasol trwy ynysu, ond gwelodd fy mhrentisiaeth fi&#8217;n cyflawni &#8216;rhywbeth amhosibl&#8217; trwy wneud cyflwyniadau &#8211; i blant mewn ysgolion, i&#8217;r cyhoedd ac mewn digwyddiadau cymunedol yn fy ngweithle.&#8221;<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Fel gweithiwr dwyieithog, mae gwerth Gwynfor wedi cael ei gydnabod mewn fideos sy&#8217;n hyrwyddo addysg alwedigaethol yn Gymraeg a Saesneg. Mae ei sgiliau hefyd wedi cael eu croesawu gan ei uwch reolwyr.<\/p>\n<p>&#8220;Mae Gwynfor wedi rhoi ei wybodaeth newydd ar waith ac wedi dod \u00e2 syniadau newydd i&#8217;n rhaglenni yn y coetir, ynghylch creu cynefinoedd a bioamrywiaeth,&#8221; meddai Ian Thomas, cyfarwyddwr cwmni Croeso i&#8217;n Coedwig Cyf.<\/p>\n<p>&#8220;Yn ogystal \u00e2&#8217;i wythnos waith, mae wedi cefnogi ein sesiynau therapi coetir yn frwd, gan weithio un i un gyda chyfranogwyr o&#8217;n hysbyty GIG lleol, a phobl a atgyfeiriwyd gan feddygon teulu ac ysbytai arbenigol, fel ysbyty adfer anafiadau ymennydd Rookwood.<\/p>\n<p>&#8220;Mae hefyd wedi dod yn arweinydd ieuenctid egn\u00efol ac yn ddylanwadwr cadarnhaol ar bobl ifanc trwy wirfoddoli am ddwy noswaith yr wythnos gyda Phlant o&#8217;r Cymoedd mewn sesiynau chwarae tu fas gyda mynediad agored. Mae&#8217;n swyddog cymorth cyntaf awyr agored ac yn arweinydd beicio mynydd. Enillodd y cymwysterau ychwanegol hyn yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.&#8221;<\/p>\n<p><strong>Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Gwynfor a&#8217;r holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol. <\/strong><br \/>\n&#8220;Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o&#8217;n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a&#8217;u hymrwymiad i feithrin eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy&#8217;n dymuno pob lwc i bob un o&#8217;r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol &#8211; ar gyfer y gwobrau a&#8217;u hymdrechion yn y dyfodol.&#8221;<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">lyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffoniwch 03000 6 03000<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Roedd Gwynfor Jones yn ei chael hi&#8217;n anodd canolbwyntio yn yr ysgol ac roedd yn ofni y byddai&#8217;r unigrwydd cymdeithasol yn ystod pandemig Covid yn llesteirio ei ddatblygiad fel oedolyn, ond mae&#8217;n rhoi\u2019r clod i ddysgu seiliedig &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gwynfor-jones-aac24\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-10184","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10184","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10184"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10184\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10185,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10184\/revisions\/10185"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10184"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10184"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10184"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}