{"id":10236,"date":"2024-01-16T09:27:11","date_gmt":"2024-01-16T09:27:11","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10236"},"modified":"2024-01-16T09:27:11","modified_gmt":"2024-01-16T09:27:11","slug":"aac24-megan-christie","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac24-megan-christie\/","title":{"rendered":"Gyrfa Megan yn cyrraedd yr entrychion mewn cwmni awyrofod diolch i brentisiaeth"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac24-megan-christie\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac24-megan-christie\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae gyrfa&#8217;r llysgennad prentisiaethau peirianneg, Megan Christie yn cyrraedd yr entrychion gyda GE Aerospace Wales, Nantgarw lle mae&#8217;n aelod o d\u00eem sy&#8217;n atgyweirio, cynnal ac ailwampio peiriannau awyrennau masnachol.<\/p>\n<div id=\"attachment_17092\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/10.11.23-mh-AAC24-Megan-Christie-GE-1-scaled-e1705393190938.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17092\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/10.11.23-mh-AAC24-Megan-Christie-GE-1-scaled-e1705393190938.jpg\" alt=\"Megan Christie\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-17092\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-17092\" class=\"wp-caption-text\">Megan Christie, y mae ei gyrfa yn cyrraedd yr entrychion gyda GE Aerospace Wales.<\/p><\/div>\n<p>Enillodd Megan, sy&#8217;n 21 oed ac yn byw yn Georgetown, Tredegar, wobr Ysbrydoli Sgiliau Cymru a medal arian fel rhan o d\u00eem yn Rownd Derfynol WorldSkills UK yn 2022, a Gwobr Brentisiaeth yng Ngholeg y Cymoedd y llynedd.<\/p>\n<p>Cafodd ei gwobrwyo am ei hymroddiad pan dderbyniodd farc rhagoriaeth ar gyfer pob un o&#8217;i 40 aseiniad yn ystod ei Phrentisiaeth mewn Peirianneg Awyrennol yng Ngholeg y Cymoedd.<\/p>\n<p>Mae Megan bellach wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 ar gyfer rownd derfynol Prentis y Flwyddyn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwobrau, sy&#8217;n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW). Y prif noddwr yw EAL.<\/p>\n<p>Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae&#8217;r gwobrau&#8217;n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>Mae Megan bellach yn astudio ar gyfer Gradd Peirianneg gyda Gradd Meistr Integredig mewn Peirianneg Dylunio (MEng) drwy&#8217;r Brifysgol Agored a fydd yn cymryd naw mlynedd ac yn arwain at ei nod yn y pen draw o fod yn Beiriannydd Siartredig.<\/p>\n<p>Yn ei r\u00f4l fel llysgennad prentisiaeth, mae&#8217;n siarad mewn ysgolion a cholegau, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau STEM ac yn mynychu ffeiriau gyrfa i hyrwyddo peirianneg fel gyrfa. Mae hi hefyd yn mentora prentisiaid newydd yn GE Aerospace Wales.<\/p>\n<p>Yn ystod ei phrentisiaeth, enillodd sgiliau a phrofiad gwerthfawr ar draws y cwmni ac mae&#8217;n gwneud cyfraniad cadarnhaol at nod ei chyflogwr o ailwampio peiriannau yn y ffordd gyflymaf a mwyaf diogel posibl. <\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;r sgiliau a ddysgais i drwy weithio mewn amrywiol weithdai trwsio peiriannau awyrennau fel rhan o&#8217;m prentisiaeth wedi fy ngalluogi i ennill gwybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy y byddaf yn eu cario gyda mi am weddill fy ngyrfa,&#8221; meddai Megan, a hoffai ddod yn beiriannydd dylunio.<\/p>\n<p>&#8220;Mae hefyd wedi rhoi cyfleoedd i mi weithio o fewn y gymuned leol fel llysgennad prentisiaeth. Uchafbwynt personol oedd pan gefais wahoddiad i siarad \u00e2 pheirianwyr yn fy hen goleg. Roedd yn hyfryd gweld lle dechreuais a&#8217;r hyn yr oeddwn wedi&#8217;i gyflawni ers gadael fy ngholeg, ac roedd y cyfan diolch i&#8217;m prentisiaeth.&#8221;<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Jake Thomas, arweinydd prentisiaid GE Aerospace Wales:<\/strong><br \/>\n&#8220;Mae Megan yn brentis gwych ac yn esiampl anhygoel. Mae hi wedi chwalu&#8217;r ystrydeb mai dim ond i ddynion mae peirianneg trwy arwain y ffordd gydag ansawdd ei gwaith a&#8217;i hagwedd gadarnhaol.&#8221;<\/p>\n<p><strong>Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Megan a&#8217;r holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol. <\/strong><br \/>\n&#8220;Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o&#8217;n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a&#8217;u hymrwymiad i feithrin eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy&#8217;n dymuno pob lwc i bob un o&#8217;r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol &#8211; ar gyfer y gwobrau a&#8217;u hymdrechion yn y dyfodol.&#8221;<\/p>\n<p><strong>Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL:<\/strong><br \/>\n&#8220;Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a&#8217;r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau&#8217;n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw i fyny ag anghenion y diwydiant, sy&#8217;n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.&#8221;<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">lyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffoniwch 03000 6 03000<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae gyrfa&#8217;r llysgennad prentisiaethau peirianneg, Megan Christie yn cyrraedd yr entrychion gyda GE Aerospace Wales, Nantgarw lle mae&#8217;n aelod o d\u00eem sy&#8217;n atgyweirio, cynnal ac ailwampio peiriannau awyrennau masnachol. Enillodd Megan, sy&#8217;n 21 oed ac yn byw &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac24-megan-christie\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-10236","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10236","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10236"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10236\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10239,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10236\/revisions\/10239"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10236"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10236"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10236"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}