{"id":10262,"date":"2024-01-18T12:27:01","date_gmt":"2024-01-18T12:27:01","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10262"},"modified":"2024-01-18T13:44:58","modified_gmt":"2024-01-18T13:44:58","slug":"dros-60-o-gyflogwyr-yn-lleisio-pryder-ynghylch-toriadau-posibl-i-brentisiaethau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/dros-60-o-gyflogwyr-yn-lleisio-pryder-ynghylch-toriadau-posibl-i-brentisiaethau\/","title":{"rendered":"Dros 60 o gyflogwyr yn lleisio pryder ynghylch toriadau posibl i brentisiaethau"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/employers-open-letter\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/employers-open-letter\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae dros 60 o gyflogwyr o bob rhan o Gymru wedi dod ynghyd i alw am ddiogelu cyllid ar gyfer rhaglen brentisiaethau flaenllaw Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau ffyniant economaidd Cymru.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-PCI-Evan-Coombs-App-awards-6-e1665077064907.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-PCI-Evan-Coombs-App-awards-6-e1665077064907.jpg\" alt=\"Evan in the laboratory\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"alignleft size-full wp-image-15205\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mewn llythyr agored, mae cyflogwyr yn dweud y bydd y toriadau i\u2019r rhaglen brentisiaethau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 19 Rhagfyr 2023 yn cael effaith ddinistriol ar brentisiaid, cyflogwyr, a chymunedau, gan arwain at gyfnod heriol iawn i\u2019r sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith. <\/p>\n<p>Mae&#8217;r toriad arfaethedig o 24.5% &#8211; \u00a338m &#8211; yn gyfuniad o doriad o 3.65% i&#8217;r gyllideb brentisiaethau a cholli&#8217;r cyllid a arferai ddod o&#8217;r Undeb Ewropeaidd. Daw&#8217;r toriad ar ben yr \u00a317.5m a dorrwyd yn ddiweddar o&#8217;r gyllideb brentisiaethau.<\/p>\n<p>Gallai olygu y bydd 10,000 yn llai o brentisiaid yn gallu dechrau\u2019r flwyddyn nesaf, gyda\u2019r gostyngiadau\u2019n effeithio&#8217;n anghymesur ar bobl ifanc, a phobl yn y grwpiau economaidd-gymdeithasol isaf.<\/p>\n<p>Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) a ColegauCymru wedi tynnu sylw yn y gorffennol at bryderon ynghylch yr effaith ar brentisiaethau ac arlwy ehangach addysg bellach pe bai cyllidebau&#8217;n cael eu lleihau.<\/p>\n<p><strong>Dywedodd cyfarwyddwr strategol NTFW, Lisa Mytton:<\/strong><br \/>\n\u201cRhaid i ni ddweud \u2018diolch yn fawr\u2019 wrth y 65 o gyflogwyr sydd wedi dangos eu cefnogaeth drwy dorri eu henwau ar y llythyr agored, yn mynegi eu pryder am y toriadau trychinebus y bwriedir eu gwneud i&#8217;r gyllideb brentisiaethau.<\/p>\n<p>\u201cBydd yr effaith yn enfawr ar gyflogwyr sy\u2019n talu\u2019r ardoll brentisiaethau ac ar gyfleoedd miloedd o bobl ifanc Cymru ar gychwyn eu gyrfa. \u201cDydi hi ddim yn rhy hwyr, cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chyllideb derfynol ar gyfer 2024-&#8217;25 ar 27 Chwefror, i osgoi niwed trychinebus a di-droi&#8217;n-\u00f4l i\u2019r rhaglen brentisiaethau yng Nghymru. <\/p>\n<p>\u201cMae sgiliau ac addysg bellach yn sylfaenol i\u2019n hadferiad economaidd. Dyma\u2019r amser i fuddsoddi yn ein dysgwyr a\u2019n gweithwyr.\u201d<\/p>\n<p>Mae NTFW yn rhwydwaith o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru sy&#8217;n cyflenwi prentisiaethau i gyflogwyr mewn ystod eang o sectorau. Mae&#8217;r darparwyr yn ysbrydoli busnesau, eu gweithluoedd a&#8217;r gymuned ehangach ym mhob rhan o Gymru i ddefnyddio prentisiaethau i gyrraedd eu nod.<\/p>\n<p><strong>Mewn ymateb i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk:<\/strong><br \/>\n&#8220;Wrth i Gymru ymdopi \u00e2 chyfnod economaidd cythryblus, colegau yw\u2019r peiriant sgiliau sy&#8217;n angenrheidiol i ysgogi ein hadferiad economaidd, ac mae\u2019n hanfodol nad yw mewnfuddsoddiad y dyfodol yn cael ei niweidio. <\/p>\n<p>&#8220;Mae\u2019r gyllideb ddrafft yn gambl enfawr i economi a chymunedau Cymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru ailfeddwl a gwrthdroi\u2019r penderfyniad trychinebus i dorri\u2019r rhaglen brentisiaethau.\u201d<\/p>\n<p>Mae darparwyr hyfforddiant a cholegau addysg bellach yn sylfaenol er mwyn creu Cymru decach, wyrddach a chryfach, ond mae arnynt angen cyllid cynaliadwy fel y gallant gefnogi dysgwyr a gwasanaethu cyflogwyr. <\/p>\n<p>Mae\u2019r cyfuniad o\u2019r toriadau i\u2019r gyllideb brentisiaethau a gostyngiadau mewn cyllid mewn mannau eraill yn golygu bod storm berffaith yn wynebu\u2019r sector o ganlyniad i\u2019r cynigion yn y gyllideb ddrafft.<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae dros 60 o gyflogwyr o bob rhan o Gymru wedi dod ynghyd i alw am ddiogelu cyllid ar gyfer rhaglen brentisiaethau flaenllaw Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau ffyniant economaidd Cymru. Mewn llythyr agored, mae cyflogwyr yn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/dros-60-o-gyflogwyr-yn-lleisio-pryder-ynghylch-toriadau-posibl-i-brentisiaethau\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-10262","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10262","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10262"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10262\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10266,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10262\/revisions\/10266"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10262"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10262"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10262"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}