{"id":10356,"date":"2024-02-01T07:51:09","date_gmt":"2024-02-01T07:51:09","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10356"},"modified":"2024-02-01T07:52:36","modified_gmt":"2024-02-01T07:52:36","slug":"cynhadledd-ntfw-2024-pr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cynhadledd-ntfw-2024-pr\/","title":{"rendered":"Cynhadledd i ganolbwyntio ar brentisiaethau a sgiliau i sicrhau twf economaidd"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ntfw-conference-2024-pr\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cynhadledd-ntfw-2024-pr\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Caiff cynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) ei hatgyfodi ym mis Mawrth ar y thema &#8216;Prentisiaethau, Sgiliau ar gyfer Twf Economaidd yng Nghymru&#8217;.<\/p>\n<p>Gyda chynlluniau dadleuol Llywodraeth Cymru i leihau cyllid prentisiaethau yn gefnlen iddi, bydd y gynhadledd a gynhelir yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru), Casnewydd ar 22 Mawrth, yn ystyried ac yn trafod sut y mae prentisiaethau o fudd i Gymru.<\/p>\n<div id=\"attachment_17309\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/Press-pic-App-Awards-Persimmon-Homes-38-e1706745517399.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17309\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/Press-pic-App-Awards-Persimmon-Homes-38-e1706745517399.jpg\" alt=\"Apprentices at Persimmon Homes in Swansea\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-17309\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-17309\" class=\"wp-caption-text\">Prentisiaid yn Persimmon Homes yn Abertawe<\/p><\/div>\n<p>Y prif siaradwyr fydd Rhian Edwards, dirprwy gyfarwyddwr addysg bellach a phrentisiaethau yn Llywodraeth Cymru a Philip Blaker, prif weithredwr Cymwysterau Cymru.<\/p>\n<p>Y siaradwyr eraill fydd cyfarwyddwr strategol NTFW Lisa Mytton, rheolwr polisi, rhanddeiliaid a phartneriaethau City &#038; Guilds (y Cenhedloedd ac Iwerddon) Angharad Lloyd Beynon, a phrif weithredwr Agored Cymru Darren Howells. City &#038; Guilds yw noddwr pennaf y gynhadledd.<\/p>\n<p>Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar &#8220;fynd ati heddiw i adeiladu llwyddiant yfory&#8221; a bydd yn cynnwys trafodaeth gan banel o gyflogwyr. Bydd y cynadleddwyr yn trafod sut i gyflawni potensial trwy brentisiaethau, grymuso pobl ar gyfer y dyfodol, grymuso cyflogwyr a sbarduno ffyniant economaidd.<\/p>\n<p>Bydd y gweithdai&#8217;n cynnwys &#8216;Economi a seilir ar sgiliau yng Nghymru: Tyfu BBaChau trwy ddatblygu sgiliau&#8217;, sef pwnc Ben Cottam o FSB Cymru. &#8216;Meincnodi trwy gymryd rhan mewn cystadlaethau&#8217; fydd testun Emma Banfield, rheolwr prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, a &#8216;Cymraeg 2050 \u2013 datblygu gweithlu ar gyfer Cymru ddwyieithog&#8217; fydd yn cael sylw Lisa O\u2019Connor, rheolwr academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.<\/p>\n<p>Ymhlith y gweithdai eraill bydd &#8216;Recriwtio, cadw staff a rheoleiddio proffesiynol&#8217; gyda Hayden Llewellyn, prif weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg, &#8216;Yr Asesydd a&#8217;i r\u00f4l ganolog ac allweddol ym mhrofiad y prentis&#8217; gyda Mark Evans a Jassa Scott o Estyn, a &#8216;Stigma iechyd meddwl mewn gweithleoedd&#8217; gyda Rachelle Bright o Amser i Newid Cymru (TtCW).<\/p>\n<p>&#8216;Archwilio sut y gall technolegau digidol wella profiad prentisiaid o ran dysgu ac asesu&#8217; fydd pwnc Dean Seabrook, uwch-reolwr cymwysterau, Cymwysterau Cymru a bydd Rhys Daniels a Michael Webb o Jisc Cymru yn canolbwyntio ar &#8216;Ffeindio&#8217;ch ffordd trwy gyfleoedd a heriau AI&#8217;.<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Angharad Lloyd Beynon, rheolwr polisi, rhanddeiliaid a phartneriaethau City &#038; Guilds (y Cenhedloedd ac Iwerddon):<\/strong><br \/>\n&#8220;Mae City &#038; Guilds yn falch o gael bod yn noddwr pennaf cynhadledd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, gan bwysleisio sut y gall prentisiaethau a sgiliau sbarduno twf economaidd. Rydym yn credu mewn grymuso unigolion \u00e2&#8217;r wybodaeth a&#8217;r arbenigedd i hybu ffyniant, gan feithrin dyfodol lle mae sgiliau&#8217;n llunio economi lewyrchus.&#8221;<\/p>\n<p>Gallwch brynu tocynnau o <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cynhadledd-ntfw-2024\">ntfw.org\/wel\/cynhadledd-ntfw-2024<\/a>. Os hoffech fanylion pecynnau noddi eraill y gynhadledd, cysylltwch \u00e2 rheolwr cyfathrebu a marchnata NTFW, Karen Smith ar 07425 621709 or ebostio: <a href=\"mailto:karen.smith@ntfw.org\">Karen.Smith@ntfw.org<\/a>.<\/p>\n<p>Gyda&#8217;r nos, ar \u00f4l y gynhadledd, bydd cinio i gyflwyno <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/gwobrau-prentisiaethau-cymru\">Gwobrau Prentisiaethau Cymru<\/a> 2024 yn yr un man.<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Caiff cynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) ei hatgyfodi ym mis Mawrth ar y thema &#8216;Prentisiaethau, Sgiliau ar gyfer Twf Economaidd yng Nghymru&#8217;. Gyda chynlluniau dadleuol Llywodraeth Cymru i leihau cyllid prentisiaethau yn gefnlen iddi, bydd &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cynhadledd-ntfw-2024-pr\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[9,11],"tags":[],"class_list":["post-10356","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cynhadledd-ntfw","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10356","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10356"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10356\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10364,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10356\/revisions\/10364"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10356"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10356"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10356"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}