{"id":10367,"date":"2024-02-05T07:00:55","date_gmt":"2024-02-05T07:00:55","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10367"},"modified":"2024-02-03T14:01:06","modified_gmt":"2024-02-03T14:01:06","slug":"aac24-heledd-roberts","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac24-heledd-roberts\/","title":{"rendered":"Heledd, sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru, yn &#8220;chwa o awyr iach&#8221;"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac24-heledd-roberts\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac24-heledd-roberts\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_17325\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/AAC24-Heledd-Roberts-8-scaled-e1706958341444.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17325\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/AAC24-Heledd-Roberts-8-scaled-e1706958341444.jpg\" alt=\"Heledd at Royal Welsh Showground\" width=\"460\" height=\"297\" class=\"size-full wp-image-17325\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-17325\" class=\"wp-caption-text\">Heledd Roberts, sydd ar y rhestr fer yng nghategori Talent Yfory.<\/p><\/div>\n<p>Mae&#8217;r Prentis Uwch Heledd Roberts wedi cael ei disgrifio fel &#8220;chwa o awyr iach&#8221; ers ymuno \u00e2&#8217;r t\u00eem prysur yn FUW Insurance Services Ltd dair blynedd yn \u00f4l.<\/p>\n<p>Dyna eiriau Caryl Roberts, rheolwr datblygu busnes y cwmni, a ddywedodd: &#8220;Mae Heledd wedi bod yn gaffaeliad eithriadol i&#8217;n sefydliad, ac mae wedi cael cryn effaith ar amcanion a pherfformiad cyffredinol ein t\u00eem.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;n barod i herio a moderneiddio rhai prosesau sydd wedi ennill eu plwyf ac mae ganddi awydd mawr i gyflwyno dulliau newydd o ddatrys problemau.&#8221;<\/p>\n<p>Mae Heledd, sy&#8217;n 24 oed ac yn dod o Gaerfyrddin, nawr wedi cael ei rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 fel un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y  categori Talent Yfory.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwobrau, sy&#8217;n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW). Y prif noddwr yw EAL.<\/p>\n<p>Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae&#8217;r gwobrau&#8217;n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>Ymunodd Heledd \u00e2 FUW Insurance Services Ltd, prif frocer yswiriant amaethyddol arbenigol y Deyrnas Unedig, yn ystod y pandemig, pan helpodd i ymdrin \u00e2 sawl swyddfa ar draws y busnes.<\/p>\n<p>Oherwydd ei brwdfrydedd i ddysgu ac ysgogi eraill, mae wedi cafodd ei dyrchafu o fod yn swyddog trin cyfrifon i fod yn brif swyddog trin cyfrifon yng Ngogledd Cymru ac ar hyn o bryd mae&#8217;n llenwi swydd swyddog gweithredol cyfrifon yn swyddfa Rhuthun sydd ar gyfnod mamolaeth.<\/p>\n<p>Cwblhaodd Brentisiaeth Gwasanaethau Ariannol (Llwybr Yswiriant) o fewn blwyddyn ac mae bellach yn gweithio tuag at Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) Yswiriant Cyffredinol,<br \/>\n gyda&#8217;r ddwy brentisiaeth yn cael eu darparu gan ALS Training.<\/p>\n<p>Mae Heledd wedi cynyddu effeithlonrwydd busnes a phroffidioldeb trwy arwain prosiect i gyflwyno proses e-fasnach electronig. Mae hi hefyd wedi darparu arbenigedd gwerthfawr ar brosesau archwilio mewnol ac wedi helpu gyda digwyddiadau marchnata a chodi arian.<\/p>\n<p>Mae hi hefyd yn ffynnu fel mentor i staff newydd ac mae ei hegni a&#8217;i brwdfrydedd yn gwneud eu y profiad o ymuno \u00e2&#8217;r diwydiant yswiriant yn un cadarnhaol   .<\/p>\n<p>&#8220;Rwy&#8217;n gredwr mawr mewn effeithlonrwydd a chyflwyno ffyrdd newydd o wneud pethau sydd nid yn unig yn helpu&#8217;r busnes ond sy&#8217;n helpu&#8217;r staff hefyd,&#8221; meddai Heledd. &#8220;Rwy&#8217;n mwynhau fy ngwaith yn fawr, yn enwedig ochr reoli&#8217;r swydd a hoffwn sicrhau swydd barhaol fel swyddog gweithredol cyfrifon mewn gwahanol ardaloedd o Gymru.&#8221;<\/p>\n<p>Dywedodd ymgynghorydd hyfforddi Heledd, Gareth Lewis, o ALS Training fod ei thalent yn disgleirio o&#8217;r eiliad y ddechreuodd ei phrentisiaeth. <\/p>\n<p><strong>Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Heledd a&#8217;r holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol. <\/strong><br \/>\n&#8220;Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o&#8217;n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a&#8217;u hymrwymiad i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy&#8217;n dymuno pob lwc i bob un o&#8217;r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a phobl hwyl iddynt gyda&#8217;u hymdrechion yn y dyfodol.&#8221;<\/p>\n<p><strong>Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL:<\/strong><br \/>\n&#8220;Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a&#8217;r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau&#8217;n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw i fyny ag anghenion y diwydiant, sy&#8217;n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.&#8221;<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">lyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffoniwch 03000 6 03000<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae&#8217;r Prentis Uwch Heledd Roberts wedi cael ei disgrifio fel &#8220;chwa o awyr iach&#8221; ers ymuno \u00e2&#8217;r t\u00eem prysur yn FUW Insurance Services Ltd dair blynedd yn \u00f4l. Dyna eiriau Caryl Roberts, rheolwr datblygu busnes y cwmni, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac24-heledd-roberts\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16,11],"tags":[],"class_list":["post-10367","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10367","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10367"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10367\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10376,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10367\/revisions\/10376"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10367"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10367"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10367"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}