{"id":10369,"date":"2024-02-05T07:00:54","date_gmt":"2024-02-05T07:00:54","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10369"},"modified":"2024-02-03T14:01:25","modified_gmt":"2024-02-03T14:01:25","slug":"aac24-katie-trembath","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac24-katie-trembath\/","title":{"rendered":"Katie yn canolbwyntio ar gyrraedd targedau newid hinsawdd Rhondda Cynon Taf"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac24-katie-trembath\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac24-katie-trembath\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_17327\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/20.12.23-ACC24-Katie-Trembath22-scaled-e1706959989838.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17327\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/20.12.23-ACC24-Katie-Trembath22-scaled-e1706959989838.jpg\" alt=\"Katie on site wearing hi-vis clothing\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-17327\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-17327\" class=\"wp-caption-text\">Katie Trembath, yn canolbwyntio ar gyrraedd targedau newid hinsawdd.<\/p><\/div>\n<p>Mae&#8217;r Prentis Uwch, Katie Trembath, yn rhan allweddol o ymdrech Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i gyrraedd targedau heriol ar newid hinsawdd a datgarboneiddio.<\/p>\n<p>Fel swyddog lleihau carbon, mae Katie, sy&#8217;n 27 oed ac yn dod o Gwm Clydach, yn ymwneud \u00e2 datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr, gan gynnwys datblygu fferm solar chwe megawat a chynlluniau trydan d\u0175r, yn ogystal ag ystod o waith arall i leihau \u00f4l troed carbon y cyngor.<\/p>\n<p>Mae sgiliau a gwybodaeth a ddysgwyd ganddi yn ystod ei Phrentisiaeth Uwch mewn Rheoli Prosiectau, a gyflwynwyd gan  ALS Training, a chymhwyster Prince2 yn allweddol i&#8217;w gwaith. Mae \u00f4l-radd i ategu ei dyletswyddau hefyd yn opsiwn yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Mae Katie nawr wedi cael ei rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 fel un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghategori Talent Yfory.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwobrau, sy&#8217;n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW). Y prif noddwr yw EAL.<\/p>\n<p>Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae&#8217;r gwobrau&#8217;n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>Mae Katie wedi rhagori ar ddisgwyliadau drwy reoli prosiectau a dod o hyd i atebion arloesol i heriau wrth i&#8217;r cyngor geisio dod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030.  <\/p>\n<p>Ar \u00f4l cael Gradd Prifysgol Agored mewn Gwyddorau Amgylcheddol a Daearyddiaeth, cafodd Katie swydd gan y cyngor fel swyddog graddedig ynni a lleihau carbon ym mis Mehefin 2022. Cyn hynny, bu&#8217;n gweithio ym maes rheoli manwerthu am saith mlynedd, gan ennill Prentisiaeth mewn Rheoli Manwerthu.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n frwdfrydig dros leihau carbon ac ynni adnewyddadwy, mae&#8217;n rhannu arfer gorau gyda chynghorau eraill ac yn gweithio gyda rhanddeiliaid gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Garbon, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, tirfeddianwyr a pheirianwyr.<\/p>\n<p>&#8220;Rwyf wedi bod \u00e2 diddordeb mewn ynni adnewyddadwy a lleihau carbon ers yn ddim o beth, sy&#8217;n amserol iawn gyda Llywodraeth Cymru yn rhoi pwysau ar y sector cyhoeddus yng Nghymru i fod yn Sero Net erbyn 2030,&#8221; meddai Katie.<\/p>\n<p>&#8220;Does dim dwywaith bod y brentisiaeth uwch wedi fy helpu yn fy ngwaith ac mae&#8217;n berffaith ar gyfer rheoli prosiectau. &#8220;Rwyf am ddatblygu fy ngyrfa wrth wneud gwahaniaeth yn y gymuned lle rwy&#8217;n byw.&#8221;<\/p>\n<p>Dywedodd Jon Arroyo, rheolwr ynni a lleihau carbon Cyngor Rhondda Cynon Taf: &#8220;Mae Katie wedi profi i fod yn gaffaeliad gwych i&#8217;r T\u00eem Ynni Ystadau Corfforaethol a bydd ganddi ddyfodol cyffrous yn gweithio gyda thechnolegau newydd ac arloesol i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r her Sero Net.<\/p>\n<p>&#8220;Mae ei hymroddiad a&#8217;i hymrwymiad i&#8217;w gwaith wedi bod yn rhagorol a bydd yn sicr yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i&#8217;r afael \u00e2 her newid hinsawdd fwyaf y byd.&#8221;<\/p>\n<p><strong>Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Katie holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol. <\/strong><br \/>\n&#8220;Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o&#8217;n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a&#8217;u hymrwymiad i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy&#8217;n dymuno pob lwc i bob un o&#8217;r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a phobl hwyl iddynt gyda&#8217;u hymdrechion yn y dyfodol.&#8221;<br \/>\n<strong><br \/>\nWrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL:<\/strong><br \/>\n&#8220;Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a&#8217;r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau&#8217;n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw i fyny ag anghenion y diwydiant, sy&#8217;n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.&#8221;<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">lyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffoniwch 03000 6 03000<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae&#8217;r Prentis Uwch, Katie Trembath, yn rhan allweddol o ymdrech Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i gyrraedd targedau heriol ar newid hinsawdd a datgarboneiddio. Fel swyddog lleihau carbon, mae Katie, sy&#8217;n 27 oed ac yn dod &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac24-katie-trembath\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16,11],"tags":[],"class_list":["post-10369","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10369","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10369"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10369\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10377,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10369\/revisions\/10377"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10369"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10369"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10369"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}