{"id":10374,"date":"2024-02-05T07:15:48","date_gmt":"2024-02-05T07:15:48","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10374"},"modified":"2024-02-10T15:30:50","modified_gmt":"2024-02-10T15:30:50","slug":"healthcare-feb24","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/healthcare-feb24\/","title":{"rendered":"Toriadau i brentisiaethau&#8217;n bygwth dyfodol y sector gofal iechyd yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/healthcare-feb24\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/healthcare-feb24\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_17335\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/medical-doctor-and-nurse-fist-bump-with-hands-tog-2023-11-27-05-29-35-utc-scaled-e1706963185260.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17335\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/medical-doctor-and-nurse-fist-bump-with-hands-tog-2023-11-27-05-29-35-utc-scaled-e1706963185260.jpg\" alt=\"Medical, doctor and nurse fist bump with hands together to show support and wellness community.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-17335\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-17335\" class=\"wp-caption-text\">NTFW yn rhybuddio y bydd toriadau i brentisiaethau&#8217;n cael canlyniadau difrifol i\u2019r sector gofal iechyd.<\/p><\/div>\n<p>Rhybuddiwyd Llywodraeth Cymru y bydd toriadau llym i\u2019r rhaglen brentisiaethau yng Nghymru&#8217;n cael effaith ddifrifol ar ofal cleifion a gofal preswyl. <\/p>\n<p>Gallai toriadau arfaethedig Llywodraeth Cymru i&#8217;r gyllideb brentisiaethau, ynghyd \u00e2 cholli cyllid Ewropeaidd, arwain at golli bron chwarter (24%) y rhaglen yn 2024-25, yn \u00f4l darparwyr hyfforddiant a gofal iechyd a sefydliadau addysg ledled Cymru.<\/p>\n<p>Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) a CholegauCymru eisoes wedi rhybuddio am yr effaith drychinebus a di-droi&#8217;n-\u00f4l y byddai\u2019r toriadau hyn yn ei chael ar brentisiaethau yng Nghymru.  Amcangyfrifant y bydd nifer y bobl sy&#8217;n dechrau prentisiaethau o&#8217;r newydd yn 2024-25 yn cael ei haneru i 10,000. <\/p>\n<p>Mae&#8217;r ffigurau diweddar yn datgelu&#8217;r effaith bosibl ar y sector gofal iechyd yng Nghymru, sy\u2019n wynebu gostyngiad o 69% mewn cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau ar adeg pan na fu&#8217;r heriau o ran y gweithlu erioed yn fwy.  <\/p>\n<p>Y rheswm dros hyn yw bod y rhan fwyaf o ddysgwyr sy\u2019n dechrau prentisiaeth mewn gofal iechyd dros 25 oed ac y bydd cyllid Llywodraeth Cymru&#8217;n cael ei flaenoriaethu ar gyfer dysgwyr iau. <\/p>\n<p><strong>Mae&#8217;r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud:<\/strong><br \/>\n&#8220;Bydd aliniad rhwng y ffordd yr ydym ni&#8217;n gwario ein harian prentisiaeth a&#8217;n gwarant i bobl ifanc i wneud yn si\u0175r bod pobl ifanc sydd angen y dechrau hwnnw yn eu gyrfaoedd yn parhau i&#8217;w dderbyn yma yng Nghymru.\u201d <\/p>\n<p><strong>Mae Gweinidog yr Economi Vaughan Gething, sy&#8217;n gyfrifol am gyllideb prentisiaethau, wedi adleisio hynny trwy ddweud:<\/strong><br \/>\n&#8220;Byddant (y prentisiaethau) yn parhau i gefnogi ein gwarant i bobl ifanc, gan helpu pobl ifanc ar ddechrau eu gyrfaoedd, a bydd busnesau&#8217;n dal i allu recriwtio prentisiaid i ddod o hyd i gyfleoedd i ddatblygu eu staff eu hunain.\u201d<\/p>\n<p>Yn \u00f4l dadansoddiad a wnaed yn ddiweddar gan NTFW, os bydd Llywodraeth Cymru&#8217;n blaenoriaethu pobl ifanc o dan 25 oed, efallai na fydd cyfleoedd newydd am brentisiaethau o gwbl i rai 25 oed a throsodd yn 2024-25. <\/p>\n<p>Dywed yr NTFW, sy\u2019n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru, y bydd hyn yn cael effaith ddifrifol ar bob sector yn economi Cymru, ac mai gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus fydd yn wynebu\u2019r canlyniadau gwaethaf.  <\/p>\n<p>Amcangyfrifir y bydd 5,500 yn llai o brentisiaid yn y sector hwn, sy&#8217;n sector blaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru ac sy\u2019n cynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, gofal iechyd clinigol, nyrsio deintyddol, a gofal, dysgu a datblygiad plant. <\/p>\n<p>Dywed yr NTFW ei bod yn eironig mai&#8217;r sector Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sydd wedi\u2019i flaenoriaethu yn y gyllideb ddrafft trwy fuddsoddiad ychwanegol o \u00a3929m, yw\u2019r union sector a gaiff ei effeithio waethaf gan y toriad o \u00a338m i gyllideb prentisiaethau. <\/p>\n<p>Gan dyrchu&#8217;n ddyfnach, dywed yr NTFW mai iechyd a gofal cymdeithasol fydd yn gweld y gostyngiad mwyaf mewn cyfleoedd, gyda dros 3,000 yn llai o brentisiaid yn 2024-25. Daw hyn ar adeg pan fo\u2019r gweithlu gofal cymdeithasol eisoes mewn argyfwng, yn \u00f4l arweinwyr y GIG yng Nghymru.<\/p>\n<p>Canfu arolwg yn 2022 gan Gonffederasiwn y GIG, corff aelodaeth cenedlaethol sy\u2019n cynrychioli\u2019r holl sefydliadau sy\u2019n rhan o\u2019r GIG yng Nghymru, fod holl benaethiaid y gwasanaeth iechyd yn cytuno bod argyfwng yn y gweithlu gofal cymdeithasol. <\/p>\n<p>Mae Conffederasiwn y GIG yn dweud bod yr argyfwng gofal cymdeithasol yn effeithio ar bob un rhan o&#8217;r GIG, o wasanaethau ambiwlans ac adrannau argyfwng i ofal dewisol, diagnosteg, meddygon teulu, gwasanaethau iechyd meddwl a gofal cymunedol. <\/p>\n<p>Ategwyd hyn gan ymchwiliad gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd a ddaeth i\u2019r casgliad yn ddiweddar:  \u201cMae argyfwng y gweithlu gofal cymdeithasol a&#8217;r diffyg capasiti yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol yn dal yn un o&#8217;r prif achosion dros yr oedi cyn rhyddhau pobl o\u2019r ysbyty.\u201d<\/p>\n<p><strong>Dywedodd cyfarwyddwr strategol NTFW, Lisa Mytton:<\/strong><br \/>\n\u201cMae\u2019r NTFW yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried y toriadau arfaethedig i brentisiaethau ac i gynnal deialog adeiladol er mwyn canfod datrysiad ymarferol a fydd yn cefnogi&#8217;r sector gofal iechyd ac economi ehangach Cymru.\u201d<\/p>\n<p>Mae darparwyr gofal iechyd a hyfforddiant ledled Cymru yn galw hefyd am adolygiad brys o\u2019r penderfyniad, gan bwysleisio\u2019r angen am gyllid cynaliadwy i ddiogelu dyfodol gwasanaethau gofal iechyd. <\/p>\n<p>Mae Innovate Trust, elusen sy&#8217;n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu i fyw&#8217;n annibynnol yn y gymuned, wedi mynegi ei phryderon. <\/p>\n<p>\u201cO ganlyniad i&#8217;r pandemig COVID-19, mae mwy o swyddi gweigion nag erioed,\u201d meddai llefarydd.  \u201cMae cyllid ar gyfer cymwysterau&#8217;n hollbwysig i ni fel elusen er mwyn sicrhau bod ein gweithwyr yn gwbl gymwys ac wedi&#8217;u cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.  <\/p>\n<p>\u201cByddai unrhyw doriadau i&#8217;n cyllid yn amharu ar ein gwaith.  Mae Innovate Trust yn dibynnu\u2019n fawr ar gymorth a chyllid er mwyn darparu cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chynnal sgiliau ein gweithlu.\u201d<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Rhybuddiwyd Llywodraeth Cymru y bydd toriadau llym i\u2019r rhaglen brentisiaethau yng Nghymru&#8217;n cael effaith ddifrifol ar ofal cleifion a gofal preswyl. Gallai toriadau arfaethedig Llywodraeth Cymru i&#8217;r gyllideb brentisiaethau, ynghyd \u00e2 cholli cyllid Ewropeaidd, arwain at golli &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/healthcare-feb24\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-10374","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10374","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10374"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10374\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10375,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10374\/revisions\/10375"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10374"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10374"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10374"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}