{"id":10387,"date":"2024-02-15T07:04:01","date_gmt":"2024-02-15T07:04:01","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10387"},"modified":"2024-02-14T16:34:07","modified_gmt":"2024-02-14T16:34:07","slug":"cambrian-feb24","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-feb24\/","title":{"rendered":"Hyrwyddo Prentisiaethau trwy Gystadlu a Dathlu Llwyddiant ar  Lwyfan Cyhoeddus"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/cambrian-feb24\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-feb24\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/7.-CTC-Green-Chef-Challenge-winners-scaled-e1707928293800.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/7.-CTC-Green-Chef-Challenge-winners-scaled-e1707928293800.jpg\" alt=\"presenting awards to winners\" width=\"460\" height=\"288\" class=\"alignleft size-full wp-image-10470\" \/><\/a><\/p>\n<p>Fis diwethaf ymunodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian ag Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru i gynnal cystadlaethau lletygarwch Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru (WICC) a drefnwyd gan Gymdeithas Goginio Cymru. Am y tro cyntaf cynhaliwyd y Pencampwriaethau yn ICC Cymru, Casnewydd, sy&#8217;n lleoliad o safon fyd-eang. Roedd yno gynulleidfa o gogyddion gorau\u2019r wlad, pobl o&#8217;r sector lletygarwch a\u2019r cyhoedd. \u00a0Dros dridiau, bu 40 o brentisiaid o bob rhan o Gymru yn cystadlu mewn gornestau Celfyddydau Coginio, Patisserie a Melysion, a Sgiliau Bwyty. \u00a0Roedd pawb yn unfryd ei fod y digwyddiad llwyddiannus.<\/p>\n<p>\u201cErs llawer gormod o amser, bu pobl o dan gamargraff bod prentisiaethau&#8217;n israddol i lwybr academaidd traddodiadol. \u00a0Dydi hyn ddim yn wir o gwbl\u201d meddai Faith O\u2019Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian yn hybu prentisiaethau trwy roi cyfle i brentisiaid ddangos eu doniau a dathlu llwyddiant mewn digwyddiadau mawr ac nid y tu \u00f4l i ddrysau caeedig\u201d meddai.<\/p>\n<p>Roedd Rosie Koffer a Gabbi Wilson, cogyddion commis a phrentisiaid coginio proffesiynol Lefel 3 ym mwyty hyfforddi Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Chartists 1770 yn The Trewythen, yn cymryd rhan yng nghystadlaethau WICC eleni. \u00a0Enillodd Rosie, gyda Gabbi fel ei commis, fedal arian yng ngornest Cogydd Iau Cymru a Gabbi, gyda Rosie fel ei commis, enillodd Her gyntaf y Cogydd Gwyrdd, a noddwyd gan Compass Cymru. \u00a0Mae&#8217;r fwydlen lysieuol dri chwrs a enillodd y fedal aur ar werth yn Chartists 1770 erbyn hyn. Daeth Ben Roberts, sydd wedi cwblhau cyfres o brentisiaethau o Lefel 2 i Lefel 4 gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian yn ail yng nghystadleuaeth Cigydd y Flwyddyn Cymru, ddyddiau&#8217;n unig ar \u00f4l lansio&#8217;i siop gigydd ei hun, Astley &amp; Stratton yn Farndon, ger Caer.<\/p>\n<p>Cwmni Hyfforddiant Cambrian, sef prif ddarparwr prentisiaethau seiliedig ar waith ym maes bwyd a diod, sy&#8217;n noddi gwobr Prentis y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru hefyd fel rhan o Wobrau Bwyd a Diod Cymru. \u00a0Mae\u2019r wobr honno&#8217;n agored i unigolion sydd ar gynllun prentisiaethn yn y sector bwyd a diod yng Nghymru ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>Dydi hi ddim yn rhy hwyr i brentisiaid ymgeisio gan mai\u2019r dyddiad cau yw hanner nos ar 23 Chwefror. \u00a0Er mwyn bod yn Brentis y Flwyddyn Cymru, Bwyd a Diod, mae\u2019r beirniaid yn chwilio am unigolion sydd ag uchelgais, egni, sgiliau a gweledigaeth, ac a gafodd lwyddiant pendant mewn busnes eisoes.<\/p>\n<p>Gall prentisiaid ymgeisio trwy\u2019r wefan neu gall rheolwr llinell, cynrychiolydd adnoddau dynol, neu diwtor coleg eu henwebu. \u00a0Mae ymgeisio&#8217;n broses syml, ddi-d\u00e2l a gellir gwneud hynny ar ffurflen fer ar y wefan: <a href=\"https:\/\/foodanddrinkawards.wales\/\">https:\/\/foodanddrinkawards.wales\/<\/a>\u00a0 Caiff yr ymgeiswyr sy&#8217;n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i gwrdd \u00e2\u2019r panel beirniaid am sgwrs anffurfiol lle penderfynir ar yr enillydd.<\/p>\n<p>\u201cYn ein barn ni yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian, mae&#8217;n bwysig iawn bod pawb yng Nghymru, boed yn ddisgyblion ysgol, athrawon, rhieni neu gyflogwyr, yn gwybod am brentisiaethau a\u2019r manteision y maen nhw\u2019n eu cynnig o ran sgiliau i ddysgwyr a busnesau fel ei gilydd. \u00a0Mae cystadlaethau a gwobrau i brentisiaid a gynhelir ochr yn ochr \u00e2 phrif gystadlaethau a gwobrau&#8217;r diwydiant yn helpu i gyflawni hyn\u201d meddai Faith O\u2019Brien.<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig&gt;&gt;<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Fis diwethaf ymunodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian ag Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru i gynnal cystadlaethau lletygarwch Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru (WICC) a drefnwyd gan Gymdeithas Goginio Cymru. Am y tro cyntaf cynhaliwyd y &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-feb24\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-10387","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10387","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10387"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10387\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10471,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10387\/revisions\/10471"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10387"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10387"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10387"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}