{"id":10407,"date":"2024-02-15T07:07:18","date_gmt":"2024-02-15T07:07:18","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10407"},"modified":"2024-02-14T16:47:49","modified_gmt":"2024-02-14T16:47:49","slug":"coleg-cymraeg-feb-24","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/coleg-cymraeg-feb-24\/","title":{"rendered":"Elliot yn dewis llwybr prentisiaeth yn hytrach na phrifysgol"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/coleg-cymraeg-feb-24\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/coleg-cymraeg-feb-24\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_10464\" style=\"width: 410px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-10464\" class=\"size-full wp-image-10464\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/15.-Elliot-Coleg-Cymraeg-edit.jpg\" alt=\"\" width=\"400\" height=\"284\" srcset=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/15.-Elliot-Coleg-Cymraeg-edit.jpg 400w, https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/15.-Elliot-Coleg-Cymraeg-edit-250x178.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 400px) 100vw, 400px\" \/><p id=\"caption-attachment-10464\" class=\"wp-caption-text\">Coleg Cymraeg &#8211; Elliot Wigfall<\/p><\/div>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae Elliot Wigfall, sy\u2019n wreiddiol o Ynysybwl ger Pontypridd, yn brentis trydanol gyda landlord cymdeithasol Trivallis yn ardal Rhondda Cynon Taf.<\/p>\n<p>Mae Elliot yn gweithio tuag at NVQ Lefel 3 mewn gwaith trydanol gyda Choleg y Cymoedd. Mae e hefyd yn un o Lysgenhadon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer y sector prentisiaethau. Ond pam wnaeth e ddewis gwneud prentisiaeth? Dyma ychydig o\u2019i hanes<\/p>\n<p><strong>Pa bynciau wnes di yn yr ysgol ac ai hon ydy dy swydd gyntaf?<\/strong><\/p>\n<p>Nes i wneud Lefel A mewn Cemeg, Bioleg, Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio yn \u00a0yr Ysgol\u00a0 ac wedyn nes i fynd i Brifysgol y Drindod Dewi Sant i wneud gradd mewn Theatr Cerdd a\u2019r Cyfryngau.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l graddio, ges i fy swydd gyntaf gyda\u2019r brifysgol yng Nghaerfyrddin fel swyddog marchnata ac ymgysylltu gyda\u2019r gymuned.<\/p>\n<p><strong>Felly sut a phryd nes di benderfynu gwneud prentisiaeth i fod yn drydanwr?<\/strong><\/p>\n<p>Yn fy swydd gyda\u2019r Brifysgol roeddwn i\u2019n mynd o amgylch ysgolion a cholegau yn dweud wrth bobl ifanc \u2018dewch i\u2019r brifysgol, dewch i\u2019r brifysgol\u2019 ond nes i hefyd sylweddoli mai nid prifysgol ydy\u2019r opsiwn gorau i bawb.<\/p>\n<p>Nes i wedyn ddechrau meddwl amdana i fy hun, fy ngyrfa ac oeddwn i wir eisiau gwneud y swydd yna am fy oes.<\/p>\n<p>Dyna pryd nes i ddechrau edrych ar brentisiaethau a gweld fod lot o waith datrys problemau, sy\u2019n fy siwtio i, fel trydanwr. Ti\u2019n gwneud mathemateg a gwyddoniaeth am reswm \u2013 nid dim ond i basio arholiad \u2013 a dysgu sut mae\u2019n berthnasol i fywyd go iawn.<\/p>\n<p><strong>A beth ydy\u2019r peth gorau am dy swydd di nawr?<\/strong><\/p>\n<p>Dwi allan yn dysgu sut i wneud fy swydd wrth fy ngwaith ac mae pob un diwrnod yn wahanol.<\/p>\n<p>Hyd yn oed os yw\u2019r dasg yr un peth, mae elfennau gwahanol bob tro \u2013 falle fod y cables yn rhedeg mewn ffordd wahanol, falle fod na rhywbeth ar ffordd, falle fod y t\u0177 yn llanast&#8230;a ti\u2019n gorfod delio gyda hyn a datrys y broblem.<\/p>\n<p><strong>Mi wyt ti\u2019n llysgennad i\u2019r Coleg Cymraeg Cenedlaethol \u2013 pa wahaniaeth mae\u2019r Gymraeg yn ei wneud i ti yn dy swydd fel trydanwr?<\/strong><\/p>\n<p>Os wyt ti\u2019n siarad Cymraeg, mae cael y person sy\u2019n dod i drwsio dy gawod neu dy olau hefyd yn siarad Cymraeg yn gwneud gwahaniaeth \u2013 yn enwedig yn yr ardal yma lle does na ddim llawer o bobl yn gallu ei siarad hi.<\/p>\n<p>Mae\u2019n rhoi cyfle i bobl siarad yr iaith maen nhw fwyaf cyfforddus gyda hi.<\/p>\n<p><strong>Beth fyddai dy gyngor i rhywun sy\u2019n meddwl gwneud prentisiaeth?<\/strong><\/p>\n<p>Os nad ydych chi\u2019n mwynhau dysgu yn y ffordd draddodiadol, mae prentisiaeth yn cynnig rhywbeth gwahanol. Er fod un diwrnod yn y coleg yn dysgu theori, mi ydw i gweddill yr amser yn dysgu sgiliau ymarferol wrth fy ngwaith.<\/p>\n<p>Mae\u2019n ffordd dda o ddysgu a chael cymwysterau, tra hefyd yn cael cyflog.<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig&gt;&gt;<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg &nbsp; &nbsp; &nbsp; &nbsp; &nbsp; &nbsp; &nbsp; &nbsp; &nbsp; &nbsp; &nbsp; Mae Elliot Wigfall, sy\u2019n wreiddiol o Ynysybwl ger Pontypridd, yn brentis trydanol gyda landlord cymdeithasol Trivallis yn ardal Rhondda Cynon Taf. Mae Elliot yn gweithio tuag &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/coleg-cymraeg-feb-24\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-10407","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10407","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10407"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10407\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10485,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10407\/revisions\/10485"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10407"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10407"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10407"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}