{"id":10421,"date":"2024-02-13T13:55:19","date_gmt":"2024-02-13T13:55:19","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10421"},"modified":"2024-02-14T18:34:33","modified_gmt":"2024-02-14T18:34:33","slug":"busnes-meithrin-llwyddiannus-o-fargam-yn-elwa-ar-fanteision-prentisiaethau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/busnes-meithrin-llwyddiannus-o-fargam-yn-elwa-ar-fanteision-prentisiaethau\/","title":{"rendered":"Busnes meithrin llwyddiannus o Fargam yn elwa ar fanteision prentisiaethau"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/award-winning-margam-nursery-business-reaping-rewards-of-apprenticeships\/\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/coleg-cymraeg-feb-24\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_10422\" style=\"width: 460px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-10422\" class=\"size-full wp-image-10422\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/11.12.23-mh-ACC24-Tiddlywinks-Nursery-11.jpg\" alt=\"Perchennog Meithrinfa Ddydd Tiddlywinks Vicky Williams (canol) gyda'r prentisiaid Kirsty Moores, Adriana Holland, Melissa Johnson a Leanne Edwards.\" width=\"450\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/11.12.23-mh-ACC24-Tiddlywinks-Nursery-11.jpg 450w, https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/11.12.23-mh-ACC24-Tiddlywinks-Nursery-11-250x167.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 450px) 100vw, 450px\" \/><p id=\"caption-attachment-10422\" class=\"wp-caption-text\">Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 yn rownd derfynol Cyflogwr Bach y Flwyddyn.<\/p><\/div>\n<p>Mae&#8217;r gallu i gynnig prentisiaethau wedi helpu darparwr gofal plant Meithrinfa Ddydd Tiddlywinks i recriwtio a chadw staff o safon uchel a thyfu&#8217;r busnes i dri lleoliad yn ystod y pum mlynedd diwethaf.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd mae gan y cwmni, sydd \u00e2 lleoliadau ym Margam a Chwmafan, bum prentis yn ei weithlu o 22. Mae TSW Training yn darparu Prentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Gwaith Chwarae yn y feithrinfa.<\/p>\n<p>\u200cMae Meithrinfa Ddydd Tiddlywinks bellach wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 yn rownd derfynol Cyflogwr Bach y Flwyddyn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwobrau, sy&#8217;n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Y prif noddwr yw EAL.<\/p>\n<p>Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae&#8217;r gwobrau&#8217;n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;r rhaglen brentisiaethau yn rhan annatod o ddatblygiad ein t\u00eem,&#8221; meddai Vicky Williams, perchennog y busnes, sy&#8217;n canmol y bartneriaeth agos gyda TSW Training.<\/p>\n<p>&#8220;Roedd cael sylfaen gref o staff medrus a chymwys iawn yn amlwg yn yr adroddiad arolygu cadarnhaol a gawsom gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Rydym yn benderfynol o barhau i dyfu mewn niferoedd a gwella ein safonau hyd y gellir rhagweld.&#8221;<\/p>\n<p>Cenhadaeth Meithrinfa Ddydd Tiddlywinks yw darparu gofal plant fforddiadwy o ansawdd mewn amgylchedd cartrefol lle mae plant, rhwng dwy a 12 oed, yn teimlo&#8217;n ddiogel, yn cael eu parchu a&#8217;u herio i gyrraedd eu potensial llawn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r holl staff wedi cyflawni neu&#8217;n gweithio tuag at gymwysterau sy&#8217;n berthnasol i&#8217;w r\u00f4l \u2013 o Brentisiaeth Sylfaen hyd at Brentisiaeth Uwch (Lefel 5) a lefel gradd.<\/p>\n<p>Mae pob prentis presennol wedi cwblhau cyrsiau Prentis-Iaith i ddatblygu eu<strong> hyder i siarad Cymraeg <\/strong>yn y gweithle. Maent hefyd yn ymchwilio i&#8217;r arferion gofal plant diweddaraf ac yn rhannu ffyrdd newydd o weithio gyda&#8217;u cydweithwyr, fel rhan o ffocws y feithrinfa ar arloesi.<\/p>\n<p>Yn enillydd pum Gwobr Gofal Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn 2022, arhosodd Tiddlywinks ar agor trwy gydol pandemig Covid-19 i gefnogi gweithwyr allweddol, gan gyflogi hyfforddwr arbenigol i sicrhau iechyd a lles staff.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cwmni&#8217;n trefnu i blant chwarae gemau a chanu i&#8217;r henoed mewn tri chartref nyrsio lleol, gan hybu lles ac addysg y ddau gr\u0175p.<\/p>\n<p>Dywedodd Sarah Elston, cyfarwyddwr ansawdd TSW Training: &#8220;Mae dull Tiddlywinks o fuddsoddi yn eu staff a&#8217;u datblygu wedi galluogi&#8217;r sefydliad i dyfu a gwella&#8217;n barhaus yn ei gefnogaeth a&#8217;i effaith ar y gymuned leol.&#8221;<\/p>\n<p>Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Meithrinfa Ddydd Tiddlywinks a&#8217;r holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol.<\/p>\n<p>&#8220;Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o&#8217;n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a&#8217;u hymrwymiad i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy&#8217;n dymuno pob lwc i bob un o&#8217;r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a phobl hwyl iddynt gyda&#8217;u hymdrechion yn y dyfodol.&#8221;\u200c<\/p>\n<p>Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: &#8220;Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a&#8217;r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau&#8217;n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw i fyny ag anghenion y diwydiant, sy&#8217;n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.&#8221;<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffoniwch 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"#top\">Back to top&gt;&gt;<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae&#8217;r gallu i gynnig prentisiaethau wedi helpu darparwr gofal plant Meithrinfa Ddydd Tiddlywinks i recriwtio a chadw staff o safon uchel a thyfu&#8217;r busnes i dri lleoliad yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Ar hyn o bryd &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/busnes-meithrin-llwyddiannus-o-fargam-yn-elwa-ar-fanteision-prentisiaethau\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-10421","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10421","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10421"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10421\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10488,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10421\/revisions\/10488"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10421"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10421"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10421"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}