{"id":10424,"date":"2024-02-13T14:30:14","date_gmt":"2024-02-13T14:30:14","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10424"},"modified":"2024-02-14T18:34:22","modified_gmt":"2024-02-14T18:34:22","slug":"specsavers-porthcawl-yn-gweld-manteision-prentisiaethau-yn-glir","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/specsavers-porthcawl-yn-gweld-manteision-prentisiaethau-yn-glir\/","title":{"rendered":"Specsavers Porthcawl yn gweld manteision prentisiaethau yn glir"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/specsavers-porthcawl-focused-on-benefits-of-apprenticeships\/\">English<\/a>\u00a0|\u00a0<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/specsavers-porthcawl-yn-gweld-manteision-prentisiaethau-yn-glir\/\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_17402\" style=\"width: 516px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17402\" class=\"size-full wp-image-17402\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/13.12.23.-ACC-24-Specsavers-Porthcawl-7.jpg\" alt=\"Staff at Specsavers Porthcawl.\" width=\"506\" height=\"300\" \/><p id=\"caption-attachment-17402\" class=\"wp-caption-text\">Staff yn Specsavers Porthcawl.<\/p><\/div>\n<p>Mae prentisiaethau wedi helpu Specsavers Porthcawl i recriwtio, datblygu a chadw staff o ansawdd sy&#8217;n ased allweddol i&#8217;r busnes .<\/p>\n<p>Mae gan y siop, sydd \u00e2 thri phrentis ac sydd wedi cyflogi wyth ers iddi agor ym Mhorthcawl yn 2015,\u00a0 achrediad &#8216;Cyflogwr Platinwm&#8217; Specsavers ar gyfer rheoli pobl.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r rhan fwyaf o brentisiaid sydd wedi&#8217;u cyflogi gan Specsavers Porthcawl naill ai wedi aros yno i ddatblygu eu gyrfaoedd yn y siop neu maent yn gweithio mewn ysbytai lleol erbyn hyn.<\/p>\n<p>Bellach, mae&#8217;r cwmni ar restr fer rownd derfynol\u00a0 Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 yng nghategori Cyflogwr Bach y Flwyddyn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwobrau, sy&#8217;n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Y prif noddwr yw EAL.<\/p>\n<p>Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae&#8217;r gwobrau&#8217;n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>Mae Inspiro Learning, mewn partneriaeth \u00e2 Chwmni Hyfforddiant Cambrian, yn darparu Prentisiaethau mewn Sgiliau Manwerthu ac yn cydweithio \u00e2 Specsavers Porthcawl i recriwtio yn y gymuned leol.<\/p>\n<p>Mae canolbwyntio ar ddatblygu staff yn caniat\u00e1u i&#8217;r siop ddarparu gwell gwasanaethau optometreg clinigol ac awdioleg sy&#8217;n caniat\u00e1u i gleifion dderbyn gofal yn nes at adref.<\/p>\n<p>Mae prentisiaid wedi helpu i symleiddio gwasanaeth awdioleg y siop, gwella effeithlonrwydd yn y t\u00eem lens gyffwrdd ac wedi ymgymryd \u00e2 r\u00f4l hyfforddi fel hyfforddwyr y siop.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r pwyslais ar ddatblygiad personol yr un mor berthnasol i gyfarwyddwyr y siop, sydd wedi cwblhau cymwysterau uwch, ag ydyw i&#8217;r optometryddion a&#8217;r staff manwerthu.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;r rhaglen brentisiaethau wedi bod o help mawr i&#8217;r busnes, gan fod gennym d\u00eem brwdfrydig o gyflogeion sydd \u00e2 sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid cryf ac awydd i ddatblygu eu hunain. Mae hynny&#8217;n helpu ein cynlluniau i dyfu yn y dyfodol,&#8221; meddai Claire Edwards, cyfarwyddwr offthalmig y siop.<\/p>\n<p>&#8220;Dros yr wyth mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld manteision prentisiaethau fel busnes a hefyd o ran datblygiad y bobl ifanc sy&#8217;n gweithio i ni. Mae&#8217;r diwylliant o ddysgu a datblygu wedi&#8217;i wreiddio&#8217;n ddwfn, ac rydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd newydd i&#8217;w cynnig i&#8217;n t\u00eem.&#8221;<\/p>\n<p>Pwysleisiodd Claire pa mor bwysig yw prentisiaethau i ddarparu cyfleoedd i bobl, nad ydynt o reidrwydd wedi gwneud yn dda yn yr ysgol, feithrin sgiliau ac ennill cymwysterau sy&#8217;n cael eu cydnabod yn ffurfiol.<\/p>\n<p>Dywedodd Diane Block, rheolwr rhanbarthol Inspiro Learning:\u00a0 &#8220;Mae Specsavers Porthcawl wedi bod yn gefnogwr brwd o&#8217;r rhaglen brentisiaethau ers sawl blwyddyn.\u00a0 Mae&#8217;r holl gyfarwyddwyr a rheolwyr yn cefnogi prentisiaid i gyflawni hyd eithaf eu gallu a&#8217;u hannog i ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol i wella eu sgiliau.&#8221;<\/p>\n<p>Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Specsavers Porthcawl a&#8217;r holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol.<\/p>\n<p>&#8220;Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o&#8217;n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a&#8217;u hymrwymiad i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy&#8217;n dymuno pob lwc i bob un o&#8217;r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a phobl hwyl iddynt gyda&#8217;u hymdrechion yn y dyfodol.&#8221;\u200c<\/p>\n<p>Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: &#8220;Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a&#8217;r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau&#8217;n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw i fyny ag anghenion y diwydiant, sy&#8217;n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.&#8221;<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffoniwch 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/busnes-meithrin-llwyddiannus-o-fargam-yn-elwa-ar-fanteision-prentisiaethau\/#top\">Back to top&gt;&gt;<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English\u00a0|\u00a0Cymraeg Mae prentisiaethau wedi helpu Specsavers Porthcawl i recriwtio, datblygu a chadw staff o ansawdd sy&#8217;n ased allweddol i&#8217;r busnes . Mae gan y siop, sydd \u00e2 thri phrentis ac sydd wedi cyflogi wyth ers iddi agor ym Mhorthcawl yn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/specsavers-porthcawl-yn-gweld-manteision-prentisiaethau-yn-glir\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-10424","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10424","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10424"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10424\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10487,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10424\/revisions\/10487"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10424"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10424"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10424"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}