{"id":10428,"date":"2024-02-13T14:40:08","date_gmt":"2024-02-13T14:40:08","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10428"},"modified":"2024-02-14T18:34:05","modified_gmt":"2024-02-14T18:34:05","slug":"prentisiaid-yn-helpu-busnes-clustogwaith-llwyddiannus-i-dyfu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentisiaid-yn-helpu-busnes-clustogwaith-llwyddiannus-i-dyfu\/","title":{"rendered":"Prentisiaid yn helpu busnes clustogwaith llwyddiannus i dyfu"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/apprentices-help-award-winning-upholstery-business-to-grow\/\">English<\/a>\u00a0|\u00a0<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/specsavers-porthcawl-yn-gweld-manteision-prentisiaethau-yn-glir\/\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_10429\" style=\"width: 410px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-10429\" class=\"size-full wp-image-10429\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/AAC24-Dr-Ali-Wright-12-Needle-Rock.jpg\" alt=\"Perchennog Needle Rock Dr Ali J. Wright gyda'i phrentisiaid.\" width=\"400\" height=\"278\" srcset=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/AAC24-Dr-Ali-Wright-12-Needle-Rock.jpg 400w, https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/AAC24-Dr-Ali-Wright-12-Needle-Rock-250x174.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 400px) 100vw, 400px\" \/><p id=\"caption-attachment-10429\" class=\"wp-caption-text\">Perchennog Needle Rock Dr Ali J. Wright gyda&#8217;i phrentisiaid.<\/p><\/div>\n<p>Mae cyn-arolygydd iechyd planhigion Llywodraeth y DU bellach yn meithrin prentisiaid ei ar \u00f4l troi ei hobi o achub hen ddodrefn yn fusnes arobryn sy&#8217;n creu &#8220;clustogwaith unigryw a rhyfeddol&#8221;.<\/p>\n<p>Lansiwyd Needle Rock gan Dr Ali J. Wright yn Llanrhystud, ger Aberystwyth yn 2013, ac mae gan y cwmni bortffolio amrywiol o glustogwaith traddodiadol a modern ar gyfer cartrefi, tafarndai, clybiau, bwytai, carafanau, cychod cul a chartrefi modur.<\/p>\n<p>Mae Needle Rock wedi&#8217;i achredu gan yr AMUSF (Association of Master Upholsterers and Soft Furnishers), ac enillodd wobr Microfusnes y Flwyddyn y Ffederasiwn Busnesau Bach yn 2023.<\/p>\n<p>\u200cMae&#8217;r cwmni bellach wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 ar gyfer Cyflogwr Bach y Flwyddyn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwobrau, sy&#8217;n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Y prif noddwr yw EAL.<\/p>\n<p>Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae&#8217;r gwobrau&#8217;n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>Bellach mae gan y cwmni bedwar gweithiwr a gafodd eu recriwtio gyda chefnogaeth gan hen raglen Kickstart Llywodraeth Cymru a&#8217;r rhaglenni\u00a0 Twf Swyddi Cymru a Mwy cyfredol.<\/p>\n<p>Uchelgais Ali yw sefydlu Academi Hyfforddi Needle Rock i lenwi&#8217;r bwlch ar gyfer prentisiaethau clustogwaith yng Nghymru. Mae hi mewn cysylltiad \u00e2 Llywodraeth Cymru i drafod y posibilrwydd o\u00a0 greu fframwaith Prentisiaeth Lefel 3 mewn Sgiliau Clustogwaith Uwch.<\/p>\n<p>Mae dau brentis cyntaf Needle Rock, Roselin Morgan a Jason Vale wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Perfformio Gweithrediadau Gweithgynhyrchu\u00a0 ac maent bellach wedi cofrestru ar Brentisiaeth Lefel 2 arall mewn Technegau Gwella Busnes.<\/p>\n<p>Fis Tachwedd diwethaf, enillodd Jason wobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Academi Sgiliau Cymru 2023. Ar hyn o bryd mae Jason a Roselin yn mentora&#8217;r ddau aelod diweddaraf sy&#8217;n dilyn yr un llwybr dysgu, gyda Myrick Training a Needle Rock.<\/p>\n<p>&#8220;Mae buddsoddi mewn gweithwyr ifanc yn llawer o waith ond mae&#8217;r manteision yn\u00a0 sylweddol,&#8221; meddai Ali, sydd wedi ymuno \u00e2&#8217;r t\u00eem ar gyfres deledu BBC One &#8216;Money for Nothing&#8217;. &#8220;Mae&#8217;r effaith y mae prentisiaid yn ei chael ar fusnes Needle Rock wedi bod yn anhygoel. Mae trosiant wedi treblu ac mae ein gweithdy bellach yn agored am 50 wythnos y flwyddyn.&#8221;<\/p>\n<p>Dywedodd Nick Jones, rheolwr peirianneg a chyrsiau Myrick Training: &#8220;Mae&#8217;r berthynas ragorol sydd gennym gyda Needle Rock yn ein galluogi ni i roi cyngor, ymchwilio a thrafod cydweithio posibl gyda&#8217;r cwmni iddo ffynnu, ehangu ac annog mwy o brentisiaid yn y dyfodol agos.&#8221;<\/p>\n<p>Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Needle Rock a&#8217;r holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol.<\/p>\n<p>&#8220;Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o&#8217;n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a&#8217;u hymrwymiad i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy&#8217;n dymuno pob lwc i bob un o&#8217;r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a phobl hwyl iddynt gyda&#8217;u hymdrechion yn y dyfodol.&#8221;\u200c<\/p>\n<p>Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: &#8220;Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a&#8217;r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau&#8217;n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw i fyny ag anghenion y diwydiant, sy&#8217;n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.&#8221;<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffoniwch 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/busnes-meithrin-llwyddiannus-o-fargam-yn-elwa-ar-fanteision-prentisiaethau\/#top\">Back to top&gt;&gt;<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English\u00a0|\u00a0Cymraeg Mae cyn-arolygydd iechyd planhigion Llywodraeth y DU bellach yn meithrin prentisiaid ei ar \u00f4l troi ei hobi o achub hen ddodrefn yn fusnes arobryn sy&#8217;n creu &#8220;clustogwaith unigryw a rhyfeddol&#8221;. Lansiwyd Needle Rock gan Dr Ali J. Wright yn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentisiaid-yn-helpu-busnes-clustogwaith-llwyddiannus-i-dyfu\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-10428","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10428","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10428"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10428\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10486,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10428\/revisions\/10486"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10428"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10428"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10428"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}