{"id":10499,"date":"2024-02-20T09:00:59","date_gmt":"2024-02-20T09:00:59","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10499"},"modified":"2024-02-19T10:38:38","modified_gmt":"2024-02-19T10:38:38","slug":"aac24-little-inspirations","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac24-little-inspirations\/","title":{"rendered":"Prentisiaethau yn rhan annatod o dwf darparwr gofal plant yn y De"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac24-little-inspirations\/\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac24-little-inspirations\/\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_17497\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17497\" class=\"size-full wp-image-17497\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/27.11.23-mh-App-awards-Little-inspirations-47.jpg\" alt=\"Little Inspirations director Jenine Gill with members of her team.\" width=\"460\" height=\"307\" \/><p id=\"caption-attachment-17497\" class=\"wp-caption-text\">Cyfarwyddwr Little Inspirations, Jenine Gill, gydag aelodau o&#8217;i th\u00eem.<\/p><\/div>\n<p>Mae rhaglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan annatod o dwf llwyddiannus Little Inspirations, darparwr gofal plant yn y de sydd wedi ennill sawl gwobr.<\/p>\n<p>Ers ei ffurfio 20 mlynedd yn \u00f4l, mae&#8217;r cwmni o Bontyclun wedi tyfu o un lleoliad i naw, ac erbyn hyn mae ganddo weithlu o 123. Darperir cyfleusterau gofal ar gyfer plant rhwng chwe wythnos a 12 oed o fwy na 400 o deuluoedd bob dydd ar draws Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, Casnewydd a Merthyr Tudful.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd mae gan y cwmni 20 o brentisiaid, ar \u00f4l cyflogi 39 dros yr 17 mlynedd diwethaf. Mae cyfraddau cadw staff y cwmni ymhell yn uwch na chyfartaledd y diwydiant. Mae prentisiaethau yn gwneud i weithwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac yn darparu llwybrau gyrfa iddynt.<\/p>\n<p>\u200cMae Little Inspirations bellach wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 ar gyfer rownd derfynol Cyflogwr Canolig y Flwyddyn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwobrau, sy&#8217;n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Y prif noddwr yw EAL.<\/p>\n<p>Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae&#8217;r gwobrau&#8217;n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r darparwr hyfforddiant Educ8 Training yn gweithio&#8217;n agos gyda Little Inspirations i ddarparu prentisiaethau o Lefel 2 i Lefel 5 Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, Gwaith Chwarae, Rheoli, Gwasanaeth Cwsmeriaid ac Arweinyddiaeth a Rheolaeth.<\/p>\n<p>Mae straeon am lwyddiant prentisiaid sy&#8217;n datblygu o fod ag ychydig gymwysterau i ddod yn rheolwyr, diolch i&#8217;r sgiliau a&#8217;r wybodaeth y maent wedi&#8217;u hennill, yn ysbrydoli recriwtiaid newydd.<\/p>\n<p>Gan arwain drwy esiampl, mae cyfarwyddwr Little Inspirations, Jenine Gill, wedi cwblhau Prentisiaethau Uwch (Lefel 5) yn ogystal \u00e2 TAR mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.<\/p>\n<p>Er gwaethaf heriau&#8217;r pandemig, mae&#8217;r cwmni ar y blaen i darged cynllun busnes pum mlynedd a osodwyd yn 2020, wrth i&#8217;r elw gynyddu 69%.<\/p>\n<p>&#8220;Mae ein rhaglen brentisiaethau wedi bod yn hynod o bwysig wrth alluogi&#8217;r cwmni i ehangu,&#8221; meddai Jenine, llysgennad brwd dros brentisiaethau sy&#8217;n hyrwyddo gofal plant fel gyrfa werth chweil. &#8220;Mae gennym d\u00eem medrus, hyderus ac amrywiol iawn ac mae ein holl staff yn cael eu hannog i ddod \u00e2 syniadau newydd i&#8217;r cwmni.&#8221;<\/p>\n<p>Mae Jenine a Little Inspirations wedi ennill cyfres o wobrau cenedlaethol yn ystod y tair blynedd diwethaf, gan gynnwys Entrepreneur Benywaidd y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes De Cymru 2023.<\/p>\n<p>Dywedodd Ann Nicholas, cyfarwyddwr cyfrifon cwsmeriaid Educ8 Training: &#8220;Mae ymrwymiad rhagorol Little Inspirations i brentisiaethau yn disgleirio, gan gael effaith sylweddol ar feithrin twf a datblygiad staff. Mae eu brwdfrydedd dros ddysgu seiliedig ar waith heb ei ail.&#8221;<\/p>\n<p>Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Little Inspirations a&#8217;r holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol.<\/p>\n<p>&#8220;Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o&#8217;n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a&#8217;u hymrwymiad i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy&#8217;n dymuno pob lwc i bob un o&#8217;r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a phobl hwyl iddynt gyda&#8217;u hymdrechion yn y dyfodol.&#8221;\u200c<\/p>\n<p>Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: &#8220;Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a&#8217;r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau&#8217;n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw i fyny ag anghenion y diwydiant, sy&#8217;n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.&#8221;<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffoniwch 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"#top\">Back to top&gt;&gt;<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae rhaglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan annatod o dwf llwyddiannus Little Inspirations, darparwr gofal plant yn y de sydd wedi ennill sawl gwobr. Ers ei ffurfio 20 mlynedd yn \u00f4l, mae&#8217;r cwmni o Bontyclun &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac24-little-inspirations\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-10499","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10499","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10499"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10499\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10501,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10499\/revisions\/10501"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10499"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10499"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10499"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}