{"id":10507,"date":"2024-02-22T16:32:18","date_gmt":"2024-02-22T16:32:18","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10507"},"modified":"2024-02-22T16:32:44","modified_gmt":"2024-02-22T16:32:44","slug":"aac2024-whitbread","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-whitbread\/","title":{"rendered":"Whitbread, sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, yn cael budd o brentisiaethau"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac24-ysgol-maes-y-felin\/\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-whitbread\/\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_17513\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17513\" class=\"size-full wp-image-17513\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/19.10.24-ACC24-Whitbread-12.jpg\" alt=\"Whitbread Group, Large Employer of the Year finalist\" width=\"460\" height=\"307\" \/><p id=\"caption-attachment-17513\" class=\"wp-caption-text\">Whitbread Group, sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghategori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn.<\/p><\/div>\n<p>Mae un o fusnesau lletygarwch mwyaf blaenllaw&#8217;r DU, Whitbread Group PLC, sydd \u00e2 mwy nag 800 o westai, dros 400 o fwytai a mwy na 36,000 o gyflogeion, yn elwa ar ei ymrwymiad cryf i brentisiaethau.<\/p>\n<p>Mae cyfradd cadw staff y busnes 10% yn uwch ar gyfer prentisiaid, sy&#8217;n gyfystyr \u00e2 gwerth \u00a35 miliwn yn llai o gostau, mwy o werthiannau a phrofiadau gwell i westeion.<\/p>\n<p>Caiff prentisiaethau ar Lefel 2 i Lefel 5 eu darparu gan Lifetime Training, mewn partneriaeth \u00e2 Chwmni Hyfforddiant Cambrian yng Nghymru, ar gyfer staff yn amrywio o gogyddion, gweithwyr cadw t\u0177 a derbynyddion i reolwyr ac arweinwyr t\u00eem a phrosiect. Mae&#8217;r cyfraddau llwyddiant a rhagoriaeth yn sylweddol uwch na chyfartaleddau&#8217;r diwydiant.<\/p>\n<p>Mae Whitbread Group PLC bellach wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 yng nghategori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwobrau, sy&#8217;n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Y prif noddwr yw EAL.<\/p>\n<p>Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae&#8217;r gwobrau&#8217;n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae mwy na 270 o gyflogeion Whitbread Group wedi cwblhau prentisiaeth ac mae mwy na 2,000 wrthi&#8217;n dilyn un ledled y DU. Mae rhwydwaith o Hyrwyddwyr Prentisiaethau yn helpu i ddatblygu dysgwyr ym mhob rhan o&#8217;r busnes.<\/p>\n<p>Mae prentisiaethau yn rhan annatod o raglen Force for Good Whitbread, sy&#8217;n rhoi&#8217;r cyfle i bob cyflogai ddysgu a datblygu. Mae dull &#8216;dim rhwystr&#8217; i brentisiaid y sicrhau bod pob cyflogai yn gwireddu ei botensial.<\/p>\n<p>Mewn arolwg a gynhaliwyd ledled y DU, dywedodd 86% o gyflogeion y cwmni fod prentisiaeth wedi gwella eu hyder yn eu r\u00f4l, ac roedd 90% o&#8217;r farn eu bod wedi meithrin sgiliau newydd. Roedd 47% wedi cael dyrchafiad neu wedi ymgymryd \u00e2 chyfrifoldebau ychwanegol o fewn blwyddyn i gwblhau eu prentisiaeth, ac roedd 20% o ddirprwy reolwyr gwestai wedi cael eu dyrchafu ar \u00f4l cwblhau prentisiaeth.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r ymrwymiad hwn i ddysgu a datblygu wedi helpu Whitbread i ennill statws Cyflogwr Gorau am 13 o flynyddoedd yn olynol.<\/p>\n<p>Dywedodd Richard Brooks-Harley, Rheolwr Darparu Prentisiaethau Whitbread Group: \u201cRoedd ein sylfaenydd, Samuel Whitbread, yntau&#8217;n brentis, sy&#8217;n golygu bod prentisiaethau&#8217;n rhan greiddiol o&#8217;n DNA.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Matthew Summerbell, Uwch-reolwr Gweithrediadau yn Lifetime Training, fod Whitbread yn hyrwyddo cyfleoedd prentisiaeth ymysg ysgolion a cholegau, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig.<\/p>\n<p>Ychwanegodd, \u201cMae&#8217;r cyfuniad o ddiwylliant prentisiaeth, ymgysylltu \u00e2 rhanddeiliaid ac allgymorth cymunedol yn arwain at gyflawniadau a chanlyniadau cadarnhaol, ac mae prentisiaid ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu dyrchafu yn Whitbread a 30% yn fwy tebygol o aros gyda&#8217;r busnes.\u201d<\/p>\n<p>Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Whitbread Group a phawb arall a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol.<\/p>\n<p>\u201cPrentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i gydnabod prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a&#8217;u hymrwymiad i feithrin eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy&#8217;n dymuno pob lwc i bob un o&#8217;r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol \u2013 ar gyfer y gwobrau a&#8217;u hymdrechion yn y dyfodol.\u201d<\/p>\n<p>Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: \u201cFel y sefydliad dyfarnu arbenigol a&#8217;r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau&#8217;n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol drwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i ddiwallu anghenion y diwydiant, sy&#8217;n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.\u201d<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffoniwch 03000 603000<\/p>\n<p><a href=\"#top\">Back to top&gt;&gt;<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae un o fusnesau lletygarwch mwyaf blaenllaw&#8217;r DU, Whitbread Group PLC, sydd \u00e2 mwy nag 800 o westai, dros 400 o fwytai a mwy na 36,000 o gyflogeion, yn elwa ar ei ymrwymiad cryf i brentisiaethau. Mae &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-whitbread\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16,11],"tags":[],"class_list":["post-10507","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10507","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10507"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10507\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10509,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10507\/revisions\/10509"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10507"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10507"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10507"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}