{"id":10510,"date":"2024-02-22T16:45:07","date_gmt":"2024-02-22T16:45:07","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10510"},"modified":"2024-02-22T16:45:07","modified_gmt":"2024-02-22T16:45:07","slug":"aac2024-phs-group","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-phs-group\/","title":{"rendered":"Cwmni gwasanaethau hylendid blaenllaw yn cael budd o brentisiaethau"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2024-phs-group\/\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-phs-group\/\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_17517\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17517\" class=\"size-full wp-image-17517\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/13.12.23-ACC24-PHS-8460.jpg\" alt=\" Staff from phs Group, Large Employer of the Year finalist.\" width=\"460\" height=\"307\" \/><p id=\"caption-attachment-17517\" class=\"wp-caption-text\">Staff o <strong>phs<\/strong> Group, sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Cyflogwr Mawr y Flwyddyn.<\/p><\/div>\n<p>Dywed y darparwr gwasanaethau hylendid blaenllaw, phs Group, fod prentisiaethau wedi helpu&#8217;r cwmni i ddenu a chadw mwy o gydweithwyr, gwella cynhyrchiant a gwasanaeth cwsmeriaid, a chynyddu gwerthiannau.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cwmni, a sefydlwyd yng Nghaerffili, yn cyflogi mwy na 3,000 o gydweithwyr ledled y wlad, gyda 130 ohonynt yn brentisiaid.\u00a0 Dros y pum mlynedd diwethaf, mae phs Group wedi cyflogi 256 o brentisiaid, gyda 47 ohonynt wedi cael eu dyrchafu neu wedi symud i r\u00f4l newydd fel rhan o&#8217;u cynllun gyrfa.<\/p>\n<p>Nod phs Group yw sicrhau bod o leiaf 5% o&#8217;r gweithlu yn rhan o raglen prentisiaethau, sy&#8217;n helpu i ddatblygu llwybrau gyrfa o lefel mynediad i uwch-reoli.<\/p>\n<p>Mae phs Group bellach wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 yng nghategori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwobrau, sy&#8217;n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Y prif noddwr yw EAL.<\/p>\n<p>Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae&#8217;r gwobrau&#8217;n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>Darperir prentisiaethau o Lefel 3 i Lefel 7, yn amrywio o Weinyddu Busnes a Gwasanaeth Cwsmeriaid i Reoli a Gwyddor Data, gan ALS Training, ACT a Choleg y Cymoedd. Cyflwynodd Coleg Penybont Wobr Partneriaeth Cyflogwyr i phs Group yn 2023 hefyd.<\/p>\n<p>Mae phs Group, sy&#8217;n aelod o Rwydwaith Llysgenhadon Prentisiaethau, yn rhannu arferion gorau \u00e2 chyflogwyr eraill ac mae wedi trosglwyddo \u00a390,000 o&#8217;i ardoll prentisiaethau i gefnogi prentisiaid mewn 15 o fusnesau bach a chanolig.<\/p>\n<p>Recriwtiodd phs Group Julie Harries fel arweinydd dysgu seiliedig ar waith yn 2019 er mwyn llywio a rheoli prentisiaethau, gan wella sgiliau a chyfleoedd ym mhob rhan o&#8217;r busnes a sicrhau cyfraddau cwblhau uchel.<\/p>\n<p>Cred Julie fod prentisiaethau yn cyd-fynd yn berffaith \u00e2&#8217;r rhaglenni dysgu a datblygu mewnol sydd ar gael i gydweithwyr.<\/p>\n<p>\u201cMae ein rhaglen prentisiaethau yn sicrhau bod gennym yr wybodaeth, y sgiliau a&#8217;r ymddygiadau cywir. Drwy&#8217;r 130 o bobl sydd gennym ar raglenni prentisiaeth, rydym wedi cynyddu arbenigedd cydweithwyr yn phs Group, sy&#8217;n ein helpu i wireddu ein gweledigaeth o fod yn bartner ac yn gyflogwr delfrydol.<\/p>\n<p>\u201cDrwy ddatblygu cydweithwyr, maent yn meddu ar fwy o gymhelliant a brwdfrydedd. Mae cyflogeion hapus yn effeithio ar y ffordd rydym yn gwasanaethu ein cwsmeriaid ac yn sicrhau&#8217;r canlyniadau gorau iddynt, sy&#8217;n hanfodol i gwmni y mae pobl wrth wraidd ei gynhyrchion a&#8217;i wasanaethau.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Vanessa Hope, Rheolwr Datblygu Corfforaethol ALS Training: \u201cRydym wedi gweithio gyda phs Group ers sawl blwyddyn, ac mae ymrwymiad y cwmni i brentisiaethau, sy&#8217;n amlwg yng nghyfradd gyflawni uchel ei staff, bob amser wedi gwneud argraff arnom.\u201d<\/p>\n<p>Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, phs Group a phawb arall a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol.<\/p>\n<p>\u201cPrentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i gydnabod prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a&#8217;u hymrwymiad i feithrin eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy&#8217;n dymuno pob lwc i bob un o&#8217;r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol \u2013 ar gyfer y gwobrau a&#8217;u hymdrechion yn y dyfodol.\u201d<\/p>\n<p>Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: \u201cFel y sefydliad dyfarnu arbenigol a&#8217;r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau&#8217;n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol drwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i ddiwallu anghenion y diwydiant, sy&#8217;n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.\u201d<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffoniwch 03000 603000<\/p>\n<p><a href=\"#top\">Back to top&gt;&gt;<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Dywed y darparwr gwasanaethau hylendid blaenllaw, phs Group, fod prentisiaethau wedi helpu&#8217;r cwmni i ddenu a chadw mwy o gydweithwyr, gwella cynhyrchiant a gwasanaeth cwsmeriaid, a chynyddu gwerthiannau. Mae&#8217;r cwmni, a sefydlwyd yng Nghaerffili, yn cyflogi mwy &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-phs-group\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16,5],"tags":[],"class_list":["post-10510","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru","category-news"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10510","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10510"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10510\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10511,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10510\/revisions\/10511"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10510"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10510"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10510"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}