{"id":10514,"date":"2024-02-22T16:56:21","date_gmt":"2024-02-22T16:56:21","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10514"},"modified":"2024-02-22T16:56:21","modified_gmt":"2024-02-22T16:56:21","slug":"aac2024-transport-for-wales","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-transport-for-wales\/","title":{"rendered":"Teithio&#8217;n bell gyda rhaglen prentisiaethau gyntaf y DU"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2024-transport-for-wales\/\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-transport-for-wales\/\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_17520\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17520\" class=\"size-full wp-image-17520\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/08.01.24-ACC24-TFW-Cardiff-19460.jpg\" alt=\"Transport for Wales apprentices\" width=\"460\" height=\"307\" \/><p id=\"caption-attachment-17520\" class=\"wp-caption-text\">Prentisiaid Trafnidiaeth Cymru<\/p><\/div>\n<p>Cadw Cymru i symud drwy rwydwaith trenau cynaliadwy fu&#8217;r sbardun y tu \u00f4l i raglen prentisiaethau arloesol a gr\u00ebwyd gan Trafnidiaeth Cymru.<\/p>\n<p>Sefydlwyd y cwmni nid-er-elw yn 2015 i gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer creu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy o ansawdd uchel. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi croesawu dysgu seiliedig ar waith drwy recriwtio cannoedd o brentisiaid i wella perfformiad a chynaliadwyedd hirdymor.<\/p>\n<p>Croesawodd Trafnidiaeth Cymru ei garfan gyntaf yn 2019, ac erbyn 2021, roedd y cwmni wedi cyflwyno&#8217;r rhaglen gyntaf yn y DU i yrwyr trenau dan hyfforddiant, wedi&#8217;i dylunio mewn cydweithrediad \u00e2&#8217;r corff dyfarnu, EA, a&#8217;i darparu mewn partneriaeth \u00e2 Choleg y Cymoedd.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r rhaglen eisoes wedi annog llu o recriwtiaid newydd o wahanol gefndiroedd i ymuno \u00e2&#8217;r diwydiant rheilffyrdd, gyda&#8217;r nod o ddenu mwy na 100 o brentisiaid newydd y flwyddyn dros y pum mlynedd nesaf.\u00a0 Ar hyn o bryd, mae Trafnidiaeth Cymru yn cyflogi 189 o brentisiaid ac mae wedi recriwtio mwy na 300 dros y pum mlynedd diwethaf.<\/p>\n<p>Mae Trafnidiaeth Cymru bellach wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 yng nghategori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwobrau, sy&#8217;n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Y prif noddwr yw EAL.<\/p>\n<p>Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae&#8217;r gwobrau&#8217;n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>Dywedodd Liam Matthews, Cydgysylltydd Prentisiaethau Rheilffyrdd Coleg y Cymoedd, \u201cDrwy ddylunio rhaglen prentisiaethau bwrpasol, sicrhaodd Trafnidiaeth Cymru fod gyrwyr trenau dan hyfforddiant yn ennill cymhwyster cydnabyddedig, sef y cymhwyster NVQ Lefel 3 achrededig cyntaf mewn gweithrediadau gyrwyr trenau yn y DU\u201d.<\/p>\n<p>\u201cNid yn unig y mae&#8217;r cymhwyster hwn yn cynnig cydnabyddiaeth swyddogol i&#8217;r cyflogeion, ond mae hefyd yn gosod y sylfaen ar gyfer gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus dibynadwy\u201d.<\/p>\n<p>Mae prentisiaethau bellach ar gael mewn 12 rhan o&#8217;r busnes, wedi&#8217;u darparu gan ALS Training, a chred Trafnidiaeth Cymru fod y rhaglenni hyn wedi cefnogi cynlluniau trawsnewid y cwmni yn uniongyrchol.<\/p>\n<p>Gan ganolbwyntio ar amrywiaeth a chynhwysiant, maent hefyd wedi darparu cronfa gynaliadwy o dalent sy&#8217;n gydnaws \u00e2 nodau ac amcanion y sefydliad, a amlinellir yn ei strategaeth gorfforaethol a&#8217;i gynllun cydraddoldeb strategol.<\/p>\n<p>Mae cyflwyno strwythur cyflogau newydd i brentisiaid, sy&#8217;n gyson \u00e2&#8217;r Cyflog Byw Cenedlaethol, yn dangos ymrwymiad i ddenu ymgeiswyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, gan sicrhau bod prentisiaethau ar gael i amrywiaeth ehangach o unigolion er mwyn hyrwyddo amrywiaeth ymhellach yn y gweithlu.<\/p>\n<p>Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Trafnidiaeth Cymru a phawb arall a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol.<\/p>\n<p>\u201cPrentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i gydnabod prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a&#8217;u hymrwymiad i feithrin eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy&#8217;n dymuno pob lwc i bob un o&#8217;r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol \u2013 ar gyfer y gwobrau a&#8217;u hymdrechion yn y dyfodol.\u201d<\/p>\n<p>Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: \u201cFel y sefydliad dyfarnu arbenigol a&#8217;r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau&#8217;n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol drwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i ddiwallu anghenion y diwydiant, sy&#8217;n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.\u201d<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffoniwch 03000 603000<\/p>\n<p><a href=\"#top\">Back to top&gt;&gt;<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Cadw Cymru i symud drwy rwydwaith trenau cynaliadwy fu&#8217;r sbardun y tu \u00f4l i raglen prentisiaethau arloesol a gr\u00ebwyd gan Trafnidiaeth Cymru. Sefydlwyd y cwmni nid-er-elw yn 2015 i gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer creu rhwydwaith &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-transport-for-wales\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16,11],"tags":[],"class_list":["post-10514","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10514","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10514"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10514\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10515,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10514\/revisions\/10515"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10514"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10514"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10514"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}