{"id":10524,"date":"2024-02-29T14:14:01","date_gmt":"2024-02-29T14:14:01","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10524"},"modified":"2024-02-29T14:14:01","modified_gmt":"2024-02-29T14:14:01","slug":"cvuhb-aac2024","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cvuhb-aac2024\/","title":{"rendered":"Gall prentisiaid &#8220;anelu am yr entrychion&#8221; mewn bwrdd iechyd sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y gwobrau"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/cvuhb-aac2024\/\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cvuhb-aac2024\/\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_17534\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17534\" class=\"size-full wp-image-17534\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/15.12.23-mh-ACC24-Cardiff-and-Vale-Health-460.jpg\" alt=\"Emma Bendle, apprenticeship and widening access co\u00ac-ordinator (centre) and staff and apprentices at Cardiff and Vale University Health Board.\" width=\"460\" height=\"302\" \/><p id=\"caption-attachment-17534\" class=\"wp-caption-text\">Emma Bendle, cydlynydd prentisiaethau ac ehangu mynediad (canol) a staff a phrentisiaid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro.<\/p><\/div>\n<p>Mae meithrin gallu proffesiynol ei staff presennol, gan recriwtio a hyfforddi cenhedlaeth newydd o weithwyr proffesiynol, yn cadw Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro ar flaen y gad yn y sector iechyd.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r bwrdd iechyd wedi bod yn uwchsgilio ei weithlu drwy ystod o brentisiaethau ers 2006, ond cyflymodd ei raglen yn sgil creu Academi Brentisiaethau yn 2018. O ganlyniad i hyn, mae bron i 900 o unigolion newydd wedi cofrestru, sy&#8217;n cynnwys recriwtiaid newydd i&#8217;r sector.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r dull deublyg hwn yn profi&#8217;n llwyddiant, ac mae bron i ddau ddwsin o brentisiaethau yn creu cyfleoedd i weithwyr sefydledig yn ogystal \u00e2 newydd-ddyfodiaid ddatblygu gyrfa, ac mae ffrwd newydd o dalent yn helpu i fynd i&#8217;r afael \u00e2 her recriwtio a chadw staff.<\/p>\n<p>Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro bellach wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024, gwobrau uchel eu parch, a hynny yng nghategori Macro-Gyflogwr y Flwyddyn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwobrau, sy&#8217;n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Y prif noddwr yw EAL.<\/p>\n<p>Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae&#8217;r gwobrau&#8217;n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>&#8220;Mae prentisiaethau&#8217;n gweithredu ar wahanol lefelau ac yn cael eu paru \u00e2&#8217;n rolau band i sicrhau eu bod yn addas a&#8217;u bod yn hwylus i&#8217;w cwblhau,&#8221; meddai Emma Bendle, cydlynydd prentisiaethau ac ehangu mynediad.<\/p>\n<p>&#8220;Mae hyn yn rhoi cyfle i unigolion anelu am yr entrychion neu neidio i ffwrdd lle maen nhw&#8217;n teimlo&#8217;n gyfforddus i wneud, gan hyrwyddo dull mwy cynhwysol drwy ddiwallu anghenion unigolion sydd \u00e2 sgiliau a gallu amrywiol.&#8221;<\/p>\n<p>Mae llwyddiant y rhaglen brentisiaethau yn ymdrech sefydliadol ac yn rhan annatod o thema &#8216;Denu, Recriwtio a Chadw&#8217; y Cynllun Pobl a Diwylliant, sy&#8217;n cael ei fonitro a&#8217;i ddiweddaru&#8217;n rheolaidd.<\/p>\n<p>Mae partneriaethau wedi bod yn hanfodol wrth ddarparu&#8217;r nifer fawr o raglenni sydd ar gael, ac mae Talk Training, Educ8, ALS Training a Choleg Caerdydd a&#8217;r Fro wedi ymuno \u00e2&#8217;r prif ddarparwr hyfforddiant, ACT, gan weithio ochr yn ochr \u00e2&#8217;r bwrdd iechyd.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;r ystod eang o sgiliau y mae&#8217;r bwrdd iechyd yn buddsoddi ynddyn nhw yn dangos ei fod nid yn unig yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau allweddol, ond hefyd ar wella strwythur ehangach y sefydliad a&#8217;i bobl,&#8221; meddai Susan Edwards, rheolwr datblygu busnes yn ACT.<\/p>\n<p>&#8220;Rydyn ni wedi gweld droson ni&#8217;n hunain y cynnydd a gyflawnwyd drwy&#8217;r rhaglen brentisiaethau uchelgeisiol hon sy&#8217;n uwchsgilio&#8217;r gweithlu presennol, ac yn hybu talent newydd mewn sector sydd mor bwysig.&#8221;<\/p>\n<p>Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro a phawb arall a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol.<\/p>\n<p>\u201cPrentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i gydnabod prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a&#8217;u hymrwymiad i feithrin eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru, yn ein hysbrydoli. Dw i&#8217;n dymuno pob lwc i bob un o&#8217;r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol &#8211; ar gyfer y gwobrau a&#8217;u hymdrechion yn y dyfodol.&#8221;\u200c<\/p>\n<p>Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: &#8220;Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a phartner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau&#8217;n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw ar drywydd anghenion y diwydiant, sy&#8217;n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.\u201d<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"#top\">Back to top&gt;&gt;<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae meithrin gallu proffesiynol ei staff presennol, gan recriwtio a hyfforddi cenhedlaeth newydd o weithwyr proffesiynol, yn cadw Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro ar flaen y gad yn y sector iechyd. Mae&#8217;r bwrdd iechyd wedi bod &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cvuhb-aac2024\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16,11],"tags":[],"class_list":["post-10524","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10524","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10524"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10524\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10525,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10524\/revisions\/10525"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10524"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10524"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10524"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}