{"id":10526,"date":"2024-02-29T14:23:52","date_gmt":"2024-02-29T14:23:52","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10526"},"modified":"2024-02-29T14:23:52","modified_gmt":"2024-02-29T14:23:52","slug":"babcock-aviation-aac2024","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/babcock-aviation-aac2024\/","title":{"rendered":"Rhaglen brentisiaethau Babcock yn RAF y Fali, esiampl o gydweithio"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/babcock-aviation-aac2024\/\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/babcock-aviation-aac2024\/\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_17537\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17537\" class=\"size-full wp-image-17537\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/AAC24_BabcockInternational_0006460.jpg\" alt=\"Babcock Aviation apprentices and officials at RAF Valley.\" width=\"460\" height=\"307\" \/><p id=\"caption-attachment-17537\" class=\"wp-caption-text\">Prentisiaid a swyddogion Babcock Aviation yn RAF y Fali.<\/p><\/div>\n<p>Mae t\u00eem o brentisiaid yn chwarae r\u00f4l bwysig wrth helpu i hyfforddi&#8217;r genhedlaeth nesaf o beilotiaid awyrennau ymladd trwy gynnal a chadw y jetiau Hawk T2 sy&#8217;n hedfan yn RAF y Fali ar Ynys M\u00f4n.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r rhaglen brentisiaethau lwyddiannus a sefydlwyd gan fusnes Babcock Aviation yn RAF y Fali yn 2016 yn enghraifft wych o gydweithio.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cwmni, sydd \u00e2 gweithlu o fwy na 28,000 yn fyd-eang, yn gweithio&#8217;n agos gyda&#8217;r RAF, BAE Systems, Gr\u0175p Llandrillo Menai, Hyfforddiant Hyfforddiant Arfon Dwyfor a&#8217;r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol i ddarparu prentisiaethau sydd o fudd i Ogledd Cymru.<\/p>\n<p>Mae Babcock Aviation wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024, gwobrau uchel eu parch, a hynny yng nghategori Macro-Gyflogwr y Flwyddyn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwobrau, sy&#8217;n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Y prif noddwr yw EAL.<\/p>\n<p>Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae&#8217;r gwobrau&#8217;n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae 171 o brentisiaid wedi cwblhau eu hyfforddiant yn RAF y Fali gyda Babcock, ac mae 29 o weithwyr yn gweithio tuag at brentisiaethau ar hyn o bryd. Mae llawer o gyn-brentisiaid yn dal i weithio i&#8217;r cwmni, gan gynnwys nifer o beirianwyr benywaidd.<\/p>\n<p>Mae Gr\u0175p Llandrillo Menai a Hyfforddiant Arfon Dwyfor yn darparu prentisiaethau sy&#8217;n amrywio o Gynnal a Chadw Peirianneg Awyrofod, Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau a Rhedeg Warws a Storio i Weinyddu Busnes, Rheoli, Gwasanaeth Cwsmeriaid, a Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad o Lefelau 2 i 4.<\/p>\n<p>Yn gwmni awyrofod ac amddiffyn blaenllaw, creodd Babcock ei raglen brentisiaethau i ddiwallu anghenion busnes, darparu cyfleoedd gyrfa, mynd i&#8217;r afael \u00e2 bwlch mewn sgiliau peirianneg, a hyrwyddo amrywiaeth, cynhwysiant a chyfle cyfartal.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r rhaglen wedi cael effaith gadarnhaol ar y sector peirianneg a chymuned Ynys M\u00f4n drwy fynd i&#8217;r afael \u00e2 diweithdra ymhlith ieuenctid, stereoteipio ar sail rhyw, a rhwystrau sy&#8217;n wynebu grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.<\/p>\n<p>Mae Babcock yn darparu profiad dysgu cynhwysfawr sy&#8217;n paratoi prentisiaid ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy.<\/p>\n<p>&#8220;Trwy ymgorffori arbenigedd diwydiant, technoleg a chymorth mentora, rydym yn arfogi ein prentisiaid \u00e2&#8217;r sgiliau, y wybodaeth a&#8217;r hyder angenrheidiol i ragori yn y gyrfaoedd a ddewisant,&#8221; meddai Bethan McCrohan, goruchwyliwr prentisiaid Babcock a phrif gydlynydd hyfforddiant RAF y Fali. &#8220;Mae&#8217;r rhaglen yn cyfrannu at weithlu medrus, amrywiol a chynhwysol, sydd o fudd i&#8217;r sector a&#8217;r gymuned.&#8221;<\/p>\n<p>Dywedodd Rhianwen Edwards, Cyfarwyddwr Masnachol a Dysgu Seiliedig ar Waith Gr\u0175p Llandrillo Menai: &#8220;Mae Babcock yn cydweithio \u00e2 darparwyr addysg a hyfforddiant, y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, partneriaid yn y diwydiant a rhanddeiliaid eraill i wella ansawdd ac effaith ei raglen brentisiaethau.&#8221;<\/p>\n<p>Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Babcock a&#8217;r holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol.<\/p>\n<p>\u201cPrentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i gydnabod prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a&#8217;u hymrwymiad i feithrin eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru, yn ein hysbrydoli. Dw i&#8217;n dymuno pob lwc i bob un o&#8217;r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol &#8211; ar gyfer y gwobrau a&#8217;u hymdrechion yn y dyfodol.&#8221;\u200c<\/p>\n<p>Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: &#8220;Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a phartner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau&#8217;n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw ar drywydd anghenion y diwydiant, sy&#8217;n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.\u201d<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffoniwch 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"#top\">Back to top&gt;&gt;<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae t\u00eem o brentisiaid yn chwarae r\u00f4l bwysig wrth helpu i hyfforddi&#8217;r genhedlaeth nesaf o beilotiaid awyrennau ymladd trwy gynnal a chadw y jetiau Hawk T2 sy&#8217;n hedfan yn RAF y Fali ar Ynys M\u00f4n. Mae&#8217;r rhaglen &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/babcock-aviation-aac2024\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16,11],"tags":[],"class_list":["post-10526","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10526","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10526"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10526\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10527,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10526\/revisions\/10527"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10526"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10526"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10526"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}