{"id":10528,"date":"2024-02-29T14:33:14","date_gmt":"2024-02-29T14:33:14","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10528"},"modified":"2024-02-29T14:33:14","modified_gmt":"2024-02-29T14:33:14","slug":"sbuhb-aac2024","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/sbuhb-aac2024\/","title":{"rendered":"Academi Brentisiaethau yn dod ag egni ieuenctid i fwrdd iechyd"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/sbuhb-aac2024\/\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/sbuhb-aac2024\/\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_17542\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17542\" class=\"size-full wp-image-17542\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/09.01.24-mh-ACC24-Swansea-UHB-5460.jpg\" alt=\"Staff at Swansea Bay University Health Board.\" width=\"460\" height=\"307\" \/><p id=\"caption-attachment-17542\" class=\"wp-caption-text\">Staff o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe<\/p><\/div>\n<p>Mae Academi Brentisiaethau yn creu cenhedlaeth newydd o dalent ffres ar gyfer bwrdd iechyd ac yn cyflawni&#8217;r her o recriwtio i broffesiynau penodol.<\/p>\n<p>Lansiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yr academi yn 2016, gan hyfforddi mwy na 250 o brentisiaid yn llwyddiannus ar draws naw fframwaith yn ystod y pum mlynedd diwethaf yn unig. Mae hefyd wedi teilwra rhaglenni pwrpasol mewn ymateb i fylchau neu gyfleoedd a nodwyd.<\/p>\n<p>Gan ganolbwyntio ar gynwysoldeb a chydraddoldeb, mae&#8217;r Bwrdd Iechyd wedi ymgysylltu&#8217;n effeithiol \u00e2&#8217;r gymuned leol i ddarparu cyfleoedd i&#8217;r rhai nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau na phrofiad o bosibl.<\/p>\n<p>Bellach, mae&#8217;r Bwrdd Iechyd \u00a0wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024, gwobrau uchel eu parch, a hynny yng nghategori Macro-Gyflogwr y Flwyddyn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwobrau, sy&#8217;n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Y prif noddwr yw EAL.<\/p>\n<p>Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae&#8217;r gwobrau&#8217;n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>&#8220;Mae ein rhaglen fynediad i Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd yn darparu prentisiaeth 12 mis er mwyn ennill profiad yn y r\u00f4l cyn symud i swyddi parhaol,&#8221; meddai Ruth Evans, Rheolwr yr Academi Brentisiaethau.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;r wardiau a&#8217;r adrannau yn cefnogi&#8217;r prentisiaid yn ystod eu hyfforddiant ac yn cael eu gwobrwyo \u00e2 staff medrus a chymwys yn barod i barhau \u00e2&#8217;u gyrfaoedd. Hyd yma, mae 137 o brentisiaid wedi llwyddo i gael swyddi parhaol o fewn y sefydliad, gan sicrhau gwell dealltwriaeth o&#8217;r gwerthoedd a&#8217;r diwylliant maen nhw&#8217;n ei greu.&#8221;<\/p>\n<p>Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn darparu ei raglenni mewn cydweithrediad \u00e2 cholegau &#8211; Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg G\u0175yr Abertawe &#8211; ac mae&#8217;n creu cyfleoedd i&#8217;w staff presennol yn ogystal \u00e2&#8217;r prentisiaid newydd.<\/p>\n<p>Yn ogystal, mae&#8217;r Bwrdd Iechyd wedi datblygu cysylltiadau cryfach ag ysgolion, colegau ac elusennau lleol, gan gysylltu&#8217;n llwyddiannus \u00e2&#8217;r prif hyrwyddwyr a nodir yn Neddf Cenedlaethau&#8217;r Dyfodol, Cymru (2015).<\/p>\n<p>Yn unol \u00e2 gwerthoedd y Bwrdd Iechyd, mae&#8217;r academi yn ceisio gwella ei brosesau yn barhaus, gan gynnig partneriaethau agos \u00e2&#8217;r ddau bartner sy&#8217;n darparu hyfforddiant.<\/p>\n<p>&#8220;Drwy ein cydweithrediad rhagorol, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi llwyddo i alinio llwybrau prentisiaeth \u00e2 disgrifiadau swyddi, gan gryfhau datblygiad y gweithlu yn unol \u00e2&#8217;r anghenion a&#8217;r galw mewn sefydliadau,&#8221; meddai Medi Williams, Arbenigwr ar Gynigion Masnachol, Coleg G\u0175yr Abertawe.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;r academi yn cyfoethogi gwybodaeth gweithwyr ac yn hyrwyddo diwylliant o werthoedd, grymuso a hyblygrwydd dysgu.&#8221;<\/p>\n<p>Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a phawb arall a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol.<\/p>\n<p>\u201cPrentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i gydnabod prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a&#8217;u hymrwymiad i feithrin eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru, yn ein hysbrydoli. Dw i&#8217;n dymuno pob lwc i bob un o&#8217;r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol &#8211; ar gyfer y gwobrau a&#8217;u hymdrechion yn y dyfodol.&#8221;\u200c<\/p>\n<p>Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: &#8220;Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a phartner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau&#8217;n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw ar drywydd anghenion y diwydiant, sy&#8217;n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.\u201d<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffoniwch 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"#top\">Back to top&gt;&gt;<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Academi Brentisiaethau yn creu cenhedlaeth newydd o dalent ffres ar gyfer bwrdd iechyd ac yn cyflawni&#8217;r her o recriwtio i broffesiynau penodol. Lansiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yr academi yn 2016, gan hyfforddi mwy na &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/sbuhb-aac2024\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16,11],"tags":[],"class_list":["post-10528","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10528","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10528"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10528\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10529,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10528\/revisions\/10529"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10528"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10528"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10528"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}