{"id":10534,"date":"2024-03-05T10:26:44","date_gmt":"2024-03-05T10:26:44","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10534"},"modified":"2024-03-05T10:26:44","modified_gmt":"2024-03-05T10:26:44","slug":"anne-reardon-jones-aac24","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/anne-reardon-jones-aac24\/","title":{"rendered":"Mae Anne, sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y gwobrau, yn &#8220;ymgorfforiad o ddysgu gydol oes&#8221;"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/anne-reardon-jones-aac24\/\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/anne-reardon-jones-aac24\/\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_17549\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17549\" class=\"size-full wp-image-17549\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/460.jpg\" alt=\"Anne Reardon-James, passion for lifelong learning.\" width=\"460\" height=\"311\" \/><p id=\"caption-attachment-17549\" class=\"wp-caption-text\">Anne Reardon-James, sy&#8217;n angerddol dros ddysgu gydol oes.<\/p><\/div>\n<p>Mae Anne Reardon-James yn cael ei disgrifio gan ei chyflogwr fel &#8220;ymgorfforiad o ddysgu gydol oes&#8221;, a bod ganddi syched gwirioneddol am wybodaeth y mae&#8217;n ei rhannu wedyn i ysbrydoli ei dysgwyr a&#8217;i chydweithwyr yn y rhwydwaith dysgu \u00f4l-16 yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae Anne, 46, sy&#8217;n byw yn y Barri, yn Gynghorydd Dysgu gyda Panda Education and Training, gan ddarparu Prentisiaethau mewn Dysgu a Datblygu, mewn partneriaeth ag ALS Training.<\/p>\n<p>Cafodd ei gwobrwyo am ei hymrwymiad pan enillodd wobr Tiwtor y Flwyddyn Ysbrydoli! y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn 2023 am Sgiliau Gwaith.<\/p>\n<p>Bellach mae Anne wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024, gwobrau uchel eu parch, a hynny yng nghategori Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwobrau, sy&#8217;n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Y prif noddwr yw EAL.<\/p>\n<p>Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae&#8217;r gwobrau&#8217;n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd mae Anne yn gweithio tuag at Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg, ac mae ganddi MA mewn Addysg, TAR a gradd mewn Gwyddorau Ymddygiadol. Mae hi hefyd yn Gymrawd o SET, ac yn Gymrawd Cyswllt o&#8217;r CIPD a HE Advance.<\/p>\n<p>Mae hi wedi gweithio mewn addysg \u00f4l-16 ers 17 mlynedd, gan addysgu llythrennedd a rhifedd i oedolion yn y gymuned, cyflwyno hyfforddiant sgiliau hanfodol i ddysgwyr cyflogedig, a datblygu rhaglenni dysgu ar gyfer y gwasanaethau prawf a charchardai.<\/p>\n<p>Yn angerddol am Ddysgu Gydol Oes, mae Anne yn ysbrydoli ei dysgwyr, gan arddangos technegau a dulliau addysgu a dysgu y gallan nhw eu defnyddio yn eu hymarfer eu hunain.<\/p>\n<p>Mae Anne yn cynnal gweithdai hyfforddi ar-lein gan ddefnyddio technoleg ddigidol i wella&#8217;r broses ddysgu, mae&#8217;n cynnal cyfarfodydd mentora misol ac yn darparu cymorth personol wedi&#8217;i deilwra i ddysgwyr ledled Cymru.<\/p>\n<p>Mae hi&#8217;n olygydd ar y cyfnodolyn Research and Practices in Adult Literacies, yn cyhoeddi blogiau, yn siarad mewn cynadleddau ac yn rhannu syniadau, adnoddau ac arferion da \u00e2 grwpiau rhwydweithiau ar-lein.<\/p>\n<p>Mae Anne hefyd yn wirfoddolwr brwd, yn addysgu Saesneg i ffoaduriaid Wcr\u00e1in ac yn eu cefnogi yn ei chartref ei hun, yn ogystal \u00e2 siopa dros gleientiaid sy&#8217;n gaeth i&#8217;r t\u0177 ac ymweld \u00e2 nhw.<\/p>\n<p>Dywedodd Rachel Arnold, cyfarwyddwr Panda Education and Training: &#8220;Mae Anne yn mynd y filltir ychwanegol i gefnogi ei dysgwyr. Mae&#8217;n byw ac yn anadlu ein gwerthoedd craidd &#8211; parch, ansawdd ac arloesedd.&#8221;<\/p>\n<p>Dywedodd Anne: &#8220;Mae&#8217;n wych gallu helpu i fentora a chefnogi pobl i oresgyn eu rhwystrau a dw i&#8217;n ceisio dod o hyd i ffyrdd gwahanol o wneud hynny yn barhaus.\u00a0 Dw i&#8217;n hyrwyddo ac yn codi statws addysg oedolion lle bynnag y galla i.&#8221;<\/p>\n<p>Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Anne a phawb arall a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol.<\/p>\n<p>\u201cPrentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i gydnabod prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a&#8217;u hymrwymiad i feithrin eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru, yn ein hysbrydoli. Dw i&#8217;n dymuno pob lwc i bob un o&#8217;r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol &#8211; ar gyfer y gwobrau a&#8217;u hymdrechion yn y dyfodol.&#8221;\u200c<\/p>\n<p>Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: &#8220;Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a phartner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau&#8217;n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw ar drywydd anghenion y diwydiant, sy&#8217;n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.\u201d<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffoniwch 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"#top\">Back to top&gt;&gt;<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Anne Reardon-James yn cael ei disgrifio gan ei chyflogwr fel &#8220;ymgorfforiad o ddysgu gydol oes&#8221;, a bod ganddi syched gwirioneddol am wybodaeth y mae&#8217;n ei rhannu wedyn i ysbrydoli ei dysgwyr a&#8217;i chydweithwyr yn y rhwydwaith &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/anne-reardon-jones-aac24\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16,11],"tags":[],"class_list":["post-10534","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10534","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10534"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10534\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10535,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10534\/revisions\/10535"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10534"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10534"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10534"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}