{"id":10537,"date":"2024-03-07T09:00:01","date_gmt":"2024-03-07T09:00:01","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10537"},"modified":"2024-03-05T11:27:36","modified_gmt":"2024-03-05T11:27:36","slug":"gareth-lewis-aac24","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gareth-lewis-aac24\/","title":{"rendered":"Gareth &#8211; ymarferydd &#8220;eithriadol&#8221; &#8211; yn ysbrydoliaeth i ddysgwyr a chydweithwyr"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/gareth-lewis-aac24\/\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gareth-lewis-aac24\/\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_10538\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-10538\" class=\"size-full wp-image-10538\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/460.jpg\" alt=\"Gareth Lewis yn ysbrydoli ei ddysgwyr a'i gydweithwyr \u00e2'i angerdd dros ddysgu.\" width=\"460\" height=\"286\" srcset=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/460.jpg 460w, https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/460-250x155.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 460px) 100vw, 460px\" \/><p id=\"caption-attachment-10538\" class=\"wp-caption-text\">Gareth Lewis yn ysbrydoli ei ddysgwyr a&#8217;i gydweithwyr \u00e2&#8217;i angerdd dros ddysgu.<\/p><\/div>\n<p>Disgrifir Gareth Lewis fel ymarferydd dysgu seiliedig ar waith &#8220;eithriadol,&#8221; sy&#8217;n ysbrydoli ei ddysgwyr a&#8217;i gydweithwyr drwy ei angerdd a&#8217;i ysfa dros ddysgu a&#8217;i ymrwymiad i&#8217;r diwydiant yswiriant.<\/p>\n<p>Mae Gareth, 55, o Hirwaun, yn aseswr gyda th\u00eem gwasanaethau ariannol ALS Training yng Nghaerdydd. Mae&#8217;n rhagori yn y ffordd y mae&#8217;n darparu Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Yswiriant, ac mae 80% o&#8217;i ddysgwyr yn pasio.<\/p>\n<p>Gan fwynhau pob her, Gareth yn aml yw&#8217;r pwynt cyswllt cyntaf o fewn y t\u00eem gwasanaethau ariannol i gael cyngor ac arweiniad ar ymholiadau technegol a darpariaeth, ac mae hefyd yn hyfforddi a mentora aelodau newydd o&#8217;r t\u00eem.<\/p>\n<p>Bellach mae Gareth wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024, gwobrau uchel eu parch, a hynny yng nghategori Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwobrau, sy&#8217;n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Y prif noddwr yw EAL.<\/p>\n<p>Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae&#8217;r gwobrau&#8217;n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>Ei gryfderau yw ei allu i ysgogi pobl i gredu y gallant gyflawni beth bynnag a ddymunant, ac addasu darpariaeth ddysgu yn \u00f4l gofynion dysgwyr unigol.<\/p>\n<p>Yn ystod pandemig Covid, datblygodd ei sgiliau digidol a gweithiodd yn agos gyda chyflogwyr i ddylunio deunyddiau ac adnoddau pwrpasol i gyflwyno gweithdai o bell i ddysgwyr. Mae hyn wedi arwain at ddysgu cyfunol, lle mae&#8217;r hyfforddiant bellach yn cael ei gyflwyno wyneb yn wyneb ac o bell.<\/p>\n<p>Mae hefyd yn rhagori o ran cefnogi dysgwyr sy&#8217;n profi heriau iechyd meddwl neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.<\/p>\n<p>Ymunodd Gareth ag ALS Training dros 15 mlynedd yn \u00f4l, ar \u00f4l rheoli swyddfa yswiriant masnachol fach cyn hynny, lle bu&#8217;n coetsio a hyfforddi staff.<\/p>\n<p>Mae wedi ennill cyfres o gymwysterau i wella ei wybodaeth a&#8217;i sgiliau, gan ddechrau gyda Phrentisiaeth mewn Dysgu a Datblygu a Thystysgrif Lefel 3 CII mewn Yswiriant, a symud ymlaen i gael Diploma Lefel 4 gan y Sefydliad Yswiriant Siartredig a gwblhaodd fis Tachwedd diwethaf (2023).<\/p>\n<p>Dywedodd Melanie Hodgson, rheolwr llwybrau yn ALS Training: &#8220;Mae Gareth yn ymarferydd eithriadol sydd wedi mynd y filltir ychwanegol i wella gyrfaoedd dysgwyr a&#8217;r llwybrau sydd ar gael iddyn nhw yn y dyfodol. Mae&#8217;r adborth rhagorol gan ddysgwyr a chyflogwyr yn siarad drosto&#8217;i hun.&#8221;<\/p>\n<p>Dywedodd Gareth: &#8220;Dw i&#8217;n mwynhau fy swydd ac mae gweld y dysgwyr yn datblygu ac yn gwneud cynnydd yn rhoi boddhad i mi. Dw i&#8217;n rhoi llawer o amser i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac ymchwil am ei fod yn rhoi gwybodaeth dechnegol gadarn i mi allu cefnogi&#8217;r dysgwyr.&#8221;<\/p>\n<p>Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Gareth a phawb arall a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol.<\/p>\n<p>\u201cPrentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i gydnabod prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a&#8217;u hymrwymiad i feithrin eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru, yn ein hysbrydoli. Dw i&#8217;n dymuno pob lwc i bob un o&#8217;r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol &#8211; ar gyfer y gwobrau a&#8217;u hymdrechion yn y dyfodol.&#8221;\u200c<\/p>\n<p>Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: &#8220;Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a phartner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau&#8217;n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw ar drywydd anghenion y diwydiant, sy&#8217;n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.\u201d<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffoniwch 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"#top\">Back to top&gt;&gt;<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Disgrifir Gareth Lewis fel ymarferydd dysgu seiliedig ar waith &#8220;eithriadol,&#8221; sy&#8217;n ysbrydoli ei ddysgwyr a&#8217;i gydweithwyr drwy ei angerdd a&#8217;i ysfa dros ddysgu a&#8217;i ymrwymiad i&#8217;r diwydiant yswiriant. Mae Gareth, 55, o Hirwaun, yn aseswr gyda th\u00eem &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gareth-lewis-aac24\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16,11],"tags":[],"class_list":["post-10537","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10537","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10537"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10537\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10539,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10537\/revisions\/10539"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10537"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10537"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10537"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}