{"id":10548,"date":"2024-03-14T20:30:43","date_gmt":"2024-03-14T20:30:43","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10548"},"modified":"2024-03-14T20:30:43","modified_gmt":"2024-03-14T20:30:43","slug":"iseiw-scw-feb24","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/iseiw-scw-feb24\/","title":{"rendered":"Pobl Ifanc Cymru yn Fuddugol yn y Gystadleuaeth Sgiliau Genedlaethol"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/iseiw-scw-feb24\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/iseiw-scw-feb24\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae dros 280 o bobl ifanc dalentog o bob cwr o Gymru wedi cael cydnabyddiaeth am eu sgiliau galwedigaethol rhagorol yng ngwobrau <a href=\"https:\/\/inspiringskills.gov.wales\/competitions\">Cystadleuaeth Sgiliau Cymru<\/a> eleni, gan ennill 96 o fedalau aur, 92 o fedalau arian a 97 o fedalau efydd.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/SCW-Feb24-e1710447626802.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/SCW-Feb24-e1710447626802.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"345\" class=\"alignleft size-full wp-image-17568\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae\u2019r cyhoeddiad yn dilyn cyfres o gystadlaethau a gynhaliwyd ym mis Ionawr a mis Chwefror, lle bu 1,129 o gynrychiolwyr o bob cwr o Gymru yn cystadlu i gael eu henwi \u2018y gorau yn y wlad\u2019 yn eu sector. Roedd y cystadlaethau\u2019n ymdrin \u00e2 meysydd sgiliau yn cynnwys y celfyddydau coginio, datblygu\u2019r we, peirianneg awyrenegol ac ynni adnewyddadwy. <\/p>\n<p>Yng nghystadleuaeth eleni, gwelwyd cynnydd cyson a chalonogol o ran cyfranogiad merched yn y categor\u00efau adeiladu a ddominyddwyd yn draddodiadol gan ddynion, gan gynnwys gwaith coed, paentio ac addurno, ac ynni adnewyddadwy, sef 20% o\u2019r holl gystadleuwyr &#8211; cynnydd o 10% ers 2020.<\/p>\n<p>Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn ICC Cymru yng Nghasnewydd ddydd Iau 14 Mawrth, lle cafodd enillwyr y medalau gydnabyddiaeth haeddiannol am ddangos eu sgiliau a\u2019u gwaith caled, a hynny yng nghwmni ffrindiau a theulu.<br \/>\nAr ben hynny, bu nifer o \u2018bart\u00efon gwylio\u2019 ledled Cymru gan adael i gystadleuwyr a\u2019u teuluoedd ddathlu ar y cyd ar draws y wlad.<\/p>\n<p><strong>Disgrifiodd Emma Morgan, enillydd medal aur, a oedd yn cystadlu yn y categori Diogelwch Rhwydwaith TG, ei phrofiad yn y gystadleuaeth: <\/strong>\u201cRydw i wrth fy modd o fod wedi ennill medal aur \u2013 mae\u2019n anrhydedd enfawr!<br \/>\n\u201cRoedd cael y cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad mor uchel ei barch yn anhygoel ac fe wnaeth ddangos i mi sut beth yw rhwydweithio yn y byd go iawn. Gwnaeth i mi deimlo\u2019n gyffrous am yr hyn sy\u2019n bosibl yn y dyfodol.<br \/>\n\u201cUn o uchafbwyntiau\u2019r gystadleuaeth oedd cael cwrdd \u00e2 chystadleuwyr eraill o wahanol gefndiroedd a diwydiannau a gweld pa mor dalentog yw pobl fy oedran i. Roedd yn brofiad cwbl newydd ac mae wedi fy nghymell i ragori ar fy nghyfoedion.<\/p>\n<p>\u201cWrth edrych ymlaen, rydw i\u2019n gobeithio mynd i\u2019r brifysgol neu gwblhau gradd-brentisiaeth. Rydw i hefyd yn gobeithio gallu cystadlu yn y categori Gweinyddu Systemau Rhwydwaith TG yn y gystadleuaeth ledled y DU, WorldSkills UK.\u201d<\/p>\n<p><strong>Ychwanegodd Dominic Jenkins, enillydd medal aur yn y categori Peintio ac Addurno:<\/strong> \u201cMae cystadlaethau sgiliau wedi bod yn agoriad llygad i mi. Maen nhw wedi rhoi cyfle i mi ddangos fy nhalentau a phrofi i gwmn\u00efau beth rydw i\u2019n gallu ei wneud. <\/p>\n<p>\u201cRydw i wedi dysgu cymaint, wedi goresgyn rhai heriau anodd, ac wedi magu llawer o hyder. Rydw i\u2019n gobeithio\u2019n fawr y bydd y cystadlaethau hyn yn fy helpu i ddod o hyd i swydd yn y diwydiant ac rydw i\u2019n awyddus i barhau i herio fy hun i weld pa mor bell y galla i ddatblygu fy sgiliau a\u2019m harbenigedd.\u201d<\/p>\n<p>Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, sy\u2019n cael ei chynnal gan y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, yn llwyfan i gyfranogwyr gystadlu mewn digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol uchel eu parch fel WorldSkills UK, EuroSkills a WorldSkills International. Nod y prosiect, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw meithrin talent a sbarduno rhagoriaeth ar draws gwahanol sectorau sgiliau drwy gydweithio \u00e2 rhwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau sy\u2019n cael eu harwain gan gyflogwyr.<\/p>\n<p>Gall pobl ifanc yng Nghymru hefyd gystadlu yn y cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol Adeiladu Sgiliau a WorldSkills, yn amodol ar rownd arall o geisiadau. Mae\u2019r cyfnod cofrestru ar gyfer cystadlaethau Adeiladu Sgiliau eleni yn cau ar 1 Ebrill 2024 a bydd cystadlaethau WorldSkills UK yn cau ar 28 Mawrth 2024.<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:<\/strong> \u201cMae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn llwyfan perffaith i\u2019n pobl ifanc wthio eu ffiniau ac arddangos eu doniau.<\/p>\n<p>\u201cUn o fy mlaenoriaethau ar gyfer economi gryfach yw canolbwyntio ar sgiliau a chreadigrwydd pobl ifanc, gan roi\u2019r cymorth sydd ei angen arnynt i gyflawni dyfodol uchelgeisiol yma yng Nghymru.<\/p>\n<p>\u201cAr \u00f4l cael y fraint o gefnogi a mynd i nifer o gystadlaethau, gan gynnwys cystadleuaeth Ynni Adnewyddadwy eleni a gynhaliwyd yn y Senedd, rydw i wedi gweld \u00e2\u2019m llygaid fy hun y gronfa dalent anhygoel sydd gennym ni yng Nghymru. Mae&#8217;n wirioneddol ysbrydoledig gweld yr unigolion ifanc hyn yn ymfalch\u00efo yn eu gwaith ac yn ymdrechu&#8217;n barhaus am ragoriaeth yn eu meysydd dewisol.<\/p>\n<p>\u201cHoffwn longyfarch pob cystadleuydd yn ddiffuant am eu llwyddiannau rhagorol hyd yma. Mae gan bob un ohonoch chi ddyfodol disglair o\u2019ch blaenau.\u201d<\/p>\n<p>Wrth i Gymru edrych tua\u2019r dyfodol, bydd 47fed cystadleuaeth Ryngwladol WorldSkills yn cael ei chynnal yn Lyon, Ffrainc, lle bydd cystadleuwyr o Gymru yn cynrychioli T\u00eem y DU i gael eu coroni\u2019r gorau yn y byd am eu sgil galwedigaethol.<\/p>\n<p>Mae rhagor o wybodaeth am gystadlaethau sgiliau a\u2019r cyfle i gynrychioli Cymru yn 2024 a 2025 yn <a href=\"https:\/\/inspiringskills.gov.wales\/\">inspiringskills.gov.wales<\/a>.<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae dros 280 o bobl ifanc dalentog o bob cwr o Gymru wedi cael cydnabyddiaeth am eu sgiliau galwedigaethol rhagorol yng ngwobrau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni, gan ennill 96 o fedalau aur, 92 o fedalau arian a &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/iseiw-scw-feb24\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[21,11],"tags":[],"class_list":["post-10548","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cystadleuaeth-sgiliau-cymru","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10548","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10548"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10548\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10549,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10548\/revisions\/10549"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10548"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10548"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10548"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}