{"id":10558,"date":"2024-03-22T23:19:43","date_gmt":"2024-03-22T23:19:43","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10558"},"modified":"2024-03-22T23:34:25","modified_gmt":"2024-03-22T23:34:25","slug":"apprenticeship-awards-cymru-2024-winners","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/apprenticeship-awards-cymru-2024-winners\/","title":{"rendered":"Goroeswr ffrwydrad ac entrepreneur yn ennill gwobrau prentisiaethau"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/apprenticeship-awards-cymru-2024-winners\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/apprenticeship-awards-cymru-2024-winners\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/DSC_8055-scaled-e1711149334660.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"222\" class=\"alignnone size-full wp-image-10556\" \/><\/p>\n<p>Goroeswr ffrwydrad nwy sydd wedi dod yn arweinydd meithrinfa ysbrydoledig ac entrepreneur sydd wedi troi hobi yn fusnes clustogwaith llwyddiannus oedd dau o&#8217;r enillwyr yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 neithiwr (nos Wener).<\/p>\n<p>Cafodd naw enillydd rhagorol o bob cwr o Gymru, mewn categor\u00efau ar gyfer prentisiaid, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, y gwobrau nodedig wrth i s\u00ear rhaglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru ddisgleirio yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd.<\/p>\n<p>Caiff y gwobrau eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) a&#8217;r prif noddwr EAL, y corff dyfarnu.<\/p>\n<p>Un o&#8217;r rhai a gymeradwywyd yn ystod y noson oedd Jessica Williams, sy&#8217;n 34 oed ac yn arweinydd meithrinfa ysbrydoledig yn S\u00ear Bach y Cwm, Ystradgynlais, a gafodd ei henwi yn Brentis Uwch y Flwyddyn.<\/p>\n<p>Mae Jessica wedi brwydro yn erbyn anafiadau a newidiodd ei bywyd i greu gyrfa lwyddiannus, a hynny wedi i ffrwydrad nwy annisgwyl ddymchwel ei chartref ym Mlaendulais yn 2020.<\/p>\n<p>Mae Jessica, sy&#8217;n fam i ddau o blant, yn dweud bod y digwyddiad trawmatig hwn wedi newid ei bywyd, ac mae&#8217;n diolch i&#8217;w Phrentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Arwain a Rheoli Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant gan ACT Training am ei hannog i ffynnu.<\/p>\n<div id=\"attachment_10557\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-10557\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/2L2A0663-scaled-e1711149418849.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"287\" class=\"size-full wp-image-10557\" \/><p id=\"caption-attachment-10557\" class=\"wp-caption-text\">Jessica Williams, Prentis Uwch y Flwyddyn 2024<\/p><\/div>\n<p>&#8220;Rydw i wedi mynd o un pegwn i&#8217;r llall, o fod yn ddifrifol wael ac yn ymladd am fy mywyd, i ddod yn arweinydd meithrinfa llwyddiannus,&#8221; meddai Jessica. Mae&#8217;n anhygoel, ond mae wedi bod yn daith anodd.&#8221;<\/p>\n<p>Aeth gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn i Needle Rock, busnes clustogwaith llwyddiannus a sefydlwyd gan Dr Ali J. Wright yn Llanrhystud, ger Aberystwyth yn 2013.<\/p>\n<p>Mae Ali yn gyn-arolygydd iechyd planhigion yn Llywodraeth y DU, ac mae hi bellach yn meithrin ei phrentisiaid ei hun ar \u00f4l troi ei hobi o achub hen ddodrefn yn fusnes sy&#8217;n datblygu, sydd bellach yn cyflogi pedwar gweithiwr.<\/p>\n<p>Uchelgais Ali yw sefydlu Academi Hyfforddi Needle Rock i ddarparu fframwaith Prentisiaeth Lefel 3 newydd mewn Sgiliau Clustogwaith Uwch.<\/p>\n<p>Mae dau brentis cyntaf Needle Rock wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Perfformio Gweithrediadau Gweithgynhyrchu ac maent wedi dechrau Prentisiaeth Lefel 2 arall mewn Technegau Gwella Busnes gyda Myrick Training. <\/p>\n<p>Enillwyd gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn gan Trafnidiaeth Cymru, sydd wedi cyflwyno rhaglen brentisiaeth arloesol i yrwyr trenau mewn cydweithrediad \u00e2&#8217;r corff dyfarnu EAL a&#8217;r darparwr hyfforddiant Coleg y Cymoedd. Mae&#8217;r cwmni yn cyflogi 189 o brentisiaid ar draws 12 maes o&#8217;r busnes a darperir prentisiaethau gydag ALS Training.<\/p>\n<p>Aeth gwobr Doniau&#8217;r Dyfodol i&#8217;r prentis uwch Heledd Roberts, a ddisgrifiwyd fel &#8220;chwa o awyr iach&#8221; ers ymuno \u00e2&#8217;r t\u00eem prysur yn FUW Insurance Services Ltd dair blynedd yn \u00f4l.<\/p>\n<p>Ymunodd Heledd, sy&#8217;n 24 oed o Gaerfyrddin, \u00e2&#8217;r brocer yswiriant amaethyddol arbenigol yn ystod y pandemig pan helpodd i ymdrin \u00e2 sawl swyddfa ar draws y busnes.<\/p>\n<p>Oherwydd ei brwdfrydedd i ddysgu ac ysgogi eraill, mae wedi ei dyrchafu i fod yn brif swyddog trin cyfrifon yn y Gogledd ac ar hyn o bryd mae&#8217;n gweithio yn y swyddfa yn Rhuthun. <\/p>\n<p>Cwblhaodd Heledd Brentisiaeth Gwasanaethau Ariannol (Llwybr Yswiriant) o fewn blwyddyn ac mae bellach yn gweithio tuag at Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) Yswiriant Cyffredinol, gyda&#8217;r ddwy brentisiaeth yn cael eu darparu gan ALS Training.<\/p>\n<p><strong>Enillwyr eraill y gwobrau oedd:<\/strong><\/p>\n<p>Prentis Sylfaen y Flwyddyn yw Gwynfor Jones, 18 oed o Dreherbert, sy&#8217;n gweithio yn Croeso i&#8217;n Coedwig, partneriaeth gymunedol yn Rhondda Fawr Uchaf sy&#8217;n cysylltu trigolion \u00e2 natur drwy&#8217;r darparwr hyfforddiant Coleg Penybont.<\/p>\n<p>Prentis y Flwyddyn yw Laura Chapman, 21 oed, sy&#8217;n gweithio i Motonovo Finance yng Nghaerdydd, sy&#8217;n cael ei hyfforddi gan ALS Training. Mae angerdd dros ddysgu wedi trawsnewid bywyd Laura ac mae hi wedi mynd o fod yn berson ifanc swil i fod yn arweinydd t\u00eem.<\/p>\n<p>Cyflogwr Canolig y Flwyddyn yw TRJ Ltd, Rhydaman a&#8217;i ddarparwr hyfforddiant yw Coleg Sir G\u00e2r, gan weithio ochr yn ochr ag Academi Sgiliau Cymru Gr\u0175p Colegau NPTC a Choleg Penybont. Mae trydedd genhedlaeth teulu bellach yn rhedeg busnes adeiladu llwyddiannus a sefydlwyd gan y cyn-brentis T. Richard Jones ym 1935. 89 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae&#8217;r cwmni yn cyflogi 160 o bobl, gan gynnwys 16 o brentisiaid.<\/p>\n<p>Aeth gwobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro sydd wedi cofrestru bron i 900 o bobl i Academi Brentisiaethau ers 2018. Mae&#8217;r bwrdd yn meithrin gallu proffesiynol ei staff presennol, gan recriwtio a hyfforddi cenhedlaeth newydd gyda chymorth y prif ddarparwr hyfforddiant ACT Training, gan weithio ochr yn ochr \u00e2 Talk Training, Educ8, ALS Training a Choleg Caerdydd a&#8217;r Fro.<\/p>\n<p>Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn yw Anne Reardon-James, 46 oed o Gaerffili, sy&#8217;n gweithio i Panda Education &#038; Training ac sy&#8217;n darparu Prentisiaethau mewn Dysgu a Datblygu mewn partneriaeth ag ALS Training. A hithau&#8217;n gweithio tuag at Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg, mae Anne yn cael ei disgrifio gan ei chyflogwr fel &#8220;ymgorfforiad o ddysgu gydol oes&#8221;, gan rannu ei gwybodaeth i ysbrydoli dysgwyr a chydweithwyr.<\/p>\n<p>Dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: &#8220;Hoffwn longyfarch nid yn unig enillwyr Gwobrau Prentisiaethau Cymru, ond yr holl gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gafodd eu henwebu. <\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;n bwysig arddangos eu cyflawniadau gan fod hynny&#8217;n ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaethau ac yn annog rhagor o gyflogwyr i gyflogi prentisiaid.&#8221;<\/p>\n<p>Dywedodd Christine Bissex-Foster, Cadeirydd y Panel Beirniadu: &#8220;Gyda dros 180 o geisiadau wedi dod i law ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni, mae&#8217;n fraint gweld bod dysgwyr, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru yn parhau i ragori yn Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;r ceisiadau eleni yn adlewyrchu&#8217;r potensial eithriadol sydd yng Nghymru; maent o safon uchel iawn. Mae&#8217;r enillwyr a&#8217;r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol wedi sefydlu meincnod newydd ar gyfer addysg alwedigaethol yng Nghymru, a hoffwn longyfarch pawb a gymerodd ran. Hoffwn ddiolch hefyd i&#8217;r panel beirniadu ymroddedig sy&#8217;n rhoi o&#8217;u hamser ac yn rhannu eu harbenigedd bob blwyddyn.&#8221;<\/p>\n<p>Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Simon Pirotte OBE: \u201cHoffwn longyfarch pawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol a&#8217;r holl enillwyr. Mae straeon fel hyn yn dangos yr effaith fawr y gall prentisiaethau ei chael, gan helpu pobl i ddod o hyd i swyddi sy&#8217;n rhoi boddhad iddynt a chyfrannu at system sgiliau Cymru. Byddant yn rhan hanfodol o&#8217;r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei sefydlu.<\/p>\n<p><strong>Y rhai eraill a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 oedd:<\/strong> <\/p>\n<p>Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Chelsea Fethney o Portmead, Abertawe sy&#8217;n gweithio i Aspire Art of Hair yn Abertawe ac yn cael ei hyfforddi gan Work Based Training Agency.<\/p>\n<p>Prentis y Flwyddyn: Eleri Davies o Lanbadarn Fawr, Aberystwyth sy&#8217;n gweithio i Barcud ac a oedd yn cael ei hyfforddi gan Gr\u0175p Llandrillo Menai; a Megan Christie o Georgetown, Tredegar sy&#8217;n gweithio i GE Aerospace Wales, Nantgarw ac yn cael ei hyfforddi gan Goleg y Cymoedd.<\/p>\n<p>Prentis Uwch y Flwyddyn: Ellen Somers o Gasnewydd sy&#8217;n gweithio i Trafnidiaeth Cymru ac yn cael ei hyfforddi gan ALS Training, ac Amy Evans o Bencoed, Pen-y-bont ar Ogwr sy&#8217;n gweithio i Zimmer Biomet, Pen-y-bont ar Ogwr ac yn cael ei hyfforddi gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.<\/p>\n<p>Doniau&#8217;r Dyfodol: Katie Trembath o Gwm Clydach sy&#8217;n gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sy&#8217;n cael ei hyfforddi gan ALS Training, a Jacob Marshall o Bontypridd sy&#8217;n gweithio i Combined Engineering Services yng Nglyn Ebwy mewn partneriaeth ag Aspire \u2013 Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac sy&#8217;n cael ei hyfforddi gan Goleg y Cymoedd.<\/p>\n<p>Cyflogwr Bach y Flwyddyn: Meithrinfa Ddydd Tiddlywinks, Castell-nedd a&#8217;u darparwr hyfforddiant yw TSW Training, a Specsavers, Porthcawl a&#8217;u darparwr hyfforddiant yw Inspiro Learning.<\/p>\n<p>Cyflogwr Canolig y Flwyddyn: Little Inspirations, Pontyclun a&#8217;u darparwr hyfforddiant yw Educ8 Training, ac Ysgol Maes y Felin, Treffynnon a&#8217;u darparwr hyfforddiant yw Achieve More Training.<\/p>\n<p>Cyflogwr Mawr y Flwyddyn: Whitbread Group PLC a&#8217;u darparwyr hyfforddiant yw Lifetime Training, un o bartneriaid Cambrian Training Company, a phs Group yng Nghaerffili a&#8217;u darparwr hyfforddiant yw ACT Training ynghyd ag ACT a Choleg y Cymoedd.<\/p>\n<p>Macro-gyflogwr y Flwyddyn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn Abertawe a&#8217;u darparwr hyfforddiant yw Coleg G\u0175yr Abertawe ac Academi Sgiliau Cymru Gr\u0175p Colegau NPTC, a busnes Babcock Aviation yn RAF y Fali, Ynys M\u00f4n a&#8217;u darparwyr hyfforddiant yw Gr\u0175p Llandrillo Menai a Hyfforddiant Arfon Dwyfor Training (WBL) Ltd.<\/p>\n<p>Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn: Sioned Roberts o Gaerdydd sy&#8217;n gweithio i Urdd Gobaith Cymru a Gareth Lewis, Hirwaun sy&#8217;n gweithio i ALS Training.<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Goroeswr ffrwydrad nwy sydd wedi dod yn arweinydd meithrinfa ysbrydoledig ac entrepreneur sydd wedi troi hobi yn fusnes clustogwaith llwyddiannus oedd dau o&#8217;r enillwyr yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 neithiwr (nos Wener). Cafodd naw enillydd rhagorol &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/apprenticeship-awards-cymru-2024-winners\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-10558","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10558","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10558"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10558\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10561,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10558\/revisions\/10561"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10558"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10558"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10558"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}