{"id":10564,"date":"2024-03-27T11:22:15","date_gmt":"2024-03-27T11:22:15","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10564"},"modified":"2024-03-27T11:22:15","modified_gmt":"2024-03-27T11:22:15","slug":"aac2024-winner-gwynfor-jones","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-winner-gwynfor-jones\/","title":{"rendered":"Bachgen yn ei arddegau o Rondda yn ennill gwobr brentisiaeth ar \u00f4l cyflawni&#8217;r &#8220;amhosibl&#8221;"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2024-winner-gwynfor-jones\/\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-winner-gwynfor-jones\/\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_17615\" style=\"width: 460px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17615\" class=\"size-full wp-image-17615\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Gwynfor-Jones-photo-450.jpg\" alt=\"Gwynfor Jones receives the Foundation Apprentice of the Year award from sponsor, Nicola Thornton-Scott of NPTC Group of Colleges.\" width=\"450\" height=\"300\" \/><p id=\"caption-attachment-17615\" class=\"wp-caption-text\">Gwynfor Jones yn derbyn gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn gan noddwr Nicola Thornton-Scott o Gr\u0175p Colegau NPTC.<\/p><\/div>\n<div id=\"attachment_17006\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17006\" class=\"size-full wp-image-17006\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/17.11.23-mh-ACC24-Gwynfor-Jones-20-scaled-e1704944442810.jpg\" alt=\"Gwynfor Jones, in the forest with chain saw.\" width=\"460\" height=\"307\" \/><p id=\"caption-attachment-17006\" class=\"wp-caption-text\">Gwynfor Jones, Prentis Sylfaen y Flwyddyn<\/p><\/div>\n<p>Mae Gwynfor Jones, bachgen yn ei arddegau o Gwm Rhondda, sy&#8217;n rhoi&#8217;r diolch i drefniant dysgu seiliedig ar waith am ei helpu i gyflawni &#8220;yr amhosibl&#8221;, wedi cael ei gydnabod \u00e2 gwobr brentisiaeth genedlaethol.<\/p>\n<p>Cafodd Gwynfor, 18, o Dreherbert, ei enwi&#8217;n Brentis Sylfaen y Flwyddyn yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 a gynhaliwyd yn ICC Cymru, Casnewydd.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l cael trafferth yn canolbwyntio yn yr ysgol, ac ofni y byddai cael ei ynysu&#8217;n gymdeithasol yn ystod pandemig Covid yn llesteirio ei ddatblygiad fel oedolyn, mae Gwynfor wedi ffynnu ers cwblhau Prentisiaeth Sylfaen, ac mae bellach yn gwirfoddoli yn ei gymuned.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwobrau, sy&#8217;n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.<\/p>\n<p>Prif noddwr eleni oedd EAL, partner sgiliau a sefydliad dyfarnu arbenigol ar gyfer diwydiant. Mae&#8217;r gwobrau&#8217;n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>Cwblhaodd Gwynfor Brentisiaeth Sylfaen mewn Cadwraeth Amgylcheddol drwy Goleg Pen-y-bont a Croeso i&#8217;n Coedwig, partneriaeth gymunedol yn Rhondda Fawr Uchaf sy&#8217;n cysylltu trigolion \u00e2 natur.<\/p>\n<p>Ac yntau wedi bod yn gwirfoddoli gyda Croeso i&#8217;n Coedwig ers ei fod yn 13 oed, cymerwyd ef o dan adain y bartneriaeth ar \u00f4l cwblhau ei arholiadau TGAU, ac nid yw wedi edrych yn \u00f4l ers hynny, gan helpu gyda nifer o brosiectau amgylcheddol a gwneud gwahaniaeth go iawn.<\/p>\n<p>Wrth ddal ei wobr, dywedodd Gwynfor: &#8220;Dw i&#8217;n dal i fod mewn sioc. Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill a dw i&#8217;n ddiolchgar i bawb sydd wedi dod \u00e2 fi mor bell \u00e2 hyn. Ar \u00f4l ennill y wobr yma, dw i nawr yn teimlo y galla&#8217; i gyflawni cymaint mwy yn fy mywyd.<\/p>\n<p>&#8220;Fy mreuddwyd fwyaf fyddai symud i Ganada am ychydig flynyddoedd a dysgu sgiliau newydd mewn gwaith coed a rheoli, unrhyw beth sy&#8217;n ymwneud \u00e2 natur. Ar hyn o bryd dw i&#8217;n rheoli coetir ac yn rhedeg melin lifio.&#8221;<\/p>\n<p>&#8220;Roedd fy hyder i&#8217;n isel yn yr ysgol gan nad oeddwn i&#8217;n gweld fy hun fel &#8216;plentyn clyfar&#8217; a doedd gen i ddim sgiliau defnyddiol Ond ers dechrau fy mhrentisiaeth, mae fy hunan-gred a&#8217;m hyder wedi datblygu y tu hwnt i beth y gallwn fod wedi&#8217;i ddychmygu.<\/p>\n<p>&#8220;Roeddwn i hefyd yn ofni yn ystod Covid fy mod i wedi colli fy sgiliau cymdeithasol yn sgil ynysu, ond diolch i &#8216;mhrentisiaeth, dw i wedi bod yn cyflawni &#8216;yr amhosibl&#8217; drwy roi cyflwyniadau i blant mewn ysgolion, i&#8217;r cyhoedd ac mewn digwyddiadau cymunedol yn fy ngweithle.&#8221;<\/p>\n<p>Fel gweithiwr dwyieithog, mae Gwynfor wedi cyfrannu at fideos sy&#8217;n hyrwyddo addysg alwedigaethol yn Gymraeg a Saesneg.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2&#8217;i waith, mae&#8217;n cefnogi sesiynau therapi coetir, gan weithio ar sail un i un, mae&#8217;n gwirfoddoli ddwy noson yr wythnos gyda Plant y Cymoedd, ac mae&#8217;n swyddog cymorth cyntaf awyr agored ac yn arweinydd beicio mynydd.<\/p>\n<p>Dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: &#8220;Fe hoffwn i longyfarch nid yn unig enillwyr Gwobrau Prentisiaethau Cymru, ond yr holl gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gafodd eu henwebu.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;n bwysig arddangos eu llwyddiannau, gan fod hynny&#8217;n ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaethau ac yn annog rhagor o gyflogwyr i gyflogi prentisiaid.&#8221;<\/p>\n<p>Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Simon Pirotte OBE: &#8220;Dw i am longyfarch yr holl enillwyr a&#8217;r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae eu straeon nhw ynghylch yr effaith fawr y gall prentisiaethau ei chael yn drawiadol, gan helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth foddhaol a chyfrannu at system sgiliau Cymru. Fe fyddan nhw&#8217;n rhan hanfodol o&#8217;r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei sefydlu.&#8221;<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffoniwch 03000 603000.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig&gt;&gt;<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Gwynfor Jones, bachgen yn ei arddegau o Gwm Rhondda, sy&#8217;n rhoi&#8217;r diolch i drefniant dysgu seiliedig ar waith am ei helpu i gyflawni &#8220;yr amhosibl&#8221;, wedi cael ei gydnabod \u00e2 gwobr brentisiaeth genedlaethol. Cafodd Gwynfor, 18, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-winner-gwynfor-jones\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-10564","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10564","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10564"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10564\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10565,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10564\/revisions\/10565"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10564"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10564"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10564"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}