{"id":10569,"date":"2024-03-27T12:18:06","date_gmt":"2024-03-27T12:18:06","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10569"},"modified":"2024-03-27T12:18:06","modified_gmt":"2024-03-27T12:18:06","slug":"aac2024-winner-laura-chapman","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-winner-laura-chapman\/","title":{"rendered":"Mae Laura, a enillodd wobr brentisiaeth, yn angerddol dros ddysgu a gwaith t\u00eem"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2024-winner-laura-chapman\/\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-winner-laura-chapman\/\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_17625\" style=\"width: 460px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17625\" class=\"size-full wp-image-17625\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Laura-Chapman-photo450.jpg\" alt=\"Apprentice of the Year award winner Laura Chapman with sponsor Angharad Lloyd-Beynon City &amp; Guilds.\" width=\"450\" height=\"300\" \/><p id=\"caption-attachment-17625\" class=\"wp-caption-text\">Enillydd gwobr Prentis y Flwyddyn, Laura Chapman, gyda Angharad Lloyd-Beynon o&#8217;r noddwr, City &amp; Guilds.<\/p><\/div>\n<div id=\"attachment_17094\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17094\" class=\"size-full wp-image-17094\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/07.12.24-mh-ACC24-Laura-Chapman-10-scaled-e1705395605440.jpg\" alt=\"Laura standing in the office.\" width=\"460\" height=\"307\" \/><p id=\"caption-attachment-17094\" class=\"wp-caption-text\">Laura Chapman, Prentis y Flwyddyn.<\/p><\/div>\n<p>Mae angerdd yr arweinydd t\u00eem, Laura Chapman, dros ddysgu wedi cael ei wobrwyo \u00e2 gwobr genedlaethol sy&#8217;n destun balchder.<\/p>\n<p>Cafodd Laura, sy&#8217;n gweithio i MotoNovo Finance yng Nghaerdydd, ei henwi&#8217;n Brentis y Flwyddyn yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 a gynhaliwyd yn ICC Cymru, Casnewydd.<\/p>\n<p>Ymunodd y cyn-ddisgybl o Ysgol Maesteg, sy&#8217;n 21 oed, \u00e2&#8217;r cwmni cyllid a benthyciadau ceir ar gontract o 18 mis pan oedd yn 17 oed ar \u00f4l dewis ennill a dysgu ar brentisiaeth, a wnaeth ei thrawsnewid o fod yn ferch ifanc swil yn ei harddegau i fod yn arweinydd t\u00eem hyderus.<\/p>\n<p>Symudodd ymlaen yn gyflym o Ddiploma BTEC Lefel 2 mewn Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr TG Proffesiynol i Brentisiaeth TG, Meddalwedd, y We a Thelathrebu; Tystysgrif Fersiwn 4 ITIL; a, bellach, ILM Lefel 3 mewn Rheoli gydag ALS Training.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwobrau, sy&#8217;n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.<\/p>\n<p>Prif noddwr eleni oedd EAL, partner sgiliau a sefydliad dyfarnu arbenigol ar gyfer diwydiant. Mae&#8217;r gwobrau&#8217;n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>&#8220;Dw i mor hapus a balch fy mod i eisiau crio,&#8221; meddai Laura emosiynol, ar \u00f4l derbyn ei gwobr. &#8220;Mae&#8217;r wobr yma yn rhywbeth eithaf personol, gan ei fod yn golygu fy mod i&#8217;n ddigon da.<\/p>\n<p>&#8220;Dw i wedi cael llawer o amheuon am fy ngallu fy hun, ond mae hyn nawr yn dangos imi fy mod i&#8217;n dda ac y galla&#8217; i gyflawni pethau yn fy ngyrfa. Dw i wedi cael cefnogaeth wych ac mae gen i reolwr anhygoel.&#8221;<\/p>\n<p>Wrth siarad am ei thaith ddysgu, ychwanegodd Laura: &#8220;Yn achos pob cymhwyster, dw i wedi gallu cymhwyso&#8217;r dysgu&#8217;n uniongyrchol i&#8217;m r\u00f4l yn syth. Mae&#8217;r ddau beth yn mynd law yn llaw, felly mae&#8217;n gwneud synnwyr i barhau i ddysgu. Dw i eisoes wedi rhoi fy mryd ar Brentisiaeth Uwch mewn Rheoli!<\/p>\n<p>&#8220;Dw i&#8217;n rhannu fy stori gyda fy nh\u00eem ac yn dweud wrthyn nhw pa mor ddefnyddiol yw prentisiaethau i ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a&#8217;ch gyrfa.&#8221;<\/p>\n<p>Mae&#8217;r wybodaeth a&#8217;r sgiliau mae hi wedi&#8217;u hennill wedi rhoi hwb i&#8217;w hyder, ac mae nawr yn arwain t\u00eem o wyth dadansoddwr, yn datrys materion TG i fwy o gwsmeriaid ac yn cael effaith gadarnhaol ar y busnes.<\/p>\n<p>Yn fuan ar \u00f4l ei dyrchafiad i r\u00f4l arweinydd t\u00eem, fe aeth ati i ddelio ag \u00f4l-groniad o geisiadau drwy gyflwyno dangosfwrdd i flaenoriaethu gwaith a oedd yn cyrraedd. Mae hi hefyd wedi cyflwyno camau i wella mor\u00e2l a pherfformiad staff a hybu cynhyrchiant 50% drwy annog aelodau&#8217;r t\u00eem i gydweithio a chynnig syniadau.<\/p>\n<p>Mae Laura hefyd yn gweithio gyda staff datblygu talent y cwmni ac ALS Training i hyrwyddo prentisiaethau o fewn ei th\u00eem.<\/p>\n<p>Dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: &#8220;Fe hoffwn i longyfarch nid yn unig enillwyr Gwobrau Prentisiaethau Cymru, ond yr holl gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gafodd eu henwebu.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;n bwysig arddangos eu llwyddiannau, gan fod hynny&#8217;n ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaethau ac yn annog rhagor o gyflogwyr i gyflogi prentisiaid.&#8221;<\/p>\n<p>Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Simon Pirotte OBE: &#8220;Dw i am longyfarch yr holl enillwyr a&#8217;r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae eu straeon nhw ynghylch yr effaith fawr y gall prentisiaethau ei chael yn drawiadol, gan helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth foddhaol a chyfrannu at system sgiliau Cymru. Fe fyddan nhw&#8217;n rhan hanfodol o&#8217;r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei sefydlu.&#8221;<\/p>\n<p>\u200cI gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffoniwch 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"#top\">Back to top&gt;&gt;<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae angerdd yr arweinydd t\u00eem, Laura Chapman, dros ddysgu wedi cael ei wobrwyo \u00e2 gwobr genedlaethol sy&#8217;n destun balchder. Cafodd Laura, sy&#8217;n gweithio i MotoNovo Finance yng Nghaerdydd, ei henwi&#8217;n Brentis y Flwyddyn yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-winner-laura-chapman\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-10569","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10569","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10569"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10569\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10570,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10569\/revisions\/10570"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10569"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10569"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10569"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}