{"id":10571,"date":"2024-03-27T16:40:33","date_gmt":"2024-03-27T16:40:33","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10571"},"modified":"2024-03-27T16:40:33","modified_gmt":"2024-03-27T16:40:33","slug":"conference-apps-panel-24","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/conference-apps-panel-24\/","title":{"rendered":"Panel yn trafod ffyrdd newydd o wireddu potensial pobl ifanc er budd BBaChau yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/conference-apps-panel-24\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/conference-apps-panel-24\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Ffyrdd newydd o roi plant ysgolion cynradd ac uwchradd mewn cysylltiad \u00e2 chyflogwyr a darparwyr prentisiaethau er mwyn llenwi bylchau sgiliau oedd o dan sylw gan banel o arbenigwyr yr wythnos ddiwethaf.<\/p>\n<div id=\"attachment_17627\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Panellists-1-e1711557504321.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17627\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Panellists-1-e1711557504321.jpg\" alt=\"Apprenticeships Panel members on stage at the NTFW Conference 2024.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-17627\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-17627\" class=\"wp-caption-text\">Y panelwyr, Ben Cottam, FSB Cymru, Helena Williams, ALS ac ACT, Leigh Hughes, cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Prifddinas Ranbarth Caerdydd (PSPRC), and Liam Owen, Frog Bikes, gyda chyfarwyddwr strategol NTFW Lisa Mytton.<\/p><\/div>\n<p>Bu&#8217;r panel yn ceisio ateb y cwestiwn: \u201cSut mae prentisiaethau o fudd i Gymru?\u201d yng nghynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), a gynhaliwyd am y tro cyntaf ers y pandemig a hynny yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru), Casnewydd. City &#038; Guilds oedd y noddwr pennaf.<\/p>\n<p>Y panelwyr oedd Ben Cottam, pennaeth y Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) yng Nghymru, Helena Williams, cyfarwyddwr datblygu corfforaethol ALS ac ACT, Leigh Hughes, cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PSPRC), a Liam Owen, rheolwr gweithredol Cymru, Frog Bikes ym Mhont-y-p\u0175l. <\/p>\n<p>Buont yn trafod ffyrdd o wireddu potensial trwy brentisiaethau er mwyn grymuso pobl ar gyfer y dyfodol, atgyfnerthu cyflogwyr a hybu ffyniant economaidd. <\/p>\n<p>Bu&#8217;r panelwyr yn s\u00f4n am yr her o ymgysylltu ag ysgolion, pobl ifanc a\u2019u rhieni i\u2019w haddysgu am y cyfleoedd i ddatblygu gyrfa a\u2019r llwybrau dysgu sydd ar gael drwy brentisiaethau. <\/p>\n<p>Dywedodd Mr Cottam mai&#8217;r her i&#8217;r FSB a&#8217;i aelodau oedd sut i ymateb i&#8217;r doniau sydd ar gael mewn ysgolion a chyrraedd atynt.<\/p>\n<p>Awgrymodd Mr Owen y gellid creu cronfa ddata o gyflogwyr a fyddai&#8217;n barod i rannu prentis er mwyn darparu&#8217;r amrediad angenrheidiol o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad mewn busnesau bach a chanolig (BBaChau). <\/p>\n<p>Awgrymodd hefyd y gallai awdurdodau lleol chwarae rhan allweddol drwy gynnig rhyddhad ardrethi busnes i gyflogwyr pe baent yn cyflogi prentis. <\/p>\n<p>Dywedodd Mr Hughes fod PSPRC wedi dysgu mai&#8217;r ffordd orau o ymgysylltu \u00e2 phobl ifanc yw eu rhoi nhw&#8217;n gyntaf trwy wrando ar yr hyn y mae arnynt ei eisiau a chyhoeddi deunyddiau mewn iaith y gallant ei deall. <\/p>\n<p>Pwysleisiodd Mrs Williams fod darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn awyddus i gydweithio \u00e2&#8217;r FSB i ddysgu BBaChau ac ysgolion am brentisiaethau y gellir eu haddasu i ateb anghenion cyflogwyr.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r adroddiad \u2018Pontio i Fyd Gwaith\u2019 a ysgrifennwyd gan Hefin David, AoS, ar gyfer Llywodraeth Cymru, yn ymchwilio i\u2019r berthynas rhwng darparwyr addysg, diwydiant a chyflogwyr.  Mae\u2019r adroddiad yn nodi arferion da i helpu ysgolion cynradd ac uwchradd a cholegau i feithrin cysylltiadau \u00e2 busnesau, entrepreneuriaid a chyflogwyr.  <\/p>\n<p>Dywedodd Mr Cottam ei fod wedi gweld enghreifftiau da o BBaChau o Gymru&#8217;n ymgysylltu \u00e2 dysgwyr ifanc i roi profiadau ystyrlon o fyd gwaith iddynt.  Mae ar bobl ifanc angen pwynt mynediad i fusnesau a ddylai hyrwyddo&#8217;r cyfleoedd a&#8217;r posibiliadau sydd ar gael, meddai. <\/p>\n<p>Awgrymodd Mr Owen y gallai BBaChau herio meddyliau creadigol pobl ifanc drwy roi problemau cysylltiedig \u00e2 gwaith iddynt eu datrys er mwyn \u201cagor eu llygaid i fyd gwaith\u201d.<\/p>\n<p>Dywedodd Mrs Williams y gall fod yn anodd i&#8217;r rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith fynd i ysgolion i s\u00f4n wrth y disgyblion am ddysgu galwedigaethol ond bod yna glystyrau o arferion da.  Ar hyn o bryd, mae ALS ac ACT yn cydweithio \u00e2 22 o ysgolion ac mae addysg alwedigaethol yn dechrau magu momentwm, meddai. <\/p>\n<p>Soniodd Mr Hughes fod y cwricwlwm newydd yng Nghymru yn golygu y gellir datblygu partneriaethau lleol rhwng BBaChau ac ysgolion yn eu hardal \u201cDydi diwydiant ddim wedi dal i fyny eto gan fanteisio i&#8217;r eithaf ar y cyfleoedd, felly mae\u2019n rhaid i ni weithio ar godi ymwybyddiaeth,\u201d meddai. <\/p>\n<p>\u201cFel Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol, rydym yn awyddus i ddatblygu partneriaeth ar gyfer ffyniant.  Mae arnom eisiau i bob busnes ffynnu ac i bob unigolyn wneud y gorau o&#8217;u bywyd oherwydd mae gan bawb botensial.  Rydyn ni\u2019n ceisio rhoi\u2019r offer i bobl wireddu eu potensial.\u201d<\/p>\n<p>Ar \u00f4l y gynhadledd, dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol NTFW, a oedd yn cadeirio sesiwn y panel: \u201cYn fy marn i, roedd yn drafodaeth fuddiol iawn achos roedd gennym ni leisiau Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol, BBaCh, darparwr dysgu seiliedig ar waith a\u2019r Ffederasiwn Busnesau Bach.  <\/p>\n<p>\u201cO dan y cwricwlwm newydd yng Nghymru, mae&#8217;n ofynnol i bawb ohonom ymgysylltu \u00e2 phlant ac athrawon i\u2019w helpu i ddeall bod prentisiaethau ar gael ar gyfer pobl o bob gallu.  Mae angen inni atgyfnerthu neges Llywodraeth Cymru bod gwneud prentisiaeth yn \u2018ddewis doeth\u2019.\u201d<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Ffyrdd newydd o roi plant ysgolion cynradd ac uwchradd mewn cysylltiad \u00e2 chyflogwyr a darparwyr prentisiaethau er mwyn llenwi bylchau sgiliau oedd o dan sylw gan banel o arbenigwyr yr wythnos ddiwethaf. Bu&#8217;r panel yn ceisio ateb &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/conference-apps-panel-24\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[9,11],"tags":[],"class_list":["post-10571","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cynhadledd-ntfw","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10571","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10571"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10571\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10572,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10571\/revisions\/10572"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10571"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10571"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10571"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}