{"id":10573,"date":"2024-03-27T17:07:15","date_gmt":"2024-03-27T17:07:15","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10573"},"modified":"2024-03-27T17:07:15","modified_gmt":"2024-03-27T17:07:15","slug":"speakers-call-for-collaboration","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/speakers-call-for-collaboration\/","title":{"rendered":"Siaradwyr yn galw am gydweithredu er mwyn ateb anghenion prentisiaid a chyflogwyr"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/speakers-call-for-collaboration\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/speakers-call-for-collaboration\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_17598\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/2L2A5441-scaled-e1711378255369.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17598\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/2L2A5441-scaled-e1711378255369.jpg\" alt=\"NTFW Conference 2024 - keynote speakers.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-17598\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-17598\" class=\"wp-caption-text\">Y prif siaradwyr yng nghynhadledd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) a gynhaliwyd yn ICC Cymru, Casnewydd.<\/p><\/div>\n<p>Cydweithredu er mwyn ateb anghenion prentisiaid a chyflogwyr wrth iddynt ddatblygu oedd thema gyffredin y prif siaradwyr mewn cynhadledd a oedd yn canolbwyntio ar brentisiaethau, sgiliau a thwf economaidd yng Nghymru. <\/p>\n<p>Mewn cyfnod pan mae Llywodraeth Cymru&#8217;n cwtogi cyllid prentisiaethau, daeth tua 150 o bobl i gynhadledd lwyddiannus Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru) yng Nghasnewydd.  City &#038; Guilds oedd y noddwr pennaf. <\/p>\n<p>Diolchodd Rhian Edwards, dirprwy gyfarwyddwr addysg bellach a phrentisiaethau Llywodraeth Cymru, i ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith am gydweithio \u00e2\u2019r llywodraeth yng nghyfnod y \u201cdewisiadau cyllidebol mwyaf poenus i Gymru ers datganoli\u201d.<\/p>\n<p>Canmolodd y berthynas a oedd wedi datblygu \u00e2\u2019r sector ac addawodd barhau \u00e2\u2019r agwedd \u201ccyfathrebu agored\u201d yn y cyfnod cyn i&#8217;r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY) ddod yn gyfrifol am addysg a hyfforddiant \u00f4l-16 yng Nghymru ym mis Awst.  <\/p>\n<p>Bydd Llywodraeth Cymru&#8217;n buddsoddi \u00a3143 miliwn mewn \u201cprentisiaethau o safon\u201d yn y flwyddyn ariannol nesaf.  Dywedodd y bydd prentisiaethau mewn sectorau strategol-bwysig, yn cynnwys trafnidiaeth, iechyd a thai, yn cael eu cryfhau i feithrin gwytnwch wrth i&#8217;r amgylchedd economaidd newid. <\/p>\n<p>Ymhlith yr amcanion eraill mae llenwi bylchau sgiliau, hybu cynhyrchiant a mynd i\u2019r afael ag anghydraddoldeb trwy wella cyfleoedd am waith ac addysg i bobl o bob cefndir. <\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n edrych ymlaen at barhau \u00e2&#8217;n trefn gadarn o weithio mewn partneriaethau i wneud i bethau da ddigwydd i bobl Cymru,\u201d meddai i gloi.<\/p>\n<p>Diolchodd cyfarwyddwr strategol NTFW Lisa Mytton i Rhian a\u2019i th\u00eem, yn ogystal ag i ddeiliaid contractau a gomisiynir gan NTFW, a ColegauCymru, am eu cydweithrediad yn ystod cyfarfodydd i drafod cwtogi&#8217;r gyllideb.  Pwysleisiodd y bydd yn hanfodol dal i gydweithredu wrth drosglwyddo&#8217;r gwaith i CADY. <\/p>\n<p>\u201cMae tirwedd cymwysterau&#8217;n newid yng Nghymru a dylid rhoi&#8217;r parch dyladwy i gymwysterau galwedigaethol a phrentisiaethau,\u201d meddai.  \u201cRhaid i ni barhau \u00e2\u2019r trafodaethau ynghylch &#8216;parch cydradd&#8217;. Hefyd, mae angen cyhoeddi neges unol, gyson, gref yn hyrwyddo addysg alwedigaethol fel elfen ganolog, a werthfawrogir gan bawb, o ran dewis gyrfa, datblygiad cyflogwyr a thwf economaidd.<\/p>\n<p>\u201cRydym yn awyddus i adeiladu ar y cynnydd sylweddol a wnaed yn y ddarpariaeth ar gyfer prentisiaethau er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn dal i gael effaith wirioneddol.\u201d<\/p>\n<p>Soniodd Angharad Lloyd Beynon, rheolwr polisi, rhanddeiliaid a phartneriaethau City &#038; Guilds (y Cenhedloedd ac Iwerddon), fel yr holl brif siaradwyr eraill, am bwysigrwydd cydweithio drwy gydol y broses dysgu seiliedig ar waith, o Lywodraeth Cymru i\u2019r dysgwyr a\u2019r cyflogwyr. <\/p>\n<p>Canmolodd y colegau a&#8217;r darparwyr hyfforddiant gan ddweud:  \u201cYn ogystal \u00e2 bod o fudd i unigolion, mae eu hymroddiad cadarn i gefnogi prentisiaid yn cyfrannu at ffyniant economaidd a lles cymdeithasol ein cenedl.  Gadewch inni ddathlu a hyrwyddo&#8217;u hymdrechion wrth iddynt barhau i greu arweinwyr ac arloeswyr y dyfodol. <\/p>\n<p>\u201cPrentisiaethau yw asgwrn cefn ein heconomi. Maen nhw&#8217;n rhoi profiad ymarferol i unigolion ac, ar yr un pryd, yn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r bwlch sgiliau sy\u2019n poeni llawer o ddiwydiannau. \u201d<\/p>\n<p>Roedd prif weithredwr Agored Cymru, Darren Howells, a phrif weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker, yn pwysleisio&#8217;r angen i&#8217;r holl bartneriaid yng Nghymru gydweithio i gryfhau\u2019r system gymwysterau a chefnogi cyflogwyr a dysgwyr. <\/p>\n<p>Anfonwyd neges fideo gan Luke Fletcher, AoS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru a chadeirydd Gr\u0175p Trawsbleidiol y Senedd ar Brentisiaethau, i gefnogi\u2019r gynhadledd a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio \u00e2\u2019r NTFW a ColegauCymru. <\/p>\n<p>Tanlinellodd bwysigrwydd prentisiaethau i helpu Cymru i weithio tuag at Sero Net ac economi werdd.  <\/p>\n<p>Bu&#8217;r cynadleddwyr yn trafod sut i gyflawni potensial trwy brentisiaethau, grymuso pobl ar gyfer y dyfodol, grymuso cyflogwyr a sbarduno ffyniant economaidd gan \u201cfynd ati heddiw i adeiladu llwyddiant yfory\u201d.<\/p>\n<p>Roedd pynciau&#8217;r gweithdai&#8217;n amrywio o &#8216;Tyfu BBaChau trwy ddatblygu sgiliau&#8217; i &#8216;Ffeindio\u2019ch ffordd trwy gyfleoedd a heriau AI&#8217;. <\/p>\n<p>Meddai Angharad Lloyd Beynon: &#8220;Mae City &#038; Guilds yn falch o fod yn noddwr pennaf cynhadledd sy&#8217;n rhoi pwyslais ar brentisiaethau a sgiliau er mwyn sbarduno twf economaidd. Rydym yn credu mewn grymuso unigolion \u00e2&#8217;r wybodaeth a&#8217;r arbenigedd i hybu ffyniant, gan feithrin dyfodol lle mae sgiliau&#8217;n llunio economi lewyrchus.&#8221;<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Cydweithredu er mwyn ateb anghenion prentisiaid a chyflogwyr wrth iddynt ddatblygu oedd thema gyffredin y prif siaradwyr mewn cynhadledd a oedd yn canolbwyntio ar brentisiaethau, sgiliau a thwf economaidd yng Nghymru. Mewn cyfnod pan mae Llywodraeth Cymru&#8217;n &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/speakers-call-for-collaboration\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[9,11],"tags":[],"class_list":["post-10573","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cynhadledd-ntfw","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10573","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10573"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10573\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10575,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10573\/revisions\/10575"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10573"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10573"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10573"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}