{"id":10576,"date":"2024-03-29T12:42:02","date_gmt":"2024-03-29T12:42:02","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10576"},"modified":"2024-03-29T12:46:23","modified_gmt":"2024-03-29T12:46:23","slug":"aac2024-winner-heledd-roberts","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-winner-heledd-roberts\/","title":{"rendered":"Gwobr Talent Yfory yn mynd i Heledd sy\u2019n &#8216;chwa o awyr iach&#8217;"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2024-winner-heledd-roberts\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-winner-heledd-roberts\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Cafodd gwobr Talent Yfory yng ngornest Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni ei hennill gan y Prentis Uwch Heledd Roberts, sydd wedi&#8217;i disgrifio gan ei chyflogwr fel &#8220;chwa o awyr iach&#8221;.<\/p>\n<div id=\"attachment_17634\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Heledd-roberts-scaled-e1711715613103.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17634\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Heledd-roberts-scaled-e1711715613103.jpg\" alt=\"Heledd Robert receives the Tomorrow\u2019s Talent award from Dan Tromans, head of service delivery at EAL, headline sponsor.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-17634\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-17634\" class=\"wp-caption-text\">Heledd Roberts yn derbyn gwobr Talent Yfory gan Dan Tromans, pennaeth cyflenwi gwasanaethau yn EAL, noddwr.<\/p><\/div>\n<p>Mae Heledd, sy&#8217;n 24 oed o Gaerfyrddin, wedi gweithio i FUW Insurance Services Ltd, sy&#8217;n un o brif froceriaid yswiriant amaethyddol arbenigol y Deyrnas Unedig, ers tair blynedd. Ac ar hyn o bryd mae wedi&#8217;i lleoli yn swyddfa Rhuthun yng Ngogledd Cymru.<\/p>\n<p>Ymunodd \u00e2&#8217;r cwmni yn ystod y pandemig, gan helpu i ddelio \u00e2 gwaith sawl swyddfa. A chafodd ei dyrchafu i arwain y gwaith o drin cyfrifon oherwydd ei brwdfrydedd i ddysgu ac ysgogi eraill. <\/p>\n<p><strong>Wrth ymateb i&#8217;w gwobr, dywedodd Heledd:<\/strong><br \/>\n&#8220;Dw i wedi synnu&#8217;n fawr fy mod i wedi ennill y wobr hon, ac yn ddiolchgar iawn am y fraint sy&#8217;n cydnabod yr holl nosweithiau hwyr a phenwythnosau dw i wedi&#8217;u hymroi i&#8217;r Brentisiaeth Uwch &#8216;dw i&#8217;n ei chwblhau cyn hir.<\/p>\n<p>&#8220;Yn sicr, mae wedi bod yn werth yr holl waith oherwydd dw i wedi cael llawer o gefnogaeth anhygoel, a gall prentisiaeth fynd \u00e2 chi gymaint ymhellach yn eich gyrfa.<\/p>\n<p>&#8220;Dw i\u2019n gredwr mawr mewn effeithlonrwydd a chyflwyno ffyrdd newydd o wneud pethau, sydd nid yn unig yn helpu&#8217;r busnes ond yn helpu&#8217;r staff hefyd. &#8220;Dw i&#8217;n mwynhau fy ngwaith yn fawr, yn enwedig ochr reoli&#8217;r swydd, a hoffwn i gael swydd barhaol fel swyddog gweithredol cyfrifon yn y dyfodol.&#8221;<\/p>\n<p>Dywedodd Heledd ei bod hi&#8217;n noson fwy arbennig, gan fod ei mentor hyfforddi, Gareth Lewis o ALS Training, hefyd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer y categori Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith.<\/p>\n<div id=\"attachment_17325\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/AAC24-Heledd-Roberts-8-scaled-e1706958341444.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17325\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/AAC24-Heledd-Roberts-8-scaled-e1706958341444.jpg\" alt=\"Heledd at Royal Welsh Showground\" width=\"460\" height=\"297\" class=\"size-full wp-image-17325\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-17325\" class=\"wp-caption-text\">Heledd Roberts<\/p><\/div>\n<p>Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru, sy&#8217;n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. <\/p>\n<p>Prif noddwr eleni oedd EAL, partner sgiliau a sefydliad dyfarnu arbenigol ar gyfer diwydiant. Mae&#8217;r Gwobrau&#8217;n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Caryl Roberts, rheolwr datblygu busnes FUW Insurance Services Ltd, fod Heledd yn &#8220;eithriadol&#8221;, gan ychwanegu:<\/strong> &#8220;Mae&#8217;n barod i herio a moderneiddio rhai prosesau sydd wedi ennill eu plwyf ac mae ganddi awydd mawr i gyflwyno dulliau newydd o ddatrys problemau.&#8221;<\/p>\n<p>Cwblhaodd Heledd Brentisiaeth Gwasanaethau Ariannol (Llwybr Yswiriant) o fewn blwyddyn, ac mae bellach yn gweithio tuag at Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) Yswiriant Cyffredinol \u2013 a\u2019r ddwy brentisiaeth yn cael eu darparu gan ALS Training.<\/p>\n<p>Mae hi wedi cynyddu effeithlonrwydd a phroffidioldeb y busnes trwy arwain prosiect i gyflwyno proses e-fasnach electronig, darparu arbenigedd gwerthfawr ar brosesau archwilio mewnol, cynorthwyo \u00e2 gwaith marchnata a chodi arian, ac mae wrth ei bodd fel mentor i staff newydd.<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL:<\/strong><br \/>\n&#8220;Fe hoffwn i longyfarch nid yn unig Heledd ac enillwyr eraill y Gwobrau, ond yr holl gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gafodd eu henwebu. <\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;n bwysig arddangos eu llwyddiannau, gan fod hynny&#8217;n ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaethau ac yn annog rhagor o gyflogwyr i gyflogi prentisiaid.&#8221;<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Simon Pirotte OBE:<\/strong><br \/>\n&#8220;Dw i am longyfarch yr holl enillwyr a&#8217;r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae eu straeon nhw ynghylch yr effaith fawr y gall prentisiaethau ei chael yn drawiadol, gan helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth foddhaol a chyfrannu at system sgiliau Cymru. Fe fyddan nhw&#8217;n rhan hanfodol o&#8217;r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei sefydlu.&#8221;<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">lyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffoniwch 03000 603000<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Cafodd gwobr Talent Yfory yng ngornest Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni ei hennill gan y Prentis Uwch Heledd Roberts, sydd wedi&#8217;i disgrifio gan ei chyflogwr fel &#8220;chwa o awyr iach&#8221;. Mae Heledd, sy&#8217;n 24 oed o Gaerfyrddin, wedi &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-winner-heledd-roberts\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16,11],"tags":[],"class_list":["post-10576","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10576","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10576"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10576\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10579,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10576\/revisions\/10579"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10576"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10576"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10576"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}